Cefnogi lles a dysgu yn ystod COVID-19 – dulliau o bartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned - Estyn

Cefnogi lles a dysgu yn ystod COVID-19 – dulliau o bartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned


A grid of 4 photos showing a person teaching an adult learner in a classroom, a desk with pens and a calculator, a close-up of someone's hand while writing with a yellow pen, and a close-up of an open book being read by someone

Ymrwymiad staff i ymgysylltu â dysgwyr

Trwy gydol y cyfnod clo, mae tiwtoriaid dysgu oedolion yn y gymuned wedi rhoi lles y dysgwyr yn gyntaf, ac maent wedi ymrwymo i barhau i gynnal dosbarthiadau trwy ddefnyddio ystod eang o wahanol strategaethau i ymgysylltu â dysgwyr. Mae tiwtoriaid wedi archwilio ac wedi dysgu sut i ddefnyddio ystod o offer digidol sy’n addas i’w maes pwnc i gysylltu â’r dysgwyr hynny sy’n gallu gweithio ar-lein. Fodd bynnag, nid yw llawer o ddysgwyr sy’n fwy agored i niwed ac yn anodd eu cyrraedd wedi gallu defnyddio caledwedd neu feddalwedd ddigidol bob amser, naill ai oherwydd diffyg offer neu broblemau cysylltu. Mae tiwtoriaid wedi gwneud ymdrech arbennig i gadw golwg ar y dysgwyr hyn, a’u cefnogi. Mewn llawer o achosion, mae tiwtoriaid wedi postio neu ddosbarthu deunyddiau copi caled i gartrefi dysgwyr, weithiau gyda pharseli bwyd. Mae hyn wedi eu helpu i gael sicrwydd am amgylchiadau’r dysgwyr, a chyfeirio dysgwr at unrhyw un o’r cyfleusterau cymorth y gallai fod eu hangen arnynt. Mewn ychydig o achosion, y tiwtor yw’r unig berson y mae dysgwyr wedi siarad ag ef yn ystod yr wythnos. Mae dysgwyr yn gwerthfawrogi’n fawr fod tiwtoriaid wedi cymryd y camau ychwanegol hyn i’w cynorthwyo mewn sefyllfa anodd.

Cefnogi’r dysgwyr hynny heb gysylltiad digidol

Gweithredodd cadeiryddion partneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned yn gyflym ar ddechrau’r cyfnod clo i sicrhau y gallai dysgu oedolion yn y gymuned barhau. Mae llawer o gadeiryddion partneriaethau yn gyflogeion yr awdurdod lleol sydd â sawl rôl i’w cyflawni yn yr awdurdod lleol mewn amgylchiadau arferol yn aml. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod hwn, bu’n rhaid i lawer ohonynt ymgymryd â rolau ychwanegol yn yr awdurdod lleol, fel goruchwylio trefniadau ‘monitro ac olrhain’, goruchwylio recriwtio a lleoli gwirfoddolwyr neu gydlynu gwaith gweithwyr ieuenctid a gwirfoddolwyr ieuenctid i gynnal cysylltiad, a darparu cymorth i bobl sy’n ynysu’n gymdeithasol. Mewn llawer o achosion, mae hyn wedi hwyluso dull cysylltiedig ag adrannau eraill yr awdurdod lleol a gyda phartneriaid dysgu oedolion yn y gymuned i gael ffocws clir ar gefnogi’r dysgwyr sy’n oedolion mwyaf difreintiedig ac ynysig yn gymdeithasol yn y gymuned, o ran lles a dysgu, fel ei gilydd. Mae dysgwyr wedi cael caledwedd technolegol ychwanegol o ffynonellau amrywiol, gan gynnwys yr awdurdod lleol, i sefydlu cyfleusterau benthyca ar gyfer y dysgwyr hynny nad oes ganddynt offer o’r fath. Pan mae awdurdodau lleol wedi benthyca offer digidol i ddisgyblion, mae hyn wedi helpu ychydig o ddysgwyr sy’n oedolion, gan eu bod yn gallu rhannu’r offer gyda’u plant.

