Sut bydd ein hymweliadau ag ysgolion yn cynorthwyo diwygio’r cwricwlwm - Estyn

Sut bydd ein hymweliadau ag ysgolion yn cynorthwyo diwygio’r cwricwlwm


Nid arolygiad mohono

Byddwn yn cysylltu tua 10 diwrnod cyn i ni ymweld. Ond ni fydd cyfnod hysbysu ffurfiol gan nad arolygiad mohono.

Yn ystod ein hymweliadau, byddwn yn annog, yn rhoi sicrwydd, yn procio ac yn cynnig safbwynt o’r newydd i staff ar eu taith i gyflawni nodau’r cwricwlwm newydd.

Cynllunio’r ymweliad

Cyn i ni gyrraedd, bydd yr arolygydd yn ffonio’r pennaeth i gytuno ar amlinelliad bras ar gyfer y diwrnod. Bydd gweithgareddau’n cynnwys trafodaethau ag uwch arweinwyr, llywodraethwyr, staff a disgyblion, a byddwn yn ymweld â gwersi ac yn siarad â disgyblion am eu gwaith hefyd.

Ni fydd adroddiad ysgrifenedig ar ysgolion unigol – y canlyniad allweddol i ni yw ein bod yn casglu gwybodaeth bwysig am y modd y mae’r Cwricwlwm i Gymru yn cael ei roi ar waith mewn ysgolion ledled Cymru.

Gwneud y gorau o’r ymweliad

Mae’n gyfle gwerthfawr i ysgolion ac AEM gael sgwrs agored, ymddiriedus a phroffesiynol. Bydd modd i ysgolion drafod eu syniadau gyda’n harolygwyr profiadol i rannu eu cynlluniau cynnar a’u datblygiadau cychwynnol.

Gall yr ysgolion esbonio unrhyw rwystrau rhag gwneud cynnydd, ac archwilio dulliau posibl o oresgyn yr heriau hyn gyda ni. Bydd arolygwyr wedi arsylwi ysgolion eraill mewn amgylchiadau tebyg sy’n wynebu heriau tebyg, a byddant yn gallu cyfeirio’r ysgol at arfer ddiddorol mewn mannau eraill.

Mae sgyrsiau proffesiynol rhwng arolygwyr, arweinwyr a staff eraill ysgolion yn nodwedd allweddol o’r ymweliad.

Yn ystod yr ymweliad, mae’n bwysig fod ysgolion yn sôn wrthym am ddatblygiadau penodol sy’n dod yn eu blaen yn dda, ac amlygu arfer sy’n dod i’r amlwg ar draws yr ysgol. Mae ein sgyrsiau gyda’r ysgol ynglŷn â beth fydd cynnwys yr ymweliad yn bwysig, a byddant yn helpu gwneud yn siŵr ein bod i gyd yn cael y budd gorau posibl.

Ond nid ydym yn disgwyl i ysgolion baratoi’n benodol ar gyfer yr ymweliad; er enghraifft, ni fyddwn yn gofyn am gael gweld unrhyw ddogfennau oni bai bod yr ysgol eisiau rhannu’r rhain. Gall ysgolion gael y gorau o ymweliadau ymgysylltu trwy feddwl yn gyffredinol am eu heriau a’u llwyddiannau o ran diwygio’r cwricwlwm.

Yn ychwanegol, byddwn yn rhannu ein cynlluniau ar gyfer arolygiadau o 2021 gydag ysgolion, yn ogystal â gweithgareddau eraill sy’n digwydd yn ystod y flwyddyn bontio, tra bydd arolygiadau’n cael eu hatal yn rhannol. Bydd y rhain yn cynnwys cynadleddau a chyfleoedd hyfforddi lle byddwn yn rhannu arfer effeithiol i gefnogi ysgolion â diwygio’r cwricwlwm.

Ar ôl yr ymweliad

Byddwn yn rhannu’r darlun cenedlaethol gyda Llywodraeth Cymru yn rheolaidd ynglŷn â faint o gynnydd y mae ysgolion yn ei wneud yn eu gwaith o ran y Cwricwlwm i Gymru. Bydd hyn yn helpu’r llywodraeth i fod yn hyblyg os bydd angen cymorth neu adnoddau ychwanegol i helpu ysgolion â’r datblygiadau.

Byddwn yn cyhoeddi adroddiadau diweddaru ac yn archwilio ffyrdd o rannu arfer diddorol fel bod gan bawb ddealltwriaeth gyffredin o gynnydd.

Tan hynny…

Rhwng nawr a 2020, byddwn yn parhau i beilota ein hymweliadau ymgysylltu, gan gynyddu ein sampl a rhoi cynnig arnynt mewn gwahanol fathau o ysgolion, er enghraifft ysgolion pob oed ac ysgolion ffederal.

Mae ysgolion wedi rhoi adborth cadarnhaol iawn i ni yn dilyn yr ymweliadau peilot. Dywedodd Rhian James-Collins, Pennaeth Ysgol Gymraeg Bryn y Môr wrthym:

…fe wnaeth yr ymweliad ein sbarduno ni fel ysgol i werthuso ble rydym ni ar y daith o ran cyflwyno’r Cwricwlwm Newydd i Gymru, a myfyrio ar effaith y blaenoriaethau strategol wrth baratoi ar gyfer newid. Roedd hefyd yn gyfle i rannu’r hyn rydym wedi’i wneud hyd yma.”

Dyma oedd barn John Kendall, Pennaeth Ysgol Gyfun Rhisga:

roedd yr ymweliad ymgysylltu yn ddefnyddiol iawn, ac roeddem ni’n falch o gael ein dewis i fod yn rhan o’r cynllun peilot. Nid oedd angen unrhyw baratoi gormodol, ond cawsom ni ddigonedd o rybudd i feddwl am yr hyn roeddem ni eisiau ei drafod. Er mai diwrnod yn unig ydoedd, roedd y gweithgareddau y buom ni’n gweithio arnyn nhw gyda’r AEM yn ystod y cyfnod hwnnw yn gynhyrchiol iawn. Ar ôl y teithiau dysgu, bwrw golwg ar lyfrau a chyfarfodydd gyda staff a disgyblion, cawsom ni adborth adeiladol a buddiol iawn. Cafodd y diwrnod ei gynnal mewn ffordd gefnogol a chydweithredol, gan ein gadael ni’n teimlo’n hyderus yn yr hyn rydym ni eisoes yn ei wneud, a gyda syniadau defnyddiol am ffyrdd eraill y gallwn ni helpu symud yr ysgol ymlaen.”

Byddwn yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol ar sut gallwn ni rannu’r canfyddiadau bras o’r ymweliadau ymgysylltu â nhw, fel eu bod hefyd yn gallu gweld a deall y cynnydd sy’n cael ei wneud gan ysgolion.

Oes gennych chi gwestiynau o hyd? Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin.