Sefydlu gweledigaeth a sicrhau dysgu ac addysgu o ansawdd uchel – paratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru
Troi at y Cwricwlwm i Gymru
Rydym ni wedi chwarae rhan lawn trwy gydol datblygiad y Cwricwlwm i Gymru. Yn ddiweddar, cyhoeddom ein fframwaith arolygu peilot i esbonio sut byddwn yn arolygu ysgolion yn ystod y cyfnod pontio hwn ac wedi mis Medi 2022.
Cyn y pandemig, ymwelom â nifer o ysgolion uwchradd, arbennig a phob oed ac, o ganlyniad cyhoeddom ein hadroddiad thematig, Paratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru. Mae’n canolbwyntio ar ba mor dda mae ysgolion pob oed, uwchradd ac arbennig yn paratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru.
Mae’r adroddiad yn amlygu cryfderau a rhwystrau a nodom yn ystod yr ymgysylltu hwn ag ysgolion ac mae’n cynnig astudiaethau achos a chameos sy’n amlygu sut mae gwahanol ysgolion yn mynd i’r afael â’r diwygio hwn.
Yn yr adroddiad, amlygom bwysigrwydd sefydlu gweledigaeth ar gyfer addysgu a dysgu, a’r angen i sicrhau bod addysgu’n parhau o ansawdd uchel. Siaradom am roi’r weledigaeth honno ar waith yng nghyd-destun disgyblion a chymuned yr ysgol, a phwysigrwydd pawb yn deall y weledigaeth yn llawn ac yn ei rhannu. Hefyd, amlygom bwysigrwydd gwella addysgu fel galluogwr pwysig diwygio’r cwricwlwm.
Ym mis Medi, cynhaliom yr ail mewn cyfres o weminarau a ganolbwyntiodd ar y ddwy agwedd hyn. Ystyriodd y weminar hon ddulliau a ddefnyddiwyd gan ysgolion i ddatblygu’u gweledigaeth ar gyfer y cwricwlwm ac i wella dysgu ac addysgu. Ymunodd arweinwyr pedair ysgol o bob cwr o Gymru â ni a oedd yn barod i rannu’u profiadau wrth iddynt fynd i’r afael â’r agweddau penodol hyn ar eu taith.
Nod rhannu’r canfyddiadau a’r profiadau hyn yw helpu datblygu athrawon ac arweinwyr ysgol i fanteisio ar y cyfle hwn i fyfyrio ar eu dulliau wrth iddynt ddatblygu’u Cwricwlwm i Gymru.
I gael cipolwg pellach i’n hadroddiad thematig, Paratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, gweler ein blog diweddaraf ar flog Cwricwlwm i Gymru Llywodraeth Cymru.