Beth gall dysgwyr ei ddisgwyl yn ystod arolygiad?
Mae ein timau arolygu yn treulio amser allan yn siarad â staff a dysgwyr mewn ystafelloedd dosbarth, neuaddau cinio, meysydd chwarae ac o amgylch y safle i ddarganfod beth mae dysgwyr yn ei feddwl a’i deimlo am eu lleoliad addysg a’u profiad dysgu.
Cyn i’r arolygwyr gyrraedd, mae cyfle i ddysgwyr roi adborth trwy holiadur ar-lein ac yn yr un modd, gwahoddir rhieni a gofalwyr i rannu eu barn trwy holiadur a chyfarfod rhieni wyneb yn wyneb gyda’r arolygwyr.
Edrychwch ar ein fideos isod i ddarganfod mwy am yr hyn y gall dysgwyr, rhieni a gofalwyr ei ddisgwyl o arolygiad.
Ar gyfer Ysgolion Cynradd
Ar gyfer Ysgolion Uwchradd
