Pam mae angen i ni barhau i siarad am fwlio


Pam mae angen i ni fynd i’r afael â bwlio yn uniongyrchol

Gall bwlio’n cael effeith ddybryd ar blentyn, yn seicolegol ac yn gymdeithasol. Gall effeithio’n sylweddol ar bresenoldeb a chynnydd y plentyn yn yr ysgol, a chael effaith ar berthnasoedd a lles sy’n para hyd oedolaeth.

Yn 2019, darganfu arolwg y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion fod dros draean o ddisgyblion o bob oed wedi dweud eu bod ‘wedi cael eu bwlio yn yr ysgol dros yr ychydig fisoedd diwethaf’ a dywedodd un o bob chwech eu bod ‘wedi bwlio rhywun arall dros y misoedd diwethaf’.

Yn yr un modd, ym mis Mai, darganfu Ofcom fod bron i draean o ddisgyblion wedi dioddef bwlio ar-lein.

Dywed ein hadroddiad Gweithredu ar Fwlio (2014) fod profiad disgyblion o fwlio a pha mor dda yr aethpwyd i’r afael â bwlio yn amrywio’n helaeth, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd. Adleisiwyd hyn yn ein hadroddiad Hapus ac Iach (2019). Dangosodd arolwg y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion fod lles disgyblion fel pe bai’n gwaethygu wrth iddynt fynd yn hŷn. Darganfu fod cyfran y disgyblion sy’n cytuno bod aelod staff y gallant ymddiried ynddo yn gostwng o 80% ym Mlwyddyn 7 i 65% ym Mlwyddyn 1.

Mae’n wir fod ymchwil yn dangos bod y glasoed yn effeithio ar les. Fodd bynnag, ni ddylai hyn fod yn esgus sy’n atal ysgolion rhag mynd i’r afael â bwlio yn effeithiol.

Ymddengys bod ymatebion i gwestiynau am les disgyblion, a gasglwyd mewn holiaduron cyn-arolygiad yn ystod arolygiadau o ysgolion cynradd ac uwchradd yn 2018-19, yn ategu’r canfyddiadau hyn. Maent hefyd yn dangos bod cyfran y disgyblion ysgol uwchradd sy’n fodlon â pha mor dda y mae eu hysgolion yn ymdrin â bwlio yn sylweddol is na chyfran y disgyblion ysgol gynradd.

Mae’n wir fod ymchwil yn dangos bod llencyndod yn effeithio ar fwlio. Fodd bynnag, ni ddylai hyn fod yn esgus sy’n atal ysgolion rhag mynd i’r afael â bwlio’n effeithiol.

Diffinio bwlio

Nid oes diffiniad cyfreithiol o fwlio, ond yn ei hanfod, mae’n ymddygiad sydd:

  • yn cael ei ailadrodd, ond cydnabyddir bod hyd yn oed digwyddiad unigol yn gallu peri trawma ac ofn i ddysgwr y bydd yn digwydd eto yn y dyfodol
  • yn anodd i ddioddefwyr amddiffyn eu hunain yn ei erbyn
  • â’r bwriad o wneud niwed i rywun yn gorfforol neu’n emosiynol
  • yn aml wedi’i anelu at grwpiau penodol, er enghraifft oherwydd hil, anabledd, crefydd, rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol

Gall fod yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, er enghraifft trwy roi sïon cas ar led am rywun neu eu heithrio o grwpiau cymdeithasol.

Wrth benderfynu p’un a yw ymddygiad yn bwlio, mae’n bwysig ystyried safbwynt y plentyn.

Y gyfraith ar atal bwlio mewn ysgolion

Mae gan ysgolion ddyletswyddau cyfreithiol i gynnal hawl ddynol sylfaenol plant i fod yn rhydd rhag camdriniaeth ac, felly, rhaid iddynt fynd i’r afael â phob ffurf ar fwlio. Mae rhai dyletswyddau allweddol yn cynnwys rheidrwydd ar y staff i weithredu i ddileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon, annog cydraddoldeb a meithrin perthnasoedd da rhwng disgyblion.

Ymhlith pethau eraill, mae’n rhaid bod gan ysgolion bolisi ymddygiad sy’n amlinellu sut y bydd:

  • yn atal pob ffurf ar fwlio ymhlith disgyblion
  • yn cofnodi bwlio
  • yn ymchwilio i ddigwyddiadau ac yn delio â nhw
  • yn cefnogi’r dioddefwyr
  • yn delio â bwlis

Mae’n rhaid rhoi gwybod i bob athro, disgybl a rhiant beth yw’r polisi. Hefyd, dylai ysgolion hyfforddi staff i atal, amlygu a delio â bwlio.

