Barod yn Barod! (Ysgolion ac UCD)
Rydym yn cydnabod y pwysau y gall arolygiad ei greu, ond hoffem fod yn glir nad ydym am i ddarparwyr orbaratoi ar gyfer ymweliad arolygu.
Mae pob diwrnod ym myd addysg yn bwysig. Rydych chi’n barod yn barod!
Y peth pwysicaf i’n timau arolygu yw gweld beth sy’n digwydd ar lawr yr ystafell ddosbarth a siarad â disgyblion, staff ac arweinwyr.
Nid ydym am i arolygu fod yn faich, ond yn brofiad cadarnhaol sy’n rhan naturiol o’ch proses wella arferol.
Ar y dudalen hon, gallwch ddysgu mwy am ein hymagwedd a’r gwir y tu ôl i’r chwedlau cyffredin am arolygu.
Astudiaeth Achos
Mae’r fideo hwn yn cynnwys Arolygydd Estyn, Richard Lloyd, ynghyd â staff addysgu o Ysgol Gynradd Alexandra yn Wrecsam – Lisa Roberts, Pennaeth, Kelly Walker, Arweinydd Cynhwysiant Lles, a Jane Roberts, Cynorthwyydd Addysgu.
Gwyliwch i glywed myfyrdod gonest ar brofiadau diweddar yr ysgol o arolygiad.
Chwedlau arolygu – a’r ffeithiau
- Chwedl 1: Mae’n rhaid i chi baratoi ar gyfer arolygiad – Anghywir!
Y ffeithiau: – Rydyn ni eisiau gweld sut olwg sydd ar eich ysgol o ddydd i ddydd. Rydyn ni eisiau amlygu beth rydych chi’n ei wneud yn dda ac archwilio’r meysydd y gellir eu gwella. Nid ydym am i leoliadau newid yr hyn maent yn ei wneud oherwydd ein bod ni’n ymweld â nhw.
- Chwedl 2: Mae angen i chi greu adnoddau a pholisïau’n benodol ar gyfer yr arolygiad – Anghywir!
Y ffeithiau: Rydym yn gofyn am ychydig iawn o ddogfennau cyn yr arolygiad. Nid oes angen i chi lunio dogfennau ar gyfer wythnos yr arolygiad yn benodol – ac nid oes angen i chi dacluso unrhyw ddogfennau. Rydym yn gwybod bod dogfennau mewn ysgolion yn ddogfennau gweithio.
- Chwedl 3: Rhaid i athrawon lunio cynlluniau gwersi i’w rhoi i arolygwyr – Anghywir!
Y ffeithiau: Rydyn ni eisiau gweld eich ysgol fel y mae mewn gwirionedd ac mae ein harsylwadau gwersi’n canolbwyntio’n bennaf ar gynnydd dysgwyr, ansawdd yr addysgu a pha mor dda y mae dysgwyr yn ymateb. Nid oes angen cynlluniau gwersi unigol arnom.
- Chwedl 4: Mae arolygu’n ymwneud â barnau yn unig – Anghywir!
Y ffeithiau: Rydym am i arolygu gyfrannu at wella addysg. Rydym wedi dylunio arolygu â llawer o gyfleoedd ar gyfer trafodaethau â darparwyr sy’n canolbwyntio ar wella. Byddwn bob amser yn canolbwyntio ar ansawdd cyflwyno a’r effaith ar ddeilliannau i ddysgwyr. Rydyn ni yma am yr un rheswm â chi – i helpu dysgwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu cyfnod yn yr ysgol.
Chwalu’r chwedlau ac ateb eich cwestiynau
Gwyliwch ein AEF yn trafod y chwedlau cyffredin yn ymwneud ag arolygu gydag arweinwyr ysgolion ac yn ateb cwestiynau cyffredin am beth mae arolygu’n ei gynnwys.
Y gwir
Bydd ein timau arolygu:
- Yn gofyn am ychydig iawn o ddogfennau cyn yr arolygiad a byddant yn glir ynghylch pa rai ydynt.
- Yn gofyn bod dogfennau allweddol presennol, fel polisïau ysgol gyfan, cofnodion y corff llywodraethol, cofnodion o waith adrannau a chofnodion o gyfarfodydd pwysig ar gael.
- Yn arolygu pob agwedd ar ddarparwr.
- Yn gofyn bod yr holl ohebiaeth sy’n cael ei hanfon gan Estyn cyn arolygiad yn cael ei rhannu y tu hwnt i’r UDRh gyda phob un o’r cyflogeion.
Nid yw ein timau arolygu:
- Yn ffafrio ymagwedd benodol tuag at strwythur gwers neu’r modd y caiff ei chyflwyno – rydym yn barnu yn ôl effaith.
- Yn ei gwneud yn ofynnol i athrawon lunio cynlluniau gwersi i’w rhoi i’r arolygwyr.
- Yn disgwyl neu eisiau i ddarparwyr lunio unrhyw ddogfennau at ddibenion yr arolygiad yn unig.
- Yn cadw eu canfyddiadau iddyn nhw’u hunain. Byddant yn eu rhannu ag uwch arweinwyr a’r enwebai yn ystod yr arolygiad ac yn ystod adborth ar yr arolygiad.
Rydym am i chi wybod:
- Bod ein timau arolygu wedi’u hyfforddi i ofyn y cwestiynau cywir, deall sefyllfa pob darparwr a chynnig mewnwelediad ar sail gwerthusiad teg, tryloyw a chadarn.
- Bod ein harsylwadau gwersi’n canolbwyntio’n bennaf ar ansawdd dysgu a pha mor dda mae dysgwyr yn ymateb i’r profiadau dysgu.
- Ein bod yn deall bod llawer o ddogfennau allweddol yn ddogfennau gweithio ac nad ydym yn disgwyl nac eisiau i ysgolion ailddrafftio/diweddaru/tacluso dogfennau ar gyfer arolygiad yn unig.
- Nad oes angen i wasanaethau gwella ysgolion gynnal arolygiadau ffug neu adolygiadau cyn ymweliad gan Estyn.
Dolenni defnyddiol
Dysgwch fwy am sut mae ein hymagwedd at arolygu yn parhau i esblygu ac am ein hymgynghoriadau â darparwyr: Arolygu ar gyfer y dyfodol (2024–2030)
Dysgwch fwy am sut y caiff arolygiadau eu cynnal: Esbonio arolygu
Dysgwch fwy am ein rolau Arolygwyr yma: Rolau arolygwyr
Lawrlwythwch asedau’r ymgyrch Barod yn Barod i helpu i reoli disgwyliadau eich cydweithwyr: Lawrlwytho’r asedau
Lledaenwch y neges – rydych chi’n Barod yn Barod!
Adnoddau
Pecyn Cymorth Cyfathrebu | Stakeholder Toolkit (22996)