Cymhwysedd digidol: Gwella medrau digidol disgyblion
Beth yw cymhwysedd digidol?
Mae’n gysyniad sy’n disgrifio medrau yn gysylltiedig â thechnoleg (Lomami et al 2011). Yn Dyfodol Llwyddiannus, amlygodd yr Athro Graham Donaldson ei bod yn bwysig i’n disgyblion ddatblygu eu medrau digidol er mwyn iddynt addasu yn unol â’r byd technolegol sydd bob amser yn newid:
Er mwyn cymryd rhan yn llawn mewn cymdeithas fodern a’r gweithle, mae angen cynyddol eisoes am lefelau uwch o gymhwysedd digidol ac mae’r broses honno’n sicr o barhau i’r dyfodol, er na allwn ddychmygu’r dyfodol hwnnw.
Dyna pam mae’n hanfodol fod addysg yng Nghymru yn paratoi ein plant a’n pobl ifanc i fodloni’r gofynion digidol a allai ddod yn eu bywydau yn y dyfodol.
Ym mis Gorffennaf 2018, fe wnaethom gyhoeddi adolygiad thematig yn ymchwilio i ddulliau yr oedd ysgolion yn eu defnyddio i baratoi ar gyfer rhoi’r Fframwaith ar waith, ac amlygu enghreifftiau o ble mae arfer lwyddiannus yn bodoli. Fe wnaethom hefyd rannu nodweddion cyffredin ysgolion sydd eisoes wedi gwneud cynnydd da wrth gynllunio ar gyfer y fframwaith cymhwysedd digidol.
Beth mae arolygiadau’n ei ddweud wrthym?
Fel arolygydd ysgol, rwy’n ffodus i allu siarad ag ysgolion a phobl ifanc am sut maent yn datblygu eu medrau cymhwysedd digidol. Mae bob amser yn braf clywed disgyblion o bob oedran yn trafod eu gwaith digidol a gweld pa mor gyflym y gallant gymhwyso eu medrau, a defnyddio amrywiaeth o adnoddau digidol a meddalwedd.
Mae datblygu medrau TGCh disgyblion yn parhau i fod yn faes blaenoriaeth i lawer o ysgolion, ac nid yw medrau TGCh disgyblion wedi’u datblygu cystal â’r rheiny ar gyfer llythrennedd a rhifedd. Er hynny, ceir enghreifftiau lle mae ysgolion o bob sector yn rhoi cyfleoedd gwych i ddisgyblion gymhwyso a gwella eu medrau digidol. Yn yr achosion hyn, mae’r effaith ar ddisgyblion yn gadarnhaol ac yn helpu cynyddu hyder disgyblion pan fyddant yn defnyddio gwahanol offer digidol.
Beth sy’n gweithio’n dda?
Yn ystod arolygiadau ac ymweliadau thematig, rydym wedi nodi’r dulliau gorau ar gyfer rhoi’r Fframwaith ar waith mewn ysgolion, ac wedi edrych ar y modd y mae’r rhain wedi gwella medrau digidol disgyblion. Yn yr adran hon, byddaf yn archwilio dulliau cyffredin gyda ffocws penodol ar arweinyddiaeth a darpariaeth.
Yn gyffredinol, ceir arweinyddiaeth gref yn yr ysgolion gorau. Mae arweinwyr yn rheoli newid yn effeithiol ac mae ganddynt weledigaeth glir ar gyfer rhoi’r FfCD ar waith. Maent yn cynnwys eu tîm wrth ddatblygu’r weledigaeth hon ac yn troi hyn yn gynllunio ysgol gyfan gyda ffocws craidd ar wella ansawdd yr addysgu. Thema gyffredin ar draws ysgolion ag arfer effeithiol yw penodi arweinydd digidol cryf. Gall yr arweinwyr hyn yrru a monitro’r ddarpariaeth ar gyfer medrau digidol ar draws yr ysgol, a chymryd unrhyw gamau sydd eu hangen yn ddi-oed.
Mae dysgu proffesiynol o ansawdd uchel yn allweddol i lwyddiant rhoi’r Fframwaith ar waith. Pan fydd ysgolion yn llwyddo i wella medrau digidol, caiff staff eu cynorthwyo’n dda ac mae gweithgarwch dysgu proffesiynol yn eu galluogi i fynd i’r afael â’u hanghenion dysgu eu hunain, a rhai disgyblion.