Gall unrhyw un wneud cwyn i’r heddlu am fwlio, ond mae siarad â’r ysgol gyntaf yn syniad da fel arfer.

Beth os yw eich plentyn yn cael ei fwlio – beth allwch chi ei wneud i helpu?

  • Rhowch sicrwydd i’r plentyn mai dweud wrthych chi am y bwlio oedd y peth cywir i’w wneud.
  • Pwyllwch a gwnewch nodyn o’r holl ffeithiau (pwy, pryd, ble …).
  • Gofynnwch i’ch plentyn roi gwybod yn syth i athro am unrhyw ddigwyddiadau pellach.
  • Trefnwch apwyntiad i weld athro dosbarth neu flwyddyn eich plentyn ac esboniwch beth sy’n digwydd i’ch plentyn. Byddwch yn benodol!
  • Cadwch gofnodion cywir o’r bwlio a’r camau y mae’r ysgol yn cytuno i’w cymryd, a siaradwch â’r ysgol os nad ydych yn teimlo’i bod hi’n cadw at hyn.
  • Gofynnwch i athro’ch plentyn beth allwch chi ei wneud gartref i helpu.
  • Cadwch mewn cysylltiad â’r ysgol – rhowch wybod iddi os yw pethau’n gwella ai peidio.

Os ydych chi’n teimlo nad yw’r ysgol yn delio â’ch pryderon:

  • Gwiriwch p’un a yw’r ysgol wedi dilyn ei pholisi.
  • Trefnwch apwyntiad i weld y pennaeth – cadwch gofnod o’r cyfarfod a dilyn hynny i fyny’n ysgrifenedig, os bydd angen.
  • Os na fydd hyn yn helpu, ysgrifennwch at gadeirydd y llywodraethwyr i roi gwybod am eich pryderon a pha gamau yr hoffech iddo’u cymryd.
  • Os nad ydych o’r farn bod y corff llywodraethol wedi delio â’ch cwyn yn briodol, gallwch ysgrifennu’n uniongyrchol i’r awdurdod lleol. Ni all yr awdurdod newid penderfyniad yr ysgol, ond gall wirio p’un a yw’r ysgol wedi dilyn y gweithdrefnau cywir. 

Mae amrywiaeth eang o grwpiau cymorth all helpu os yw eich plentyn yn cael ei fwlio (gweler isod).

Arfer dda mewn ysgolion

Y wers bwysicaf a ddysgom yn ein hadroddiadau Gweithredu ar Fwlio a Hapus ac Iach oedd fod atal ac ymateb yn mynd law yn llaw mewn ysgolion sy’n delio’n effeithiol â bwlio ac yn cefnogi lles disgyblion. Dylai ysgolion gofnodi digwyddiadau’n gywir ac yn systematig, a defnyddio’r wybodaeth hon gydag ymchwil ac arfer dda i wella’u dulliau yn barhaus. Mae’n hanfodol bod ysgolion yn gweithredu i ddelio â’r ymddygiad a’r agweddau sylfaenol sy’n annog bwlio, drwy eu cwricwlwm a’u hethos hefyd.

Os bydd disgyblion yn teimlo bod y negeseuon a gânt gan eu hysgol am barch a goddefgarwch yn wahanol i’w profiad, bydd hyn yn tanseilio gwaith yr ysgol. Er enghraifft, prin yw gwerth gwersi am fwlio os nad yw disgyblion yn fodlon â’r ffordd y mae’r ysgol yn delio â honiadau o fwlio.

Mae amrywiaeth eang o gymorth ar gael i ysgolion. Rwyf wedi darparu rhai dolenni i adnoddau Llywodraeth Cymru ac elusennau cenedlaethol, ynghyd â’n harweiniad atodol a’n hadroddiadau i helpu cynorthwyo ysgolion â’u dulliau.

Mae wythnos gwrthfwlio 2019 yn dechrau ar 11 Tachwedd. Dylai ysgolion ddefnyddio hyn fel cyfle i wirio bod eu hymagwedd yn un ysgol gyfan mewn gwirionedd ac nad yw disgyblion o’r farn bod ymdrechion yr ysgol yn ddigwyddiad unigol. Yn anad dim, dylai ysgolion adolygu p’un a yw eu gwaith yn cael yr effaith a ddymunir ar lefelau bwlio a lles disgyblion. Os nad ydyw, dylent weithredu i wneud y newidiadau y mae eu hangen.

Cymorth i blant a rhieni

Cymorth i ysgolion

Adroddiadau ac arweiniad atodol Estyn:

Welsh Government

Ymchwil a newyddion