Sut rydym yn arolygu – Colegau arbenigol annibynnol
Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu ein hymagwedd at arolygu colegau arbenigol annibynnol. Y rhain yw’r darparwyr sydd wedi eu cofrestru fel sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol gyda Llywodraeth Cymru. Mae’n esbonio sut rydym yn arolygu. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a phob aelod arall o’r tîm arolygu. Gallai fod yn ddefnyddiol ar gyfer darparwyr i gefnogi eu dealltwriaeth o’r meddylfryd a’r methodolegau arolygu hefyd.
Dylid darllen yr arweiniad ochr yn ochr â’r arweiniad ‘Beth rydym yn ei arolygu’ mewn colegau arbenigol annibynnol, sy’n amlinellu’r fframwaith arolygu. Gall darparwyr ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau’n gweithio a’u helpu i gryfhau eu prosesau hunanwerthuso a gwella eu hunain.
Pan fydd yr arolygiad yn nodi arfer sy’n werth ei rhannu, bydd arolygwyr yn cynnwys ciplun ar yr arfer hon fel rhan o’r adroddiad arolygu. Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon yn gysylltiedig â dysgu ac addysgu, lles, cymorth ac arweiniad, ac arwain a gwella, byddwn yn trefnu gweithgarwch dilynol i gefnogi gwelliant. Mae arweiniad ar weithgarwch dilynol ar gael ar dudalen 17 y llawlyfr hwn.