Arweiniad pecyn cymorth ar sicrhau ansawdd arolygiadau (SAAr) a (SAAd)
Mae Estyn yn mynnu bod yr holl Arolygwyr Cofnodol, p’un a ydynt yn Arolygwyr Ychwanegol dan Gontract (AYG) neu’n AEM, yn cynnal arolygiadau o ansawdd da.
Ar gyfer arolygiadau dan arweiniad AYG, mae AEM yn cynnal sampl o ymweliadau sicrhau ansawdd ag arolygiadau. Mae’r broses sicrhau ansawdd yn sicrhau hyder y cyhoedd yn yr arolygiad, yn cynnwys hyder yn y ffordd y cynhelir yr arolygiad a’r meddylfryd arolygu, cywirdeb a dilysrwydd unrhyw werthusiadau Maes Arolygu lefel uchel, ac ansawdd cyffredinol arolygiadau ac adroddiadau Estyn.