jon.oshea, Author at Estyn - Page 3 of 3

Author: jon.oshea


Author: jon.oshea


Sut gwnaethon ni gyrraedd y fan hon?

Rydw i wedi dweud erioed bod arolygiad yn dechrau ag adroddiad hunanwerthuso’r ysgol.  Roedd yn dangos pa mor dda roedd ysgol yn adnabod ei hun ac yn blaenoriaethu’r hyn yr oedd angen ei wella.  Roedd y dull hwn yn gweithio mewn ysgolion lle’r oedd arweinwyr yn deall bod gwybodaeth ddibynadwy mewn adroddiad hunanwerthuso yn arwain at wella.

Roedd gofyn i ysgolion rannu eu gwerthusiad ysgrifenedig yn arwain at fanteision.  Roedd yn annog ysgolion i fod yn fwy myfyriol, a phan roedd hyn yn rhan o ddull ehangach o wella, roedd ysgolion yn elwa ar drywydd papur dibynadwy.  Roedd yn eu helpu i ddod o hyd i ffyrdd i wella’n strategol ac adolygu cynnydd yn barhaus.  Ond nid yw’r dull myfyriol hwn, hyd yn oed ar ôl degawdau o hunanwerthuso, yn gyffredin.

Llawer yn y fantol

Dros amser, daeth y term ‘hunanwerthuso’ yn gyfystyr ag adroddiad ysgrifenedig.  Ymddangosodd chwedlau am sut olwg oedd ar adroddiad hunanwerthuso da, a dechreuodd hunanwerthuso ymwneud ag ansawdd yr adroddiad.  Roedd rhai ysgolion yn cyflogi ‘ymgynghorwyr’ i ysgrifennu eu hadroddiadau hyd yn oed, fel eu bod yn ‘barod ar gyfer Estyn’.  Roedd yr ymddygiad hwn yn tynnu’r ddogfen ymhellach o berchenogaeth yr ysgol.  Roedd adroddiadau’n cynnwys pob agwedd ar waith ysgol.  Roeddent yn llafurus, yn tyfu o ran eu maint a daethant yn ddogfennau a oedd â llawer yn y fantol.

Datblygodd ymddygiad nad oedd yn anaml iawn, yn helpu ysgolion i wella.  Roedd hyn yn cynnwys:

  • ysgrifennu adroddiad ar gyfer cynulleidfa allanol
  • gwerthuso popeth
  • rhoi gormod o bwyslais ar ddata
  • bod yn rhy gadarnhaol am waith yr ysgol
  • peidio â chydnabod diffygion
  • profi ar draul gwella
  • cyflogi ymgynghorwyr i ysgrifennu adroddiad ‘gwerthusol’
  • arolygu ansawdd gwaith papur ysgol.

A allwch chi ei brofi?

Weithiau, roedd ysgolion yn teimlo bod angen iddynt brofi pob brawddeg yn yr adroddiad hunanwerthuso, er enghraifft drwy gyfeirio at ddata.  Yn aml, byddai ysgolion yn chwilio am dystiolaeth i brofi i eraill yr hyn roedden nhw’n ei wybod yn barod.  Er enghraifft, ffocws ysgol gyfan ar ymddygiad wrth arsylwi gwersi gyda digonedd o ffurflenni i’w llenwi, pan roedd pawb yn yr ysgol yn gwybod bod ymddygiad yn dda… oherwydd eu bod nhw’n gwybod ei fod yn dda. 

Dylai cadarnhad o resymau i newid neu effaith newid fod yn weladwy ym mywyd a gwaith yr ysgol o ddydd i ddydd.  Dylai pobl wybod pam maent yn gwneud yr hyn maent yn ei wneud a’r gwahaniaeth y mae hynny’n ei wneud i ddisgyblion.

Pam ydym ni’n gwneud y newid hwn?

