Pwy sy’n gofalu am ein gofalwyr ifanc?
Ym Mai, 2019, fe wnaeth ein hadroddiad, ‘Darpariaeth ar gyfer gofalwyr ifanc mewn ysgolion uwchradd, colegau addysg bellach ac unedau cyfeirio disgyblion ledled Cymru’, archwilio pa mor dda mae darparwyr addysgol yn cefnogi anghenion eu gofalwyr ifanc.
A ydym ni’n gwybod pwy yw ein gofalwyr ifanc?
Mae llawer o bobl ifanc yn cuddio’u rolau gofalu rhag ofn iddyn nhw gael eu bwlio, neu am nad ydynt am siomi eu teuluoedd. Fe welsom nad yw llawer o ysgolion a cholegau yn gwybod pwy yw eu gofalwyr ifanc o gwbl. Os nad ydynt yn gwybod pa ddysgwyr sy’n ysgwyddo’r cyfrifoldebau hyn, yna mae’n annhebygol eu bod yn darparu’r gofal, cymorth ac arweiniad y mae eu hangen ar yr unigolion hyn i lwyddo yn eu haddysg a byw bywydau hapus ac iach.
Felly beth mae ysgolion a cholegau da yn ei wneud i wella profiadau gofalwyr ifanc?
Creu amgylchedd cefnogol
Mae darparwyr da yn gwneud yn siŵr eu bod yn gwybod pwy yw eu gofalwyr ifanc. Maent yn creu amgylchedd cefnogol sy’n annog staff a dysgwyr i siarad yn agored a chadarnhaol am bob mathau o faterion. Mae hyn yn rhoi’r sicrwydd i bobl ifanc ei bod hi’n iawn i siarad am eu gofidiau a’u pryderon.
Mewn amgylcheddau cynhwysol fel hyn, mae gofalwyr ifanc yn teimlo’n ddiogel ac maenn nhw’n fwy tebygol o ddod gerbron a dweud wrth eu hathrawon am eu cyfrifoldebau gofalu gartref, neu efallai gofyn i riant wneud hynny drostynt.
Nodi aelod o staff
Mae teimlo’n ddiogel hyd yn oed yn fwy tebygol pan fydd ysgol neu goleg yn nodi athro penodol neu aelod o’r staff cymorth sydd â rôl i hyrwyddo hawliau gofalwyr ifanc. Mae’r bobl hyn yn sicrhau bod pawb yn gweithio gyda’i gilydd i ymateb i anghenion y dysgwyr hyn.
Yn aml, mae gofalwyr ifanc yn dod i ymddiried yn yr oedolion hyn ac maent yn barod i rannu’u pryderon gyda nhw, gofyn iddyn nhw am help a chyngor, neu eu defnyddio fel bwrdd seinio pan fydd rhywbeth yn eu poeni.
Yn yr achosion gorau, maent yn gwybod bob amser ble i ddod o hyd i’r oedolyn hwnnw maent yn ymddiried ynddo, a hynny’n aml mewn ystafell ddiogel, ymlaciol lle gall gofalwyr ifanc fynd yn ystod y dydd i gael cymorth a chyngor, neu dim ond i weld wyneb cyfeillgar a chael paned o de a sgwrs.
Darparu help ymarferol
Mae ein darparwyr gorau yn cadw golwg fanwl ar lesiant a chynnydd eu gofalwyr ifanc. Maent yn deall y gall pethau ddigwydd ym mywydau’r bobl ifanc hyn sy’n gwneud bod yn yr ysgol neu goleg yn anodd o bryd i’w gilydd.
Weithiau, pan fydd gofalwyr ifanc yn teimlo bod popeth yn eu herbyn, gall pethau eithaf syml helpu:
- mae gadael iddynt ffonio adref yn ystod y dydd i gysylltu ag aelodau’r teulu yn eu helpu i reoli unrhyw bryderon a allai dynnu eu sylw oddi ar eu gwaith
- mae darparu gwisg ysgol, llyfrau ac offer yn golygu nad oes rhaid iddyn nhw boeni am gael y pethau iawn yn yr ysgol drwy’r amser
- mae cael man tawel i wneud eu gwaith cartref yn rhoi tawelwch meddwl iddyn nhw na fyddant yn mynd i drwbl os na allant wneud eu gwaith adref
- gall eu helpu i gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol neu chwaraeon amser cinio roi hwb i’w hyder a’u helpu i ddatblygu cyfeillgarwch
- mae cynnig cludiant unwaith neu ddwy yr wythnos ar ôl gweithgareddau allgyrsiol yn golygu nad ydynt yn colli allan ohenrwydd nad ydyn nhw’n gallu mynd adref wedyn
Peidiwch ag anghofio cynnydd a chyflawniad addysgol
Wrth gwrs, mae wir yn bwysig sicrhau llesiant gofalwyr ifanc, ond weithiau mae’n rhy hawdd anghofio bod eu cynnydd a’u cyflawniad addysgol yn haeddu’r un sylw.
Tydy e ddim yn syndod bod gan ofalwyr ifanc gwell siawns o wneud yn dda yn academaidd mewn ysgolion a cholegau sy’n adnabod eu gofalwyr ifanc yn dda. Mae’r darparwyr hyn yn gwneud eu gorau i fodloni anghenion gofalwyr ifanc ar draws pob agwedd ar eu haddysg a’u datblygiad personol.
Mae’r darparwyr gorau yn olrhain cynnydd eu gofalwyr ifanc yn yr un ffordd ag y gwnânt ar gyfer grwpiau eraill o ddysgwyr sy’n agored i niwed. Gall hyn wneud gwahaniaeth mawr o ran pa mor dda y mae’r dysgwyr hyn yn cyflawni yn eu haddysg.
Beth nesaf?
Mae ein hadroddiad ar y testun yn cynnwys astudiaethau achos diddorol ac ysbrydolgar gan ddarparwyr sydd wir wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau gofalwyr ifanc.
Fe welwch ddolenni yno hefyd at nifer o becynnau cymorth a chynlluniau gwobrwyo a fydd yn eich helpu i wella’ch darpariaeth. Ar ddiwedd yr adroddiad, ceir cwestiynau a fydd yn eich helpu chi a’ch staff i feddwl am ba mor dda ydych chi’n adnabod eich gofalwyr ifanc ac yn darparu ar eu cyfer.
Felly, edrychwch ar yr adroddiad a’r cwestiynau yn y rhestr wirio, rhannwch nhw gyda’ch staff, a gweld pa mor dda y credwch eich bod yn gwneud i nodi a chynorthwyo eich gofalwyr ifanc a gofalu amdanynt.
I gael rhagor o wybodaeth am y pwnc hwn, dyma rai adnoddau ychwanegol: