Llawlyfr enwebeion ar gyfer addysg bellach - Estyn

Llawlyfr enwebeion ar gyfer addysg bellach



Mae’r llawlyfr hwn wedi’i gynllunio ar gyfer enwebeion. Bydd yr enwebai yn gweithredu fel cynrychiolydd y darparwr ac aelod o’r tîm arolygu yn ystod yr arolygiad. Datblygwyd y llawlyfr yn bennaf gydag anghenion uwch reolwyr mewn cof, a cheir pwyslais cryf ar gymhwyso ymarferol. Mae’n ymateb i’r cwestiwn cyffredin – “Beth mae’n rhaid i mi ei wybod i fod yn enwebai effeithiol?”. O gymryd amser i ddarllen trwy’r llawlyfr, fe gewch y wybodaeth sydd ei hangen arnoch i baratoi ar gyfer eich arolygiad ac i ddeall pwysigrwydd y rôl fel enwebai’r darparwr.