Oherwydd…

  • rydym yn teimlo mai dyma’r peth cywir i’w wneud a’r adeg gywir i wneud hynny
  • rydym yn arolygiaeth sy’n dysgu – rydym yn myfyrio ar ein hymddygiad, ein systemau a’n prosesau, ac ar y gwahaniaeth y mae’r rhain yn ei wneud i ysgolion a’u dysgwyr
  • nid yw treulio amser yn ysgrifennu adroddiadau yn cynrychioli gwerth da bob tro o ran y gwelliant a wneir na’r baich sy’n cael ei roi ar ysgolion
  • rydym yn cefnogi’r newid i werthuso wedi’i arwain gan brosesau sy’n rhan o welliant ysgol gyfan ac ar draws y system
  • gwnaethom arbrofi â’r dull hwn mewn ysgolion y llynedd ac roedd yn gweithio’n dda
  • hoffem wneud mwy i gynorthwyo ysgolion drwy eu galluogi i ganolbwyntio ar bethau a fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i ddysgwyr.

Beth mae hyn yn ei olygu i ysgolion?

Ni fydd rhaid i ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion a gynhelir gan awdurdod lleol gyflwyno adroddiad hunanwerthuso cyn arolygiad, ond bydd eu prosesau hunanwerthuso yn bwysig iawn o hyd.  Byddwn yn ystyried pa mor dda mae arweinwyr yn adnabod cryfderau eu hysgolion, yr hyn y gallant ei wneud yn well a pha mor dda maent yn defnyddio’r wybodaeth hon i wella’r ysgol.

Beth nad yw’n ei olygu i ysgolion?

Nid yw’n lleihau pwysigrwydd prosesau gwerthuso effeithiol.

Nid yw’n golygu bod adroddiadau hunanwerthuso wedi’u gwahardd.  Y peth pwysig yw bod unrhyw wybodaeth y mae’r ysgol yn ei defnyddio a’i chynhyrchu yn cyfrannu at welliant.

Nid yw’n golygu y daw cynllun gwella’r ysgol yn adroddiad hunanwerthuso newydd.  Ein nod yw i ysgolion beidio â gwastraffu amser ac ymdrech yn symud o un ddogfen i un arall.

Sut olwg fydd ar arolygu?

Pethau a fydd yn aros fel y maent yn ystod arolygiad:

  • Y fframwaith arolygu cyffredin
  • Yr angen i ddarparu cynllun gwella cyfredol
  • Byddwn yn gofyn am yr adroddiad hunanwerthuso diogelu o hyd
  • Gweithgareddau ar y safle.

Pethau a fydd yn newid:

  • Dim adroddiad hunanwerthuso
  • Dim cwestiynau sy’n dod i’r amlwg
  • Bydd cyfarfod cyntaf yr arolygiad yn canolbwyntio ar drafod blaenoriaethau gwella’r ysgol a’r cynnydd a wnaed.

Camau nesaf

Byddwn:

  • yn cadw llygad ar y newidiadau hyn ac yn gofyn am adborth gan ysgolion ac arolygwyr
  • yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ddatblygiadau pellach
  • yn defnyddio’r hyn rydym yn ei ddysgu i helpu i lunio’r cylch nesaf o arolygiadau
  • yn parhau i weithio â phartneriaid i ddatblygu’r Adnodd Gwerthuso a Gwella Cenedlaethol.

Author: jon.oshea


Daeth cynghorau ysgol yn ofynion cyfreithiol yn 2005, o ganlyniad i benderfyniad gan Lywodraeth Cymru i ymgorffori egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC).

Mae gan bob plentyn yr hawl i fynegi ei farn, ei deimladau a’i ddymuniadau ym mhob mater sy’n effeithio arno, ac i rywun wrando ar ei farn a chymryd y farn o ddifrif.” (Erthygl 12)

Cyfranogiad disgyblion

Wrth gwrs, mae mwy i gyfranogiad effeithiol gan ddisgyblion na chael cyngor ysgol.  Mewn llawer o ysgolion, mae disgyblion yn fentoriaid neu’n ‘bydis’ i’w cymheiriaid.  Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu Safonau Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc i nodi’r pethau allweddol y dylai pob gweithiwr wybod amdanynt wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru.

