Article details

Dyfrig Ellis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol
By Dyfrig Ellis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol
Postiadau blog |

Noson wobrwyo yn dathlu rhagoriaeth

Share this page

Mae cael cydnabyddiaeth am wneud gwaith da yn rhoi boddhad ac yn symbylu. Ar nos Wener ym mis Hydref, daeth dros 100 o staff sy’n gweithio mewn ysgolion, lleoliadau nas cynhelir ac unedau cyfeirio disgyblion ynghyd mewn seremoni i gael eu llongyfarch a’u gwobrwyo gan Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi, a Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, am eu barnau arolygu rhagorol. Roedd yn noson i’w chofio – dyma sut yr aeth hi.

Croesawu’r cynrychiolwyr – o benaethiaid i gynorthwywyr addysgu, cadeiryddion llywodraethwyr i arweinwyr lleoliadau – bu’n tîm yn cyfarch y gwesteion, a wnaeth fwynhau cerddoriaeth gan delynores leol cyn y seremoni.

harp

Arweinydd y noson oedd Mike Hayes, AEM, a amlygodd sut mae pob unigolyn yn yr ystafell yn deall pwysigrwydd:

  • buddsoddi mewn addysgeg ragorol 
  • nad yw plant bob amser yn dysgu yn yr un ffordd
  • y disgwyliadau uchel y mae angen eu gosod i hybu addysgu effeithiol a heriol, sy’n bodloni anghenion pob dysgwr

Meddai:

Mae un edau aur yn uno pob un ohonoch. A dylai pob aelod o staff, rhiant a llywodraethwr yn eich lleoliad fod yn falch tu hwnt o’r ffaith eich bod chi oll yn gosod eich plant, eich disgyblion, eich dysgwyr wrth wraidd eich gwaith.

mike

Ar ôl mwynhau’r ddau gwrs cyntaf, roedd hi’n bryd i Brif Arolygydd Ei Mawrhydi annerch y gynulleidfa. Amlygodd fod:

ysgolion llwyddiannus yn fannau cydweithredol, creadigol, trefnus a hapus – i’r disgyblion, y staff, y llywodraethwyr a’r rhieni, lle mae’r holl randdeiliaid yn cydweithredu i ddarparu cwricwlwm diddorol, difyr, perthnasol a heriol i’w dysgwyr.”

Nododd Meilyr mai ein her nawr yw rhannu’r angerdd a’r rhagoriaeth honno yn genedlaethol gyda phob ysgol a darparwr yng Nghymru. Dyma pam rydym ni wedi casglu’r strategaethau llwyddiannus ynghyd gan yr holl ddarparwyr ‘rhagorol’ hyn.

Yna, roedd hi’n bryd dechrau’r seremoni wobrwyo. Dechreuom trwy gyflwyno tystysgrifau mewn ffrâm i leoliadau nas cynhelir, ysgolion uwchradd, ysgolion annibynnol, ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion. Croesawodd Delyth Gray, AEM, a Claire Ait-Hammi, Swyddog Lleoli, y cynrychiolwyr i’r llwyfan.

cardiff high

Ar ôl hoff ran pawb o’r noson (y pwdin), roedd hi’n anrhydedd clywed gan Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg. Bydd ei geiriau wedi aros gyda sawl un:

Da iawn, iawn i bawb sydd yma heno. Rydych chi’n fy ysbrydoli i, rydych chi’n gallu ysbrydoli’ch cyd-addysgwyr. Ond, yn anad dim, rydych chi’n ysbrydoli’r plant a’r bobl ifanc i fod y gorau oll y gallant fod.

Aeth gwobrau terfynol y noson i’r 29 ysgol gynradd o bob cwr o Gymru a oedd wedi cyflawni ‘rhagorol’ mewn tair barn arolygu neu fwy yn 2018-2019.

glenboi primary school

Mae cyflawni rhagoriaeth yn galw am waith caled ac ymroddiad. Gadewch i’r darparwyr hyn eich ysbrydoli chi a darllenwch eu hastudiaethau achos ar sut y gwnaethant gyflawni llwyddiant. Nid oes angen i chi wneud yn union fel y gwnân nhw ond bydd o ddiddordeb i chi, yn ein barn ni. A allech chi ennill cydnabyddiaeth am ragoriaeth hefyd?

Ychwanegu sylw newydd

Testun plaen

  • No HTML tags allowed.
  • Llinellau a pharagraffau yn torri'n awtomatig.
  • Web page addresses and email addresses turn into links automatically.