Beth yw ein hadnoddau gwella?
About our improvement resources
Here you’ll find resources to support those working in education and training in raising standards for learners.
Our resources consist of thematic reports, effective practice, additional resources, as well as our annual reports.
Arfer Effeithiol
Pan welwn arfer ddiddorol ac arloesol yn ystod arolygiad, rydym bob amser yn awyddus i’w rhannu. Rydym yn gwahodd ysgolion a darparwyr eraill i ysgrifennu astudiaethau achos pan fyddwn yn meddwl bod ganddynt rywbeth pwysig i'w rannu.
Cynllunio ysgol gyfan ar gyfer datblygu medrau disgyblion ar draws y cwricwlwm
Gwybodaeth am yr ysgol Lleolir Ysgol Cwm Banwy, yng nghanol pentref Llangadfan, Canolbarth Cymru, ac fe’i chynhelir gan Awdurdod Lleol Powys. Mae hi hefyd o dan Reolaeth Wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru. Agorodd Ysgol Cwm Banwy ei drysau am y tro cyntaf yng nghanol y clo mawr yn mis Medi 2020, yn dilyn strategaeth trawsnewid … Continued
Defnydd effeithiol o’r amgylchedd awyr agored i hybu lles a dysgu o ansawdd uchel
Gwybodaeth am yr ysgol Mae meithrinfa Little Friends Nursery yn lleoliad gofal plant sy’n cael ei redeg yn breifat, yn ddarparwr addysg y blynyddoedd cynnar ac yn lleoliad Dechrau’n Deg nas cynhelir. Mae wedi’i leoli yn Ysgol Gynradd Ffynnon Taf, Ffynnon Taf, Caerdydd ac mae’n darparu gofal plant ac addysg o ansawdd uchel sy’n cefnogi … Continued
Profiadau dysgu o ansawdd uchel
Gwybodaeth am yr ysgol Mae Ysgol Gatholig y Santes Fair yn ysgol ofalgar sy’n rhoi’r gymuned wrth wraidd ei gwaith. Mae tua hanner y disgyblion yn dechrau yn yr ysgol â medrau llythrennedd a rhifedd islaw disgwyliadau yn gysylltiedig ag oedran. Fodd bynnag, o fewn cyfnod byr iawn, o ganlyniad i ystod eang o brofiadau … Continued
Sut mae’r sector Dysgu Cymraeg yn dylanwadu ar addysgeg a chaffael iaith mewn sectorau eraill yng Nghymru a thu hwnt.
Gwybodaeth am y darparwr Ar 1 Awst 2016, trosglwyddwyd cyfrifoldeb llawn am y sector Cymraeg i Oedolion i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol (y Ganolfan). Mae’r Ganolfan yn gorff hyd braich wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i chartrefu ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Ailstrwythurodd y Ganolfan ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion ledled Cymru gan sefydlu … Continued
Ehangu cyfranogiad a sicrhau bod gan bawb yng Nghymru gyfle i ddysgu’r iaith beth bynnag fo’u cefndir
Gwybodaeth am y darparwr Ar 1 Awst 2016, trosglwyddwyd cyfrifoldeb llawn am y sector Cymraeg i Oedolion i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol (y Ganolfan). Mae’r Ganolfan yn gorff hyd braich wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i chartrefu ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Ailstrwythurodd y Ganolfan ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion ledled Cymru gan sefydlu … Continued
Creu amgylchedd darllen cyfoethog ac ysgogol sy’n ennyn cariad at lyfrau ymhlith plant.
Gwybodaeth am y lleoliad Mae’r lleoliad gwledig, anghysbell yn Nhrellech, a sefydlwyd ym 1973, wedi cael ei gyd-reoli gan yr arweinwyr presennol er 2020. Maent yn addysgwyr profiadol sy’n arwain tîm sydd ag ymrwymiad cryf i ddysgu a datblygiad mewn plentyndod cynnar. Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol Roedd taith y lleoliad tuag … Continued
Sefydlu dulliau rheoli ymddygiad a gwobrwyo, o ganlyniad i gyfrifoldeb y disgyblion.
