Sut rydym yn arolygu – gwasanaethau addysg llywodraeth leol
Mae’r arweiniad hwn yn amlinellu’r ffordd y byddwn ni’n cynnal arolygiadau o wasanaethau addysg llywodraeth leol (GALlL) o Fedi 2024. Dylech ei ddarllen ochr yn ochr â’n harweiniad ar ‘Beth rydym yn ei arolygu mewn darparwyr rhaglenni prentisiaethau’ dan arolygiadau GALlL.
Mae gwasanaethau addysg llywodraeth leol yn cwmpasu swyddogaethau addysg statudol yr awdurdod lleol ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 25 oed. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau addysg a ddarperir ar ran awdurdod lleol gan:
- wasanaeth gwella ysgolion
- partneriaeth rhwng dau awdurdod lleol neu fwy
- sefydliad arall a gomisiynwyd gan yr awdurdod lleol (er enghraifft sefydliad gwirfoddol neu gwmni preifat)
Gallai’r darparwyr eraill hyn neu’r gwasanaethau ar y cyd gael eu harolygu ar wahân i awdurdod lleol a chyfeirir atynt yn yr arweiniad hwn fel ‘darparwyr eraill gwasanaethau addysg’. Yn yr arolygiadau hyn, byddai arolygwyr ond yn cymhwyso’r rhannau o’r fframwaith sy’n cwmpasu’r gwasanaethau addysg perthnasol.
Hefyd, mae’r arweiniad hwn yn amlinellu sut y byddwn yn mynd ar drywydd awdurdodau lleol, gwasanaethau a gomisiynwyd neu wasanaethau partneriaeth sy’n peri pryder sylweddol.
Gall awdurdodau lleol a’u partneriaid ddefnyddio’r arweiniad hwn i ddeall sut byddwn ni’n cynnal arolygiadau. Gallai eu helpu hefyd i hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwelliant.