Efallai nad ydyn ni’n dweud wrth ein hathrawon, ond hoffen ni deimlo’n ddiogel i ‘ymestyn allan’ iddynt


Mae Estyn yn gyfrifol am wirio safonau ac ansawdd addysg yng Nghymru. Rydym yn arolygu ysgolion ac yn rhoi cyngor rheolaidd ar addysg i Lywodraeth Cymru a sefydliadau perthnasol eraill.

Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau bod gan bob plentyn yng Nghymru yr hawl i deimlo’n ddiogel yn yr ysgol, i gael gofal priodol a dweud eu dweud am yr hyn sy’n bwysig iddynt. Mae bwlio yn fater pwysig i ni ac yn un rydym yn ei ystyried yn rheolaidd drwy ein gweithgarwch arolygu neu adroddiadau thematig ac wrth i ni roi arweiniad i Lywodraeth Cymru.

Rydym yn falch o gefnogi’r Gynghrair Gwrthfwlio a hyrwyddo ymgyrch ‘Estyn Allan’ (‘Reach Out’) Wythnos Gwrthfwlio 2022, sy’n cael ei chynnal rhwng 14 a 18 Tachwedd.

Yn ddiweddar, cyhoeddom adroddiad ar fath penodol o fwlio sy’n digwydd rhwng plant a phobl ifanc – sef aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion. Roedd yr adroddiad, Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon, yn edrych ar fynychdra aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ym mywydau pobl ifanc oed uwchradd a hefyd yn edrych ar y diwylliant a’r prosesau sy’n helpu i ddiogelu a chefnogi pobl ifanc mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru. 

Dywedodd llawer o’r disgyblion y siaradom â nhw nad ydyn nhw’n ‘ymestyn allan’mewn perthynas â bwlio ac aflonyddu. Dywedon nhw fod hyn oherwydd ei fod yn digwydd mor aml ei fod wedi dod yn ‘normal’. Fodd bynnag, yn ystod ein 
trafodaethau â grwpiau o ddisgyblion, cawsom ein rhyfeddu gan eu parodrwydd i siarad am y materion hyn. Canfuom fod tua hanner y disgyblion uwchradd yn dweud eu bod wedi cael profiad personol o ryw fath o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, gyda dwywaith yn fwy o ferched yn dweud eu bod wedi cael profiad o hyn o gymharu â bechgyn. Dywedodd pobl ifanc wrthym fod aflonyddu rhwng cyfoedion yn digwydd mwy ar-lein a’r tu allan i’r ysgol nag yn ystod y diwrnod ysgol. Fodd bynnag, yn yr ysgol, y mathau mwyaf cyffredin o aflonyddu yw sylwadau negyddol am y ffordd mae rhywun yn edrych, gofyn am ac anfon lluniau noeth, ac agweddau negyddol cyffredinol tuag at ferched a disgyblion LHDTC+.

Am y tro cyntaf erioed, lluniom adroddiad ar ein canfyddiadau yn benodol i blant a phobl ifanc hefyd. Mae hyn oherwydd y bu cymaint o bobl ifanc yn onest ac yn ddewr wrth siarad â ni am y mater pwysig hwn. Yn ein hadroddiad, Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon, ond mae angen i ysgolion wybod – adroddiad i ddysgwyr, mae adran sy’n annog ac yn helpu pobl i fynd i’r afael â’r materion hyn yn eu hysgolion. Trwy’r adroddiadau hyn, rydym yn gobeithio y gall mwy o bobl ifanc ddod o hyd i’r un dewrder i ‘ymestyn allan’ i helpu i fynd i’r afael ag achosion o fwlio. Rydym yn gwybod nad yw ‘ymestyn allan’ mor hawdd ag y mae’n swnio. Ond rydym yn gwybod hefyd fod angen i ni ddal ati i siarad am fwlio. Cyn y pandemig, ysgrifennom flog pwysig ar hyn: Pam mae angen i ni barhau i siarad am fwlio | Estyn (llyw.cymru). 