Gwybodaeth am yr ysgol Ysgol Gynradd Gymraeg yng Nghlas ar gyrion dinas Abertawe yw Ysgol Tan-y-lan. Yn ogystal â defnyddio’r Gymraeg fel ei phrif gyfrwng, mae’n rhoi sylw priodol i’r dimensiwn Cymreig yn ei bywyd a’i gwaith. Agorwyd yr ysgol ym mis Medi 2011 ar safle hen Ysgol Fabanod y Graig gyda disgyblion oed meithrin a … Continued
Defnyddio arsylwadau effeithiol i lywio gynllunio i wella’r effaith ar ddysgu a datblygiad plant
Gwybodaeth am y lleoliad Mae Tiggy’s Day Care wedi bod ar agor ers Gorffennaf 2020 ac mae’n estyniad i chwaer feithrinfa, Tiggywinkles Day Nursery, sydd wedi bod yn rhedeg ers 30 mlynedd. Mae’n cynnig gofal dydd llawn, lleoedd addysg, gofal cofleidiol, dechrau’n deg, clwb brecwast a chlwb ar ôl ysgol. Mae wedi cofrestru ar gyfer … Continued
O fesurau arbennig i lwyddiant: taith wella.
Gwybodaeth am yr ysgol Mae Ysgol Gynradd Trelái wedi’i lleoli mewn ardal â lefel uchel o ddifreintedd, yng Nghaerdydd. Ar hyn o bryd, mae 381 o ddisgyblion yn yr ysgol. Mae 77% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae gan yr ysgol leoliad Dechrau’n Deg ar y safle sy’n cefnogi addysg … Continued
Diwallu anghenion cymuned amrywiol
Gwybodaeth am yr ysgol Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Cil-maen wedi’i lleoli ar gyrion Penfro, yn Sir Benfro. Mae’r gymuned ymhlith 10% o’r rhai mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Daw 33% o ddisgyblion o gefndir Sipsiwn a Theithwyr, ac mae 60% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae llawer o ddisgyblion yn wynebu … Continued
Adroddiadau thematig
Bob blwyddyn, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn gofyn i’n Prif Arolygydd am gyngor ar ystod o themâu mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant. Mae ein hadroddiadau thematig yn helpu i lywio datblygiad polisi ac i fonitro cynnydd.
Adroddiad Thematig: Effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol, cymorth, darpariaeth a phontio ar gyfer addysg gynnar
Crynodeb gweithredol Mae’r adroddiad hwn yn ystyried pa mor effeithiol yw’r cymorth a’r ddarpariaeth a gynigir gan ddarparwyr addysg y blynyddoedd cynnar o ran mynd i’r afael ag effeithiau andwyol tlodi ac anfantais ar blant yn y blynyddoedd cynnar. Mae’n canolbwyntio ar ba mor dda y mae awdurdodau lleol a gwasanaethau gwella ysgolion yn cefnogi’r … Continued
Adroddiad Thematig: Pontio a chynnydd disgyblion
Crynodeb gweithredol Mae’r adroddiad hwn yn ystyried pa mor dda y mae ysgolion yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi cyfnod pontio disgyblion o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. Mae’n canolbwyntio ar ba mor dda y mae ysgolion yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod eu cwricwla a’u haddysgu yn datblygu gwybodaeth, medrau, dealltwriaeth ac ymddygiadau … Continued
Adroddiad Thematig: Datblygu medrau darllen Cymraeg disgyblion 10-14 oed
Crynodeb gweithredol Yn dilyn cyhoeddi adroddiad ar fedrau darllen Saesneg disgyblion 10-14 oed gan Estyn yn Mai 2023, fe aethom ati i lunio adroddiad ar sut mae ysgolion Cymraeg a dwyieithog yn datblygu medrau darllen Cymraeg disgyblion ar draws y cwricwlwm. Yn Hydref 2023, fe wnaethom ymweld ag ugain o ysgolion cynradd, uwchradd a phob … Continued
Gwella presenoldeb mewn ysgolion uwchradd – deunydd hyfforddiant
Mae'r cyflwyniad PowerPoint hwn yn ffordd i ddarparwyr rhannu brif ganfyddiadau'r adroddiad a adolygu eu perfformiad eu hunain mewn maes thematig penodol. Mae'r cyflwyniadau yn crynhoi'r adroddiad ac yn cynnwys cyfres o gwestiynnau gall darparwyr ystyried wrth edrych i wella.
