Ein cefnogaeth i addysg a hyfforddiant Cymru yn yr hinsawdd gyfredol - Estyn

Ein cefnogaeth i addysg a hyfforddiant Cymru yn yr hinsawdd gyfredol


Cyngor ac arweiniad ar gyfer y llywodraeth

Ein nod yn Estyn yw cefnogi addysg a hyfforddiant Cymru yn gyffredinol – ysgolion, lleoliadau nas cynhelir, athrawon, uwch arweinwyr, arweinwyr, dysgwyr, rhieni, darparwyr ôl-16 a sefydliadau eraill – trwy gynnig tystiolaeth a’n cyngor annibynnol a gwrthrychol i’r llywodraeth.

Fel y gwyddoch, fe wnaethom atal ein holl ymweliadau arolygu craidd ac ymweliadau eraill cyn gynted ag y gallem.  Ar hyn o bryd, rydym ni’n cadw mewn cysylltiad â darparwyr addysg a hyfforddiant trwy alwadau ffôn a fideo, a byddwn yn parhau i wneud hyn am y tro.  Mae wedi bod yn fuddiol iawn clywed gan ysgolion a sefydliadau eraill am y modd y maen nhw’n cefnogi lles dysgwyr a staff a sut maen nhw’n delio â’r heriau presennol.

Hefyd, rydym ni wedi adleoli staff i Lywodraeth Cymru, ac wedi cefnogi prosiect parhad dysgu’r llywodraeth ar gyfer plant a phobl ifanc.

Dysgu oddi wrth yr hyn sy’n gweithio’n dda

Ni fyddwn yn arolygu ysgolion a gynhelir yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf (Medi 2020 – Gorffennaf 2021).  Wedi cyfnod o ail-addasu i’r sefyllfa newydd, bydd ein harolygwyr yn ymweld er mwyn gwrando ar bryderon ac i nodi’r hyn sy’n gweithio’n dda.

Bwriad ein sgyrsiau ag ysgolion ar hyn o bryd a’r ymweliadau ymgysylltu yn y dyfodol bydd cael darlun cenedlaethol. Ni fydd hyn er mwyn barnu dulliau ysgolion unigol, ond i gasglu gwybodaeth am y system addysg yn gyffredinol, a dirnad effaith uniongyrchol a thymor hir yr argyfwng coronafeirws ar ddysgu ac ar les disgyblion a staff.

Hefyd, byddant yn gyfle i gofnodi a rhannu arfer arloesol ac effeithiol.

Gweithgarwch dilynol

Ni fyddwn yn parhau ag ymweliadau monitro ffurfiol ar gyfer ysgolion a darparwyr eraill sydd mewn categori gweithgarwch dilynol. Er y byddai rhai yn hoffi i ni wneud hynny, nid ydym yn credu bod hyn yn briodol o dan yr amgylchiadau presennol.

Rydym eisoes wedi cysylltu â darparwyr sy’n peri pryder ar hyn o bryd i esbonio beth fydd yn digwydd nesaf ac i gynnig cymorth gan AEM unigol.

Gwrando ac addasu

Mae hwn yn gyfnod ansicr, ac rydym wedi ymrwymo i fod yn gefnogol ac yn hyblyg yn y ffordd yr ydym yn ymgymryd â’n rôl ar hyn o bryd.

Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid o sectorau heblaw am ysgolion a gynhelir ar sut y byddwn yn addasu ein trefniadau ar eu cyfer am y flwyddyn sydd i ddod.

Byddwn yn addasu ein gwaith wrth i’r sefyllfa ddatblygu a sicrhau eich bod yn cael gwybodaeth lawn am ein bwriadau.

Cadwch yn ddiogel, a daliwch ati i ddysgu.


Darllenwch y datganiad llawn