  • Gwybodaeth – sy’n hawdd i blant a phobl ifanc ei deall
  • Chi biau’r dewis – digon o wybodaeth ac amser i wneud dewisiadau da
  • Dim gwahaniaethu – mae gan bob plentyn a pherson ifanc yr un cyfle i gymryd rhan
  • Parch – bydd eich barn yn cael ei chymryd o ddifrif
  • Bod ar eich ennill – byddwch yn mwynhau’r profiad
  • Adborth – cewch wybod pa wahaniaeth mae eich barn wedi’i wneud
  • Gwella sut rydym ni’n gweithio – bydd oedolion yn gofyn i chi sut y gallant wella’r ffordd maen nhw’n gweithio at y dyfodol

Beth yw’r heriau?

Nid yw bodolaeth cyngor ysgol yn arwain trwy ryw ryfedd wyrth at lefelau effeithiol o gyfranogiad gan ddisgyblion.  Darganfu adroddiad yn 2002 gan y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg mai dim ond dau o bob pump o blant oedd o’r farn bod cynghorau ysgol yn ffordd effeithiol o wrando ar eu syniadau.

Mae erthyglau ac adroddiadau niferus, er enghraifft Having a Say at School, sef adroddiad a gynhyrchwyd yn 2010 gan Brifysgol Caeredin, wedi nodi’r diffygion mwyaf cyffredin a all rwystro cyfranogiad effeithiol gan ddisgyblion.  Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • oedolion yn rheoli’r cyngor: athrawon yn gosod yr agenda ac yn rheoli’r drafodaeth
  • mae’r drafodaeth yn canolbwyntio ar agweddau fel y ffreutur a’r toiledau yn unig, fel yr awgryma’r erthygl hon
  • nid oes gan y cyngor gyllideb na hawl i ddweud ei ddweud am wariant
  • dim ond nifer bach iawn o ddysgwyr sy’n cymryd rhan
  • nid yw’r cyngor yn gallu cyfathrebu’n effeithiol â gweddill y corff myfyrwyr
  • ychydig neu ddim hyfforddiant y mae’r disgyblion a’r staff cysylltiedig yn ei gael i ymgymryd â’u rôl.

Sut i wneud i hyn weithio

Yn gynt eleni, cyhoeddodd School Councils UK grynodeb o waith ymchwil a gynhaliwyd ar ran Comisiynydd Plant Lloegr mewn ysgolion ag arferion rhagorol o ran llais y myfyriwr.  Hefyd, cyhoeddom ein hadroddiad ein hunain yn 2016: Cyfranogiad disgyblion: canllaw arfer orau.

Mae’r ffactorau allweddol a all annog cyfranogiad effeithiol gan ddisgyblion yn cynnwys:

  • Gweledigaeth ac ethos: ei wneud yn rhan ganolog o weledigaeth yr ysgol a chael strategaeth glir ar gyfer hyrwyddo cyfranogiad a meithrin perthnasoedd da.
  • Cynhwysiant: datgan yn glir y dylai pawb gymryd rhan.
  • Ehangder: sicrhau bod amrywiaeth ddigon eang o gyfleoedd i ddisgyblion gyfranogi, nid dim ond y rhai sy’n aelodau o’r cyngor ysgol.
  • Bod yn onest: helpu disgyblion i ddysgu nad ydynt bob amser yn cael eu ffordd eu hunain, ond sicrhau eu bod yn teimlo bod eu llais yn cael ei glywed mewn penderfyniadau go iawn sy’n effeithio ar eu bywyd.
  • Ffocws ar ddysgu: peidiwch fyth ag anghofio bod toiledau a ffreuturau yn gallu cael effaith arwyddocaol ar les disgyblion, ond dylent hefyd gael dweud eu dweud am beth maent yn ei ddysgu, a sut.
  • Adnoddau: sicrhau bod gan staff a disgyblion yr amser, yr adnoddau a’r hyfforddiant i’w galluogi i ddatblygu’r medrau a’r wybodaeth angenrheidiol.
  • Cyfathrebu: gwneud yn siwr bod pawb yng nghymuned yr ysgol yn gwybod beth sy’n digwydd.

Cyfranogiad effeithiol gan ddisgyblion, ar waith

Mae cael yr agwedd hon ar waith eich ysgol yn gywir yn her, ond mae’n fwy fyth o her po fwyaf yw eich ysgol.