Gwella presenoldeb mewn ysgolion uwchradd
Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y strategaethau a’r camau gweithredu yr oedd ysgolion uwchradd yn eu defnyddio er mwyn gwella presenoldeb disgyblion. Mae hefyd yn ystyried y cymorth a ddarperir gan awdurdodau lleol. Mae’r adroddiad yn nodi cryfderau a meysydd i’w gwella yn ymarferol a’r rhwystrau a nododd arweinwyr ysgolion i ddisgyblion yn mynychu’r ysgol, ac felly’n gwella presenoldeb. Mae hefyd yn cynnwys cameos ac astudiaethau achos arfer effeithiol.
Y system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd – deunydd hyfforddiant
Mae'r cyflwyniad PowerPoint hwn yn ffordd i ddarparwyr rhannu brif ganfyddiadau'r adroddiad a adolygu eu perfformiad eu hunain mewn maes thematig penodol. Mae'r cyflwyniadau yn crynhoi'r adroddiad ac yn cynnwys cyfres o gwestiynnau gall darparwyr ystyried wrth edrych i wella.
Cyflwyno cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn rhaglenni prentisiaeth
Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar gyflwyno cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn prentisiaethau dysgu yn y gwaith. Ym mis Mai a mis Mehefin 2023, ymwelodd arolygwyr â naw o’r deg darparwr arweiniol sy’n cynnig rhaglenni prentisiaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Cynhaliom gyfarfodydd a siarad gyda dysgwyr, rheolwyr, staff cyflwyno a chyflogwyr. Arsylwom sesiynau addysgu grŵp ac adolygiadau un-i-un. Cynhaliom arolwg ar-lein dienw i ddysgwyr, staff cyflwyno a chyflogwyr yn ymchwilio i agweddau ymatebwyr at gymwysterau SHC a datblygu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol ar raglenni prentisiaeth.
Rhaglen ieuenctid Twf Swyddi Cymru+: Mewnwelediadau hydref 2023
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r canfyddiadau o bedwar ymweliad monitro rhanbarthol â Twf Swyddi Cymru+ a gynhaliwyd rhwng Hydref 2022 a Mehefin 2023. Mae’r adroddiad wedi’i seilio ar y wybodaeth a gasglwyd gan Lywodraeth Cymru, darparwyr arweiniol ac is-gontractwyr, cyfranogwyr, cyflogwyr, Cymru’n Gweithio, a staff allweddol mewn awdurdodau lleol.
Y system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd
Ysgrifennir yr adroddiad thematig hwn i ymateb i gais am gyngor gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg yn ei lythyr cylch gwaith at Estyn ar gyfer 2022-2023. Hwn yw’r cyntaf o ddau adroddiad, o leiaf. Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg o ba mor dda y mae’r ysgolion cynradd a’r ysgolion uwchradd a gynhelir a gymerodd ran yn yr adolygiad yn gweithredu agweddau allweddol ar Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a’r Cod ADY cyfatebol. Mae hefyd yn ystyried pa mor dda y mae awdurdodau lleol sy’n cymryd rhan wedi cefnogi ysgolion.