Beth yw rôl rhieni a gofalwyr yn ystod arolygiad?

Beth yw eich rôl yn ystod arolygiad?
Mae safbwyntiau rhieni a gofalwyr ar addysg a’u profiadau ohoni yn bwysig iawn i ni. Cewch gyfle i gyfrannu at y broses pan fydd ysgol eich plentyn yn cael ei harolygu.
Gofynnir i chi lenwi holiadur ar-lein ac fe’ch gwahoddir i fynychu cyfarfod gydag arolygwyr yn rhan o’r broses arolygu. Byddwn hefyd yn siarad â grwpiau o blant yn yr ysgol i ofyn cwestiynau am eu safbwyntiau ar yr ysgol a’u profiadau ohoni.
Cyhoeddir ein hadroddiadau arolygu ar ein gwefan 45 niwrnod ar ôl i’r arolygiad ddechrau. Mae hyn yn rhoi trosolwg o ganfyddiadau’r tîm arolygu ac yn amlygu cryfderau yn ogystal â meysydd i’w gwella.
Nid ydym yn rhoi graddau crynodol cyffredinol fel ‘Rhagorol’, ‘Da’, ‘Digonol’ neu ‘Anfoddhaol’ mwyach, ond mae ein hadroddiadau’n cynnwys crynodeb o ganfyddiadau allweddol. Rydym hefyd yn cyhoeddi adroddiad mwy cryno yn benodol ar gyfer rhieni a gofalwyr ochr yn ochr â’r adroddiad arolygu llawn.
Beth yw rôl Estyn?
Rydym yn arolygu darparwyr addysg a hyfforddiant ac yn cynghori Llywodraeth Cymru am ansawdd a safonau addysg yng Nghymru.
Rydym yn gwneud hyn trwy arolygiadau a thrwy ysgrifennu adroddiadau ar themâu addysgol, sy’n cwmpasu ystod o sectorau a thestunau, fel medrau darllen a’r cwricwlwm.
Bwriad ein hadroddiadau yw annog meddwl ehangach a rhannu arfer effeithiol.
I ddysgu mwy am Estyn, ewch i’r dudalen Amdanom ni.
Ymunwch â’n Cymuned Rhieni a Gofalwyr
Rydym wedi sefydlu Cymuned Rhieni a Gofalwyr ac yn croesawu rhieni a gofalwyr o ystod eang ac amrywiol o gefndiroedd a phrofiadau i ymuno.
Mae eich barn yn bwysig a bydd yn ein helpu ni a darparwyr addysg fel ysgolion a cholegau i gefnogi disgyblion a’u teuluoedd yn well.
