Barod yn Barod! (ôl-16)


Trwy ein hymgyrch Barod yn Barod, ein nod yw cynnig eglurder ynghylch disgwyliadau a rhannu manylion ynglŷn â threfniadau ymarferol i gefnogi athrawon, darlithwyr, hyfforddwyr, aseswyr ac uwch arweinwyr yn y sector ôl-16.

Y peth pwysicaf i’n timau arolygu yw arsylwi’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad a siarad â staff a dysgwyr.

Nid ydym am i arolygiad fod yn rhy feichus, ond yn brofiad cadarnhaol sy’n rhan naturiol o’ch proses wella arferol. Ar y dudalen hon, gallwch chi ddysgu mwy am ein hymagwedd, a’r gwirionedd y tu ôl i fythau cyffredin am arolygu.


Coleg Caerdydd a’r Fro

Mae’r fideo hwn yn cynnwys staff o Goleg Caerdydd a’r Fro yn siarad am eu profiad arolygu ar draws ystod o feysydd yn y coleg. 

Grŵp Llandrillo Menai

Mae’r fideo hwn yn cynnwys staff o Grŵp Llandrillo Menai yn siarad am eu profiad arolygu ar draws ystod o feysydd yn y coleg. 


Rydym wedi gweithio gyda chynrychiolwyr o ystod o ddarparwyr ôl-16 i lunio rhestr o gwestiynau cyffredin cyn arolygiad.

Rydym yn gobeithio y bydd y rhain yn fuddiol o ran rhoi mewnwelediad, manylder a sicrwydd yn eich paratoadau yn y cyfnod yn arwain at arolygiad.


Edrychwch ar ba ddogfennau fydd angen i chi eu lanlwytho i’r ystafell arolygu rithwir cyn arolygiad yn y sector ôl-16.


Dewch i ddeall y gwirionedd tu ôl i fythau cyffredin am arolygu.