Sut mae ysgolion yn rhoi’r FfCD ar waith?
Mae yna lawer o agweddau cyffredin sydd wedi cynorthwyo ysgolion yn llwyddiannus i roi’r Fframwaith ar waith, a gwella medrau digidol disgyblion, sef:
- Casglu tystiolaeth ddefnyddiol gan ysgolion trwy eu prosesau hunanwerthuso, a ddefnyddir yn dda i gynllunio ar gyfer gwella
- Arweinwyr digidol effeithiol
- Archwilio’n gadarn gryfderau staff a disgyblion a’u meysydd i’w datblygu gyda’r Fframwaith, gan gynnwys y strwythurau rhwydwaith o fewn eu hysgolion
- Ystod dda o gyfleoedd dysgu proffesiynol pwrpasol a theilwredig yn seiliedig ar anghenion staff a grwpiau unigol
- Codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd medrau digidol gyda chymuned yr ysgol
- Mapio cyfleoedd o ansawdd uchel yn gryf yn y cwricwlwm, er mwyn i ddisgyblion ddatblygu a chymhwyso eu medrau
Heriau sy’n wynebu ysgolion
Wrth sicrhau newid a gwelliant, mae’n debygol y byddwn yn wynebu rhwystrau a heriau ar hyd y ffordd. Mae yna lawer o heriau cyffredin sy’n wynebu ysgolion, sef:
- Caiff arweinwyr anhawster yn datblygu a rhannu gweledigaeth sy’n cynnwys gweithio gydag ysgolion eraill i gefnogi gwelliant
- Ceir problemau cysylltedd mewn ysgolion
- Ni chynllunnir yn ddigon trylwyr ar gyfer datblygu medrau digidol, na’u gwerthuso’n ddigon trylwyr
- Nid yw arweinwyr digidol yn ddigon clir ynglŷn â disgwyliadau eu rolau
- Nid yw mapio’r cwricwlwm yn nodi digon o gyfleoedd ar gyfer datblygu medrau digidol
- Ni ddefnyddir dysgu proffesiynol yn effeithiol i ddatblygu medrau a gwybodaeth athrawon
Cwestiynau i’w hystyried
Mae ein hadroddiad, sef Paratoi ar gyfer y Fframwaith Cymhwysedd Digidol, yn cynnwys cwestiynau buddiol i’w hystyried os ydych yn datblygu cymhwysedd digidol fel blaenoriaeth ar hyn o bryd (tudalennau 19–20).
Enghraifft o arolygiad diweddar…
Yn ein hadroddiad thematig fe wnaethom nodi nifer o astudiaethau achos y gallech eu defnyddio a’u haddasu fel eu bod yn gweddu i’ch lleoliad. Dyma enghraifft o’r modd y mae ysgol a arolygwyd yn ddiweddar wedi datblygu’r Fframwaith:
Ysgol Bryn Tawe (Abertawe)
Mae gan dîm arweinyddiaeth Ysgol Bryn Tawe ffocws clir ar ddatblygu medrau digidol a thechnoleg ar draws eu hysgol. Maent yn gweithio tuag at roi’r Fframwaith ar waith trwy ddatblygu perthnasoedd cryf gyda’u hysgolion clwstwr ac yn cynnal dysgu proffesiynol ar y cyd a lwyddodd i wella gwybodaeth a hyder pob un o’r staff. Nodwedd benodol yw’r ffordd y maent wedi mapio cyfleoedd i ddisgyblion gymhwyso eu medrau digidol ac wedi galluogi arweinwyr digidol i nodi bylchau a meysydd i’w datblygu yn effeithiol. Mae arweinwyr a staff wedi ymateb yn gadarnhaol ac yn gyflym i fynd i’r afael â’r meysydd a nodwyd, sydd wedi arwain at wella ansawdd y ddarpariaeth a safonau medrau digidol disgyblion.
Cyfeiriadau
Ilomäki, L., Kantosalo, A., & Lakkala, M. (2011). What is digital competence? In Linked portal. Brussels: European Schoolnet.
Donaldson, G. (2015). Dyfodol Llwyddiannus, Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru: Hawlfraint y Goron.