Sut rydym ni’n arolygu - Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) - Hydref 2023 - Estyn

Sut rydym ni’n arolygu – Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) – Hydref 2023


Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu’r broses arolygu ar gyfer arolygiadau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) o fis Medi 2022. Mae’n esbonio sut rydym yn arolygu. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a phob aelod arall o’r tîm arolygu. Hefyd, gallai fod yn ddefnyddiol ar gyfer darparwyr i gefnogi eu dealltwriaeth o’r meddylfryd a’r methodolegau arolygu.

Dylid darllen yr arweiniad ochr yn ochr â ‘Beth rydym ni’n ei arolygu’, sy’n amlinellu’r fframwaith arolygu. Pan fydd yr arolygiad yn nodi arfer sy’n werth ei lledaenu, bydd arolygwyr yn gwahodd y bartneriaeth i ysgrifennu astudiaeth achos y byddwn yn ei rhannu ar ein gwefan. Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig mewn perthynas â safonau, ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant neu arweinyddiaeth a rheolaeth, byddwn yn trefnu gweithgarwch dilynol i gefnogi gwelliant. Mae arweiniad ar y gwahanol fathau o weithgarwch dilynol ar gael ar dudalen 14 y llawlyfr hwn.