Llawlyfr enwebion ar gyfer Addysg Gychwynnol Athrawon - Estyn

Llawlyfr enwebion ar gyfer Addysg Gychwynnol Athrawon


Mae’r llawlyfr hwn ar gyfer enwebeion a fydd yn gweithredu fel cynrychiolydd y bartneriaeth ar y tîm arolygu yn ystod yr arolygiad o’u partneriaeth1. Ei nod yw rhoi arweiniad i benaethiaid ac uwch reolwyr a fydd yn eu galluogi i ddeall ac ymgymryd â rôl yr enwebai yn effeithiol.

Mae’r llawlyfr mewn tair rhan.

  • Rhan 1: Cyn yr arolygiad
  • Rhan 2: Yn ystod yr arolygiad
  • Rhan 3: Ar ôl yr arolygiad

Bydd yn ddefnyddiol i chi gael copi o ddogfennau ‘Beth rydym yn ei arolygu’ a ‘Sut rydym yn arolygu’ 2022 Estyn i gyfeirio atynt wrth i chi fynd trwy’r llawlyfr enwebeion. Mae’r dogfennau hyn ar gael ar ein gwefan. Mae’n bwysig iawn i chi fod yn gyfarwydd â nhw cyn yr arolygiad.