Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEau) – sut gall ysgolion gefnogi plant a phobl ifanc sy’n byw mewn amgylchiadau anodd?


Canfu astudiaethau diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru bod bron i hanner yr oedolion yng Nghymru wedi cael profiad o drallod o leiaf unwaith yn ystod eu plentyndod, a bod 14% wedi dioddef bedair gwaith neu fwy wrth iddynt dyfu’n hŷn.  Mae’r mathau hyn o brofiadau’n cael effaith negyddol iawn ar iechyd plentyn, gan gynnwys iechyd meddwl, ymgysylltu’n gymdeithasol, ymddygiad a phresenoldeb ysgol. 

Mae cefnogi plant a phobl ifanc sy’n byw mewn sefyllfaoedd anodd yn agwedd bwysig ar waith ysgol.  Roedd ein hadroddiad o fis Ionawr 2020, ‘Adnabod eich plant – cefnogi disgyblion sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ’, yn archwilio’r effaith mae ysgolion yn ei chael ar ddisgyblion sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.  Mae ymchwil Iechyd Cyhoeddus Cymru’n dweud wrthym fod dylanwadau fel ffrindiau, oedolion dibynadwy, y gymuned a’r ysgol yn helpu plant i fagu gwydnwch ac ymdrin yn well â chaledi difrifol. 

Pam ysgolion?

Staff ysgol yw’r gweithwyr proffesiynol sy’n treulio’r amser mwyaf â phlant a phobl ifanc.  Efallai bod gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr iechyd yn gweithio â nhw, ond nid ydynt yn eu gweld bob dydd, yn wahanol i athrawon a staff cymorth.  Mae hyn yn golygu mai ysgolion sydd yn y sefyllfa orau i nodi anawsterau, a chefnogi a dylanwadu ar blant a phobl ifanc. 

Gwelwn fod yr ysgolion gorau’n adnabod eu disgyblion a’u teuluoedd yn dda, ac yn gweithio’n gynhyrchiol mewn ffordd nad yw’n eu barnu.  Maent yn defnyddio eu profiad a chanfyddiadau ymchwil a hyfforddiant i gefnogi plant a phobl ifanc i’w helpu i fanteisio i’r eithaf ar yr ysgol. 

Beth mae’r ysgolion gorau yn ei wneud i gefnogi plant ac adeiladu eu gwydnwch?

Dyma rai o’r gweithgareddau buddiol sy’n digwydd mewn ysgolion cynradd ac uwchradd:

  • Sesiynau maethu i roi amser i ddisgyblion fwyta, cymdeithasu a chwarae gemau gyda’i gilydd cyn ac ar ôl ysgol, ac yn ystod amseroedd egwyl. 
  • Gweithgareddau pwrpasol a buddiol sy’n defnyddio pynciau creadigol, fel cerdd a chelf, i hybu iechyd meddwl cadarnhaol.
  • Clybiau ar ôl ysgol sy’n ennyn diddordeb plant a phobl ifanc, yn eu galluogi i weithio’n gynhyrchiol ag oedolion dibynadwy a’u cyfoedion, ac yn hybu eu gwydnwch.  Mae’r rhain yn cynnwys clybiau coginio, clybiau TGCh a chlybiau chwaraeon. 
  • Polisi ymddygiad cadarnhaol, lle mae staff yn defnyddio iaith sy’n ymgysylltu â disgyblion ac yn cefnogi eu hemosiynau, ac yn ffafrio dulliau adferol yn hytrach na chosbau i newid ymddygiad gwael.
  • Ardaloedd neu ystafelloedd diogel a thawel lle gall disgyblion, yn enwedig rhai hŷn, ymlacio neu gael amser i fyfyrio’n bersonol pan fyddant yn teimlo’n bryderus neu wedi’u gorlethu.
  • Rhaglenni cymorth i grwpiau targedig o blant wedi’u cynnal gan staff hyfforddedig, fel rheoli dicter, hyfforddiant emosiynau, therapi chwarae a meddylgarwch.
  • Dosbarthiadau a grwpiau ymgysylltu â rhieni i gefnogi oedolion sy’n agored i niwed.  Mae gweithgareddau’n cynnwys gwersi coginio a llythrennedd, dosbarthiadau magu plant, a chynnal gwerthiannau dillad a banciau bwyd.
  • Cyfarfodydd rheolaidd â phartneriaid o’r gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd er mwyn sicrhau bod pawb yn cydweithio â’i gilydd er lles teuluoedd y mae angen cymorth arnynt.

Mae pandemig COVID 19 wedi’i gwneud yn anoddach i ysgolion ddarparu’r lefelau cymorth arferol i ddisgyblion sy’n agored i niwed.  Gan  fod disgyblion bellach yn dychwelyd i’r ysgol, mae angen i ni wneud yn siŵr eu bod wedi’u hamddiffyn, a bod ysgolion yn darparu amgylchedd lle mae disgyblion yn teimlo’n ddiogel a bod ganddynt gefnogaeth.  Mae gan NSPCC lawer o gyngor ac adnoddau defnyddiol i blant a phobl ifanc, yn ogystal â’u rhieni a gofalwyr.

Sut gall ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus ddarparu cymorth gwell?

Mae ein hadroddiad ‘Adnabod eich plant’  yn cynnwys llawer o astudiaethau achos diddorol o arfer dda mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru, yn ogystal ag enghreifftiau o waith amlasiantaeth buddiol.  Yn gyntaf, dylai ysgolion sicrhau eu bod yn rhoi ffocws cryf ar feithrin a chynnal perthynas ymddiriedus, gadarnhaol ac agored â theuluoedd.  Yn olaf, dylai ysgolion ddarparu mannau tawel, anogol a chefnogol i blant a phobl ifanc ymlacio a theimlo’n ddiogel pan fyddant yn teimlo dan straen, yn bryderus neu’n drist.