Beth rydym yn ei wneud


Rydym yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn gweithio’n annibynnol arni i arolygu addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae ein gwaith yn cael ei gyfeirio gan ystod o ddeddfwriaeth a rheoliadau, yn ogystal â rhaglen waith flynyddol gan Lywodraeth Cymru.

Ansawdd a safonau

Rydym ni’n arolygu ansawdd a safonau mewn:

  • ysgolion a lleoliadau meithrin a gynhelir, neu sy’n cael arian gan, awdurdodau lleol
  • ysgolion cynradd
  • ysgolion uwchradd
  • ysgolion arbennig
  • unedau cyfeirio disgyblion
  • ysgolion annibynnol
  • ysgolion pob oed
  • addysg bellach
  • colegau arbenigol annibynnol
  • dysgu oedolion yn y gymuned
  • gwasanaethau addysg llywodraeth leol
  • addysg a hyfforddiant athrawon
  • Cymraeg i oedolion
  • dysgu yn y gwaith
  • dysgu yn y sector cyfiawnder

Cyngor ac arweiniad

Yn ogystal ag arolygu, rydym yn rhoi cyngor ac arweiniad i Lywodraeth Cymru ar ansawdd a safonau addysg a hyfforddiant. 

Un ffordd rydym yn cyflawni hyn yw trwy ein hadroddiadau thematig, sy’n cael eu comisiynu gan y Gweinidog Addysg ac sy’n cwmpasu ystod o sectorau a themâu. Bwriad ein hadroddiadau yw annog meddylfryd ehangach a rhannu arfer effeithiol.

Darllenwch ymateb Llywodraeth Cymru i’n hadroddiadau thematig.

Pan welwn arfer ddiddorol ac arloesol yn ystod arolygiad, rydym bob amser yn awyddus i’w rhannu. Fe wnawn hyn mewn dwy ffordd.

Rydym yn gwahodd ysgolion a darparwyr eraill i lunio astudiaethau achos pan rydym o’r farn bod ganddynt rywbeth pwysig i’w rannu ac yn cyhoeddi’r rhain ar ein gwefan.

Rydym hefyd yn rhannu arfer ddiddorol trwy ein hadran ‘sbotolau ar…’ yn ein hadroddiad arolygu. Mae’r adrannau hyn yn rhoi cipolwg ar arfer effeithiol sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr.

Corporate info section:

Our structure – move to new page pulling in corporate policies and publications.

Add Legislation detail to above page.

Add org structure

Add section below to corporate policy section –

Rydym yn arolygu addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Ystyr y gair Estyn yw ‘cyrraedd’ ac ‘ymestyn’.
Fel corff y Goron, fe’n sefydlwyd dan Ddeddf Addysg 1992. Rydym yn annibynnol ar Senedd Cymru ond yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cymru (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998).

Pam rydym ni’n arolygu

Mae deddfwriaeth yn amlinellu pwerau Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys yr hyn y gall, neu y mae’n rhaid, i’r Prif Arolygydd ei arolygu ac adrodd arno, pa mor aml y mae’n rhaid arolygu ysgolion a darparwyr eraill, a manylion ar gyfer cyhoeddi adroddiadau arolygu.

Dan Ddeddf Addysg 2005, mae gan y Prif Arolygydd ddyletswydd i roi gwybod i’r Senedd Cymru am ansawdd yr addysg mewn ysgolion. Hefyd, gall gynghori ar faterion yn ymwneud ag ysgolion, neu ysgol benodol. Yn yr un modd, dan y Ddeddf Dysgu a Sgiliau, gall y Prif Arolygydd gynghori Senedd Cymru ar faterion yn ymwneud ag addysg neu hyfforddiant i’r rheiny sy’n 16 oed neu’n hŷn mewn darparwyr a ariennir gan Lywodraeth Cymru.