Cymru heb ffiniau

Un o ganlyniadau annisgwyl darparu cyrsiau dysgu oedolion yn y gymuned ar-lein yw bod niferoedd y dysgwyr sy’n cofrestru ar gyfer dosbarthiadau, ac yn mynychu dosbarthiadau, wedi cynyddu mewn llawer o achosion. I lawer o ddysgwyr, mae hyn oherwydd eu bod yn ei chael yn haws trefnu’r amser o gwmpas eu hymrwymiadau ac maent yn rhyddhau amser i wneud pethau eraill, am nad oes rhaid iddyn nhw deithio i’r dosbarth. Mewn llawer o achosion, mae dysgwyr SSIE wedi cymryd rhan mewn dosbarthiadau a chwisiau ar-lein gydag aelodau o’u teuluoedd i ddysgu iaith gyda’i gilydd. Mae sawl partneriaeth wedi arbrofi â rhoi cyrsiau ‘diddordeb’ ar-lein gan ddefnyddio amrywiaeth o strategaethau, fel ffrydio ar-lein neu fideos wedi’u recordio gan y tiwtor. Mae’r cyrsiau hyn wedi recriwtio dysgwyr yn llwyddiannus. Mae clybiau ‘coffi’ a ‘the prynhawn’ yn galluogi dysgwyr i aros mewn cysylltiad cymdeithasol hefyd. Yn ychwanegol, mae rhoi cyrsiau ar-lein wedi denu nifer gynyddol o ddysgwyr o wledydd eraill y DU, ac mor bell i ffwrdd â Sydney a Moscow, i gofrestru ar gyfer cyrsiau. O ganlyniad, mae gwasanaeth cyhoeddus yn Lloegr wedi gofyn i un bartneriaeth ddarparu cwrs Iaith Arwyddion Prydain ar-lein ar gyfer ei gyflogeion. Mae cynnwys dysgwyr o bob cwr o’r byd wedi ehangu’r safbwyntiau a fynegir mewn sesiynau, ac wedi bywiogi trafodaethau.  Mae hygyrchedd cyrsiau dysgu oedolion yn y gymuned yn helpu uchafu proffil Cymru o gwmpas y byd.

Sicrhau ansawdd dysgu cyfunol achrededig

Ar yr adeg pan orfodwyd y cyfnod clo gan y llywodraeth, roedd llawer o ddysgwyr wrthi’n cwblhau cyrsiau achrededig. Cysylltodd arweinwyr dysgu oedolion yn y gymuned â’r cyrff dyfarnu, a gyda’i gilydd, fe wnaethant gytuno ar ffyrdd y gallai arweinwyr fonitro, safoni a gwirio gwaith dysgwyr o bell, gan ganiatáu i ddysgwyr ennill eu cymwysterau yn hyderus a symud ymlaen i ddilyn cyrsiau gwahanol yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf. I fonitro addysgu a dysgu, cytunodd arweinwyr â thiwtoriaid ac arweinwyr y byddent yn ‘mynychu’r’ dosbarth, er mwyn iddyn nhw allu cael profiad uniongyrchol o’r addysgu a’r dysgu. Sefydlodd arweinwyr drefn  briodol fel bod pawb yn ymwybodol o sut byddai arweinwyr yn monitro. Trwy wneud hyn, roedd arweinwyr hefyd yn gallu ymgysylltu â dysgwyr a gofyn iddyn nhw yn uniongyrchol am eu profiadau o’r cwrs yn gyffredinol, ac o ddysgu ar-lein yn benodol. Bydd y wybodaeth hon yn helpu arweinwyr a thiwtoriaid i fireinio darpariaeth dysgu cyfunol yn y dyfodol. I gynnal cyfarfodydd safoni, trefnodd arweinwyr gyfarfodydd ar-lein gyda thiwtoriaid gydag agendâu a phrotocolau clir gan ddefnyddio technoleg ddigidol, a oedd yn eu galluogi i rannu eitemau perthnasol ar y sgrin.