Article details

Richard Lloyd, AEM
By Richard Lloyd, AEM
Postiadau blog |

Dull newydd ar gyfer adroddiadau hunanwerthuso – ond beth mae hyn yn ei olygu i ysgolion?

Share this page

Mae’n wir ein bod, er mis Medi, wedi rhoi’r gorau i ofyn i ysgolion a gynhelir anfon eu hadroddiadau hunanwerthuso atom cyn arolygiad. Yn y blog hwn byddwn yn ateb: Pam gwneud y newid hwn? Beth mae’n ei olygu? Beth fydd yn wahanol mewn arolygiad?

Sut gwnaethon ni gyrraedd y fan hon?

Rydw i wedi dweud erioed bod arolygiad yn dechrau ag adroddiad hunanwerthuso’r ysgol.  Roedd yn dangos pa mor dda roedd ysgol yn adnabod ei hun ac yn blaenoriaethu’r hyn yr oedd angen ei wella.  Roedd y dull hwn yn gweithio mewn ysgolion lle’r oedd arweinwyr yn deall bod gwybodaeth ddibynadwy mewn adroddiad hunanwerthuso yn arwain at wella.

Roedd gofyn i ysgolion rannu eu gwerthusiad ysgrifenedig yn arwain at fanteision.  Roedd yn annog ysgolion i fod yn fwy myfyriol, a phan roedd hyn yn rhan o ddull ehangach o wella, roedd ysgolion yn elwa ar drywydd papur dibynadwy.  Roedd yn eu helpu i ddod o hyd i ffyrdd i wella’n strategol ac adolygu cynnydd yn barhaus.  Ond nid yw’r dull myfyriol hwn, hyd yn oed ar ôl degawdau o hunanwerthuso, yn gyffredin.

Llawer yn y fantol

Dros amser, daeth y term ‘hunanwerthuso’ yn gyfystyr ag adroddiad ysgrifenedig.  Ymddangosodd chwedlau am sut olwg oedd ar adroddiad hunanwerthuso da, a dechreuodd hunanwerthuso ymwneud ag ansawdd yr adroddiad.  Roedd rhai ysgolion yn cyflogi ‘ymgynghorwyr’ i ysgrifennu eu hadroddiadau hyd yn oed, fel eu bod yn ‘barod ar gyfer Estyn’.  Roedd yr ymddygiad hwn yn tynnu’r ddogfen ymhellach o berchenogaeth yr ysgol.  Roedd adroddiadau’n cynnwys pob agwedd ar waith ysgol.  Roeddent yn llafurus, yn tyfu o ran eu maint a daethant yn ddogfennau a oedd â llawer yn y fantol.

Datblygodd ymddygiad nad oedd yn anaml iawn, yn helpu ysgolion i wella.  Roedd hyn yn cynnwys:

  • ysgrifennu adroddiad ar gyfer cynulleidfa allanol
  • gwerthuso popeth
  • rhoi gormod o bwyslais ar ddata
  • bod yn rhy gadarnhaol am waith yr ysgol
  • peidio â chydnabod diffygion
  • profi ar draul gwella
  • cyflogi ymgynghorwyr i ysgrifennu adroddiad ‘gwerthusol’
  • arolygu ansawdd gwaith papur ysgol.

A allwch chi ei brofi?

Weithiau, roedd ysgolion yn teimlo bod angen iddynt brofi pob brawddeg yn yr adroddiad hunanwerthuso, er enghraifft drwy gyfeirio at ddata.  Yn aml, byddai ysgolion yn chwilio am dystiolaeth i brofi i eraill yr hyn roedden nhw’n ei wybod yn barod.  Er enghraifft, ffocws ysgol gyfan ar ymddygiad wrth arsylwi gwersi gyda digonedd o ffurflenni i’w llenwi, pan roedd pawb yn yr ysgol yn gwybod bod ymddygiad yn dda... oherwydd eu bod nhw’n gwybod ei fod yn dda. 