Mae enghraifft dda i’w gweld yn y ffederasiwn rhwng dwy ysgol yn Sir Gâr, Ysgol Bryngwyn ac Ysgol Glan-y-Môr.  Mae chwe milltir rhwng y ddwy ysgol a, rhyngddynt, mae tua 1,500 o ddisgyblion ar y gofrestr.  Yn arolygiad yr ysgolion yn 2017, nodom fod ‘disgyblion yn gwneud cyfraniad eithriadol o gryf at ddylanwadu ar agweddau ar fywyd yr ysgol’.

Ynghyd â’r cyngor ysgol, datblygodd yr ysgol amrywiaeth o gyfleoedd eraill i ddisgyblion gymryd rhan ym mywyd yr ysgol, fel fforwm dysgu ac addysgu a arweinir gan y disgyblion, Cyngor Bugeiliol, Cyngor Cymuned, Cynghorau’r Cwricwlwm ar gyfer pob Maes Dysgu a Phrofiad a system dai gadarn.  Yma, maent yn disgrifio pam mae’r gwaith hwn yn bwysig:

Fel ysgol, rydyn ni bob amser yn ymdrechu i gynnwys disgyblion/dysgwyr bob cyfle posibl. Mae ein hethos a’n diwylliant wedi’u seilio ar yr athroniaeth hon o ymglymiad. Dyma sy’n allweddol i sicrhau ein bod yn rhoi’r gorau i wneud pethau yn yr ysgol nad ydynt yn cael effaith gadarnhaol ar ein dysgwyr, ac yn parhau i wneud pethau sydd wir yn cael eu gwerthfawrogi gan ein disgyblion.

Paul Jones, Pennaeth Gweithredol

 

Mae cyfranogiad y disgyblion yn bwysig iawn ac, o ganlyniad, mae’n gwneud hon yn ysgol hapus i fod ynddi. Pan fydd yr holl ddisgyblion yn cyfranogi yn eu haddysg, mae ganddynt agweddau mwy cadarnhaol at eu dysgu ac maent yn fwy brwdfrydig am fywyd yr ysgol. Yn ddiweddar, rhan o’n gwaith fu datblygu cyfranogiad gwell fyth gan ddisgyblion trwy Gynnwys, Ymglymiad ac Ysbrydoli.  

Y Cyngor Ysgol
 

Mae ein fforymau disgyblion yn cynnig llwyfannau ar gyfer sawl maes, lle y gall disgyblion fynegi’u barn, sy’n cael ei chlywed gan bob aelod o’r ysgol. Mae’r aelodau hyn yn cynnwys y llywodraethwyr a’r athrawon, yr holl ffordd i staff y ffreutur. Mae’n creu amgylchedd cadarnhaol, iach, i bawb o gwmpas yr ysgol. Gallwn wneud ein bywyd ysgol yn well.

Author: jon.oshea


Beth yw cymhwysedd digidol?

Mae’n gysyniad sy’n disgrifio medrau yn gysylltiedig â thechnoleg (Lomami et al 2011).  Yn Dyfodol Llwyddiannus, amlygodd yr Athro Graham Donaldson ei bod yn bwysig i’n disgyblion ddatblygu eu medrau digidol er mwyn iddynt addasu yn unol â’r byd technolegol sydd bob amser yn newid:

Er mwyn cymryd rhan yn llawn mewn cymdeithas fodern a’r gweithle, mae angen cynyddol eisoes am lefelau uwch o gymhwysedd digidol ac mae’r broses honno’n sicr o barhau i’r dyfodol, er na allwn ddychmygu’r dyfodol hwnnw.

Dyna pam mae’n hanfodol fod addysg yng Nghymru yn paratoi ein plant a’n pobl ifanc i fodloni’r gofynion digidol a allai ddod yn eu bywydau yn y dyfodol. 

Ym mis Gorffennaf 2018, fe wnaethom gyhoeddi adolygiad thematig yn ymchwilio i ddulliau yr oedd ysgolion yn eu defnyddio i baratoi ar gyfer rhoi’r Fframwaith ar waith, ac amlygu enghreifftiau o ble mae arfer lwyddiannus yn bodoli.  Fe wnaethom hefyd rannu nodweddion cyffredin ysgolion sydd eisoes wedi gwneud cynnydd da wrth gynllunio ar gyfer y fframwaith cymhwysedd digidol.

