Sut rydym yn arolygu - Estyn

Sut rydym yn arolygu


Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu ein dulliau o arolygu ysgolion a gynhelir (ysgolion cynradd, uwchradd, pob oed ac arbennig), ysgolion annibynnol ac unedau cyfeirio disgyblion. Mae’n esbonio sut rydym yn arolygu. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol i arolygwyr cofnodol a holl aelodau eraill y tîm arolygu. Gallai fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr hefyd i ategu eu dealltwriaeth o’r meddylfryd a methodolegau arolygu.

Dylid darllen yr arweiniad ochr yn ochr â ‘Beth rydym yn ei arolygu’, sy’n amlinellu’r fframwaith arolygu. Gall ysgolion ac UCDau ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau’n gweithio.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi arfer sy’n werth ei rhannu, bydd arolygwyr yn gwahodd y darparwr i ysgrifennu astudiaeth achos y byddwn yn ei chyhoeddi ar ein gwefan. Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig yn ymwneud â safonau, ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant, neu arweinyddiaeth a rheolaeth, byddwn yn trefnu gweithgarwch dilynol i gefnogi gwelliant. Mae arweiniad ar y gwahanol fathau o weithgarwch dilynol ar gael ar dudalen 18 y llawlyfr hwn.