Dylai cadarnhad o resymau i newid neu effaith newid fod yn weladwy ym mywyd a gwaith yr ysgol o ddydd i ddydd.  Dylai pobl wybod pam maent yn gwneud yr hyn maent yn ei wneud a’r gwahaniaeth y mae hynny’n ei wneud i ddisgyblion.

Pam ydym ni’n gwneud y newid hwn?

Oherwydd…

  • rydym yn teimlo mai dyma’r peth cywir i’w wneud a’r adeg gywir i wneud hynny
  • rydym yn arolygiaeth sy’n dysgu – rydym yn myfyrio ar ein hymddygiad, ein systemau a’n prosesau, ac ar y gwahaniaeth y mae’r rhain yn ei wneud i ysgolion a’u dysgwyr
  • nid yw treulio amser yn ysgrifennu adroddiadau yn cynrychioli gwerth da bob tro o ran y gwelliant a wneir na’r baich sy’n cael ei roi ar ysgolion
  • rydym yn cefnogi’r newid i werthuso wedi’i arwain gan brosesau sy’n rhan o welliant ysgol gyfan ac ar draws y system
  • gwnaethom arbrofi â’r dull hwn mewn ysgolion y llynedd ac roedd yn gweithio’n dda
  • hoffem wneud mwy i gynorthwyo ysgolion drwy eu galluogi i ganolbwyntio ar bethau a fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i ddysgwyr.

Beth mae hyn yn ei olygu i ysgolion?

Ni fydd rhaid i ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion a gynhelir gan awdurdod lleol gyflwyno adroddiad hunanwerthuso cyn arolygiad, ond bydd eu prosesau hunanwerthuso yn bwysig iawn o hyd.  Byddwn yn ystyried pa mor dda mae arweinwyr yn adnabod cryfderau eu hysgolion, yr hyn y gallant ei wneud yn well a pha mor dda maent yn defnyddio’r wybodaeth hon i wella’r ysgol.

Beth nad yw’n ei olygu i ysgolion?

Nid yw’n lleihau pwysigrwydd prosesau gwerthuso effeithiol.

Nid yw’n golygu bod adroddiadau hunanwerthuso wedi’u gwahardd.  Y peth pwysig yw bod unrhyw wybodaeth y mae’r ysgol yn ei defnyddio a’i chynhyrchu yn cyfrannu at welliant.

Nid yw’n golygu y daw cynllun gwella’r ysgol yn adroddiad hunanwerthuso newydd.  Ein nod yw i ysgolion beidio â gwastraffu amser ac ymdrech yn symud o un ddogfen i un arall.

Sut olwg fydd ar arolygu?

Pethau a fydd yn aros fel y maent yn ystod arolygiad:

  • Y fframwaith arolygu cyffredin
  • Yr angen i ddarparu cynllun gwella cyfredol
  • Byddwn yn gofyn am yr adroddiad hunanwerthuso diogelu o hyd
  • Gweithgareddau ar y safle.

Pethau a fydd yn newid:

  • Dim adroddiad hunanwerthuso
  • Dim cwestiynau sy’n dod i’r amlwg
  • Bydd cyfarfod cyntaf yr arolygiad yn canolbwyntio ar drafod blaenoriaethau gwella’r ysgol a’r cynnydd a wnaed.

Camau nesaf

Byddwn:

  • yn cadw llygad ar y newidiadau hyn ac yn gofyn am adborth gan ysgolion ac arolygwyr
  • yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ddatblygiadau pellach
  • yn defnyddio’r hyn rydym yn ei ddysgu i helpu i lunio’r cylch nesaf o arolygiadau
  • yn parhau i weithio â phartneriaid i ddatblygu’r Adnodd Gwerthuso a Gwella Cenedlaethol.

Ychwanegu sylw newydd

Testun plaen

  • No HTML tags allowed.
  • Llinellau a pharagraffau yn torri'n awtomatig.
  • Web page addresses and email addresses turn into links automatically.