Sut rydym yn arolygu - trefniadau trochi yn y Gymraeg mewn awdurdodau lleol - Estyn

Sut rydym yn arolygu – trefniadau trochi yn y Gymraeg mewn awdurdodau lleol


Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu ein hymagweddau at arolygu trefniadau trochi yn y Gymraeg mewn awdurdodau lleol. Mae’n esbonio sut rydym yn arolygu. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol i arolygwyr cofnodol a holl aelodau eraill y tîm arolygu. Gallai fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr hefyd i ategu eu dealltwriaeth o’r meddylfryd a methodolegau arolygu.

Dylid darllen yr arweiniad ochr yn ochr â ‘Beth rydym yn ei arolygu’, sy’n amlinellu’r fframwaith arolygu. Gall awdurdodau lleol a darpariaethau trochi yn y Gymraeg ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau’n gweithio.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi arfer sy’n werth ei rhannu, bydd arolygwyr yn cynnwys ciplun ar yr arfer hon fel rhan o’r adroddiad arolygu. Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig yn ymwneud â safonau, ansawdd y ddarpariaeth a hyfforddiant neu arweinyddiaeth a rheolaeth, byddwn yn trefnu gweithgarwch dilynol i gefnogi gwelliant. Mae arweiniad ar weithgarwch dilynol ar gael ar dudalen 13 y llawlyfr hwn.