Sut rydym yn arolygu – Cymraeg i Oedolion
Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu ein hymagweddau at arolygu darparwyr Cymraeg i Oedolion o 2024. Mae’n esbonio sut rydym yn arolygu. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol i arolygwyr cofnodol a holl aelodau eraill y tîm arolygu. Gallai fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr hefyd i ategu eu dealltwriaeth o drefniadau arolygu, y meddylfryd arolygu a methodolegau arolygu.
Dylid darllen yr arweiniad ochr yn ochr ag arweiniad ‘Beth rydym yn ei arolygu’ ar gyfer darparwyr Cymraeg i Oedolion, sy’n amlinellu’r fframwaith arolygu ar gyfer arolygiadau llawn. Gall darparwyr ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau’n gweithio a’u helpu i gryfhau eu prosesau hunanasesu a gwella eu hunain. Ar gyfer arolygiadau â thema, byddwn yn ysgrifennu at ddarparwyr bob blwyddyn yn amlinellu’r ffocws ar gyfer y flwyddyn, a’n hymagwedd.
Pan fydd yr arolygiad yn nodi arfer sy’n werth ei rhannu, bydd arolygwyr yn cynnwys sbotolau ar yr arfer hon fel rhan o’r adroddiad arolygu. Byddwn yn arddangos ystod o’r sbotoleuadau hyn, ac mewn rhai achosion, astudiaethau achos manylach ar ein gwefan. Dylai argymhellion roi syniad clir a phenodol i’r darparwr o’r meysydd i’w gwella y bydd angen iddo fynd i’r afael â nhw. Bydd y cynnydd yn erbyn argymhellion yn cael ei fonitro yn yr arolygiad dilynol o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Gallai arolygwyr hefyd ystyried cynnydd yn erbyn argymhellion o fewn gwerthusiadau cyfnodol o waith darparwyr.