Beth mae arolygiadau’n ei ddweud wrthym?

Fel arolygydd ysgol, rwy’n ffodus i allu siarad ag ysgolion a phobl ifanc am sut maent yn datblygu eu medrau cymhwysedd digidol.  Mae bob amser yn braf clywed disgyblion o bob oedran yn trafod eu gwaith digidol a gweld pa mor gyflym y gallant gymhwyso eu medrau, a defnyddio amrywiaeth o adnoddau digidol a meddalwedd. 

Mae datblygu medrau TGCh disgyblion yn parhau i fod yn faes blaenoriaeth i lawer o ysgolion, ac nid yw medrau TGCh disgyblion wedi’u datblygu cystal â’r rheiny ar gyfer llythrennedd a rhifedd.  Er hynny, ceir enghreifftiau lle mae ysgolion o bob sector yn rhoi cyfleoedd gwych i ddisgyblion gymhwyso a gwella eu medrau digidol.  Yn yr achosion hyn, mae’r effaith ar ddisgyblion yn gadarnhaol ac yn helpu cynyddu hyder disgyblion pan fyddant yn defnyddio gwahanol offer digidol.

Beth sy’n gweithio’n dda?

Yn ystod arolygiadau ac ymweliadau thematig, rydym wedi nodi’r dulliau gorau ar gyfer rhoi’r Fframwaith ar waith mewn ysgolion, ac wedi edrych ar y modd y mae’r rhain wedi gwella medrau digidol disgyblion.  Yn yr adran hon, byddaf yn archwilio dulliau cyffredin gyda ffocws penodol ar arweinyddiaeth a darpariaeth.

Yn gyffredinol, ceir arweinyddiaeth gref yn yr ysgolion gorau.  Mae arweinwyr yn rheoli newid yn effeithiol ac mae ganddynt weledigaeth glir ar gyfer rhoi’r FfCD ar waith.  Maent yn cynnwys eu tîm wrth ddatblygu’r weledigaeth hon ac yn troi hyn yn gynllunio ysgol gyfan gyda ffocws craidd ar wella ansawdd yr addysgu.  Thema gyffredin ar draws ysgolion ag arfer effeithiol yw penodi arweinydd digidol cryf.  Gall yr arweinwyr hyn yrru a monitro’r ddarpariaeth ar gyfer medrau digidol ar draws yr ysgol, a chymryd unrhyw gamau sydd eu hangen yn ddi-oed.   

Mae dysgu proffesiynol o ansawdd uchel yn allweddol i lwyddiant rhoi’r Fframwaith ar waith.  Pan fydd ysgolion yn llwyddo i wella medrau digidol, caiff staff eu cynorthwyo’n dda ac mae gweithgarwch dysgu proffesiynol yn eu galluogi i fynd i’r afael â’u hanghenion dysgu eu hunain, a rhai disgyblion.

Sut mae ysgolion yn rhoi’r FfCD ar waith?

Mae yna lawer o agweddau cyffredin sydd wedi cynorthwyo ysgolion yn llwyddiannus i roi’r Fframwaith ar waith, a gwella medrau digidol disgyblion, sef:

  • Casglu tystiolaeth ddefnyddiol gan ysgolion trwy eu prosesau hunanwerthuso, a ddefnyddir yn dda i gynllunio ar gyfer gwella
  • Arweinwyr digidol effeithiol
  • Archwilio’n gadarn gryfderau staff a disgyblion a’u meysydd i’w datblygu gyda’r Fframwaith, gan gynnwys y strwythurau rhwydwaith o fewn eu hysgolion
  • Ystod dda o gyfleoedd dysgu proffesiynol pwrpasol a theilwredig yn seiliedig ar anghenion staff a grwpiau unigol
  • Codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd medrau digidol gyda chymuned yr ysgol
  • Mapio cyfleoedd o ansawdd uchel yn gryf yn y cwricwlwm, er mwyn i ddisgyblion ddatblygu a chymhwyso eu medrau

