Sut rydym yn arolygu - dysgu oedolion yn y gymuned - Estyn

Sut rydym yn arolygu – dysgu oedolion yn y gymuned


Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu ein hymagwedd at arolygu partneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned o 2024. Mae’n esbonio sut rydym yn arolygu. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol i arolygwyr cofnodol a holl aelodau eraill y tîm arolygu. Gallai fod yn ddefnyddiol i bartneriaethau hefyd i ategu eu dealltwriaeth o’r meddylfryd a methodolegau arolygu.

Dylid darllen yr arweiniad ochr yn ochr â ‘Beth rydym yn ei arolygu’ ar gyfer partneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned, sy’n amlinellu’r fframwaith arolygu. Gall partneriaethau ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau’n gweithio a’u helpu i gryfhau eu prosesau hunanwerthuso a gwella eu hunain.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi arfer sy’n werth ei rhannu, bydd arolygwyr yn cynnwys sbotolau ar yr arfer hon fel rhan o’r adroddiad am yr arolygiad. Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig yn ymwneud â safonau, ansawdd addysg a hyfforddiant neu arweinyddiaeth a rheolaeth, byddwn yn trefnu gweithgarwch dilynol i gefnogi gwelliant. Cyflwynir arweiniad ar weithgarwch dilynol ar ddiwedd y ddogfen hon.