Beth gall ysgolion ac UCDau ei wneud i gryfhau gwydnwch disgyblion?
Anaml iawn mae arweinwyr ysgolion yn sôn am adeiladu gwydnwch disgyblion fel prif nod neu amcan. Yn aml, mae gwydnwch yn cael ei gryfhau o ganlyniad i waith arall sy’n cael ei wneud i gefnogi disgyblion. Mae ysgolion yn dod yn fwyfwy ymwybodol o faterion sy’n effeithio ar eu disgyblion, ac maent yn dod yn well am adnabod y rhai y mae angen cymorth arnynt â’u lles a’u hiechyd meddwl.
Mae nifer o achosion o arfer dda yn y maes hwn yn cael eu hamlygu mewn rhai o’n hadroddiadau thematig diweddar, fel Adnabod eich plant – cefnogi disgyblion sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, Iach a Hapus, a Cymorth effeithiol yn yr ysgol ar gyfer disgyblion sydd dan anfantais a disgyblion sy’n agored i niwed.
Yng Ngorffennaf gyhoeddwyd “Gwydnwch dysgwyr – meithrin gwydnwch mewn ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac unedau cyfeirio disgyblion”..
Yn gyffredinol, mae’r ffactorau sy’n cefnogi gwydnwch yn ymwneud â:
- hunan-barch a hunanhyder
- credu yn ein gallu ein hunain i ymdopi
- ystod o ddulliau i’n helpu i ymdopi
- perthynas dda â phobl eraill y gallwn ddibynnu arnynt i helpu
Lles emosiynol a iechyd meddwl
Mae’r ysgolion hyn yn deall bod yr holl staff yn gyfrifol am les emosiynol disgyblion, a bod pob rhyngweithiad ac ymgysylltiad â disgyblion yn effeithio ar eu hymdeimlad o werth. Yn yr ysgolion hyn, mae staff yn gwybod bod eu holl eiriau, gweithredoedd ac agweddau yn dylanwadu ar hunan-barch a hunanhyder disgyblion ac, yn y pendraw, eu lles.
Mae’n bwysig bod disgyblion yn cael cyfleoedd rheolaidd i fynegi eu hemosiynau a rhannu eu teimladau yn yr ysgol. Mae gan ysgolion llwyddiannus ddulliau clir ar gyfer gwrando ar bryderon disgyblion a mynd i’r afael â nhw’n gyflym. Maent yn effro i sut mae disgyblion yn teimlo yn ystod y dydd, ac yn cydweithio â disgyblion i nodi aelodau staff penodol y gallant droi atynt, yn ôl yr angen.
Gall dulliau anogol fod yn llwyddiannus iawn o ran helpu i adeiladu gwydnwch disgyblion sy’n cael trafferth ymdopi â’u hamgylchiadau cyfredol. Gall staff hyfforddedig helpu disgyblion i ddatblygu eu medrau pers