Heriau sy’n wynebu ysgolion

Wrth sicrhau newid a gwelliant, mae’n debygol y byddwn yn wynebu rhwystrau a heriau ar hyd y ffordd.  Mae yna lawer o heriau cyffredin sy’n wynebu ysgolion, sef:

  • Caiff arweinwyr anhawster yn datblygu a rhannu gweledigaeth sy’n cynnwys gweithio gydag ysgolion eraill i gefnogi gwelliant
  • Ceir problemau cysylltedd mewn ysgolion
  • Ni chynllunnir yn ddigon trylwyr ar gyfer datblygu medrau digidol, na’u gwerthuso’n ddigon trylwyr
  • Nid yw arweinwyr digidol yn ddigon clir ynglŷn â disgwyliadau eu rolau
  • Nid yw mapio’r cwricwlwm yn nodi digon o gyfleoedd ar gyfer datblygu medrau digidol
  • Ni ddefnyddir dysgu proffesiynol yn effeithiol i ddatblygu medrau a gwybodaeth athrawon

Cwestiynau i’w hystyried

Mae ein hadroddiad, sef Paratoi ar gyfer y Fframwaith Cymhwysedd Digidol, yn cynnwys cwestiynau buddiol i’w hystyried os ydych yn datblygu cymhwysedd digidol fel blaenoriaeth ar hyn o bryd (tudalennau 19–20). 

Enghraifft o arolygiad diweddar…

Yn ein hadroddiad thematig fe wnaethom nodi nifer o astudiaethau achos y gallech eu defnyddio a’u haddasu fel eu bod yn gweddu i’ch lleoliad.  Dyma enghraifft o’r modd y mae ysgol a arolygwyd yn ddiweddar wedi datblygu’r Fframwaith:

Ysgol Bryn Tawe (Abertawe)

Mae gan dîm arweinyddiaeth Ysgol Bryn Tawe ffocws clir ar ddatblygu medrau digidol a thechnoleg ar draws eu hysgol.  Maent yn gweithio tuag at roi’r Fframwaith ar waith trwy ddatblygu perthnasoedd cryf gyda’u hysgolion clwstwr ac yn cynnal dysgu proffesiynol ar y cyd a lwyddodd i wella gwybodaeth a hyder pob un o’r staff.  Nodwedd benodol yw’r ffordd y maent wedi mapio cyfleoedd i ddisgyblion gymhwyso eu medrau digidol ac wedi galluogi arweinwyr digidol i nodi bylchau a meysydd i’w datblygu yn effeithiol.  Mae arweinwyr a staff wedi ymateb yn gadarnhaol ac yn gyflym i fynd i’r afael â’r meysydd a nodwyd, sydd wedi arwain at wella ansawdd y ddarpariaeth a safonau medrau digidol disgyblion. 

Cyfeiriadau

Ilomäki, L., Kantosalo, A., & Lakkala, M. (2011). What is digital competence? In Linked portal. Brussels: European Schoolnet.

Donaldson, G. (2015). Dyfodol Llwyddiannus, Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru: Hawlfraint y Goron.

Author: jon.oshea


Gwella addysgu a dysgu

Ysgolion sy’n gwella ansawdd addysgu a dysgu yn llwyddiannus ac sy’n buddsoddi’n barhaus yn eu staff.  Maent:

  • yn annog gwerthuso gonest.
  • yn siarad yn agored am eu cryfderau a’u meysydd i’w gwella.
  • yn annog athrawon i gymryd risgiau rhesymol ac arbrofi gyda dulliau gwahanol, gan gadw’r buddion i ddisgyblion wrth galon unrhyw newid bob amser
  • yn canolbwyntio ar fonitro ansawdd addysgu o ran pa mor dda mae disgyblion yn gwneud dros gyfnod yn hytrach na llunio barnau gor-syml ynglŷn ag ansawdd addysgu trwy raddio gwersi unigol
  • yn defnyddio tystiolaeth yn seiliedig ar ymchwil i ddatrys problemau addysgu.

Addysgu a dysgu, a’r cwricwlwm newydd

Mae 12 egwyddor addysgegol addysgu a dysgu da yn hanfodol i ysgolion eu hystyried wrth iddynt lunio’r cwricwlwm newydd i Gymru.

Addysgu a dysgu da