Mewn adroddiadau eraill rydym wedi’u hysgrifennu, rydym wedi canfod, er mwyn i ddisgyblion deimlo’n ddiogel i ‘ymestyn allan’ am fwlio, mae angen iddynt fod yn fodlon â’r ffordd mae eu hysgol yn ymdrin â honiadau o fwlio (gweler Iach a hapus –effaith yr ysgol ac iechyd a llesiant disgyblion | Estyn (llyw.cymru)). Mae arnynt 
angen i ysgolion beidio â thanamcangyfrif ei fynychdra na gwrthod ac anwybyddu digwyddiadau bob dydd pan fydd disgyblion yn gwneud sylwadau negyddol neu rhywiaethol tuag at ei gilydd. Yn ein trafodaethau â phobl ifanc, canfuom hefyd y byddai pobl ifanc yn croesawu mwy o gyfleoedd i drafod rhywioldeb a pherthnasoedd iach a’u bod yn gofyn am ddarpariaeth well ar gyfer addysg rhyw. 

Rydym bob amser yn ystyried agweddau pwysig lles, diogelwch a bwlio cyn ymweld ag ysgol neu ddarparwr trwy’r holiaduron cyn-arolygiad rydym yn gwahodd pob disgybl, rhiant a gofalwr, aelod staff a llywodraethwr i’w llenwi. Rydym hefyd yn gofyn cwestiynau yn ymwneud â’r agweddau hyn mewn cyfarfodydd â rhieni ac yn ein trafodaethau grŵp gyda disgyblion. Mae darganfod sut mae disgyblion, rhieni a gofalwyr yn teimlo am ba mor dda mae ysgol yn ymdrin ag achosion o fwlio yn dylanwadu ar ein gweithgarwch yn ystod yr ymweliad. Eleni, buom yn treialu dulliau gwahanol yn ein sgyrsiau â disgyblion er mwyn sicrhau eu bod yn teimlo’n gyfforddus wrth siarad ag arolygwyr. Mae’r rhain yn cynnwys gwahodd disgyblion i ddod â ffrind gyda nhw i gyfarfodydd a defnyddio adnoddau creadigol a luniwyd ar y cyd ag academyddion ac arbenigwyr blaenllaw yn y maes hwn yng Nghymru.

Ers i ni ailddechrau ein harolygiadau ym mis Mawrth 2022, buom yn edrych yn agosach ar y diwylliant diogelu o fewn darparwyr (gweler Arolygu diwylliant diogelu ysgol | Estyn (llyw.cymru)), gan gynnwys pan fydd dysgwyr ar y safle, i ffwrdd o’r safle ac yn dysgu ar-lein. Nid ydym yn ymchwilio i achosion unigol, ond rydym yn ystyried ansawdd gweithgareddau a gynlluniwyd i hyrwyddo lles ac atal ymddygiad ac agweddau negyddol, niweidiol a’r modd y cânt eu cyflwyno. Er enghraifft, trwy edrych ar sut mae darparwyr yn hyrwyddo diogelwch ar-lein, yn cyflwyno addysg bersonol, gymdeithasol a pherthnasoedd ac yn darparu dysgu proffesiynol perthnasol i staff. Rydym hefyd yn siarad â disgyblion a staff am brosesau i’w cadw’n ddiogel ac yn edrych yn ofalus ar ddogfennau ysgolion i ddarganfod a yw trefniadau diogelu’r darparwr yn hyrwyddo diogelwch a lles disgyblion yn effeithiol. 

Rydym yn cydsefyll â’r Gynghrair Gwrthfwlio ac unrhyw sefydliad arall sy’n herio bwlio ac yn ceisio mynd i’r afael ag ef.

I’r holl bobl ifanc, dywedwn: rhowch wybod i staff yr ysgol, aelod o’ch teulu neu oedolyn rydych yn ymddiried ynddo/ynddi am unrhyw broblem a pheidiwch â bod ofn siarad amdani – beth bynnag ydyw. Ymestynnwch allan er mwyn a datryswch y peth. 

Am fwy o wybodaeth am waith Estyn, ewch i www.estyn.llyw.cymru 

Dilynwch Estyn ar Twitter https://twitter.com/EstynAEM