Llawlyfr arweiniad ar gyfer arolygu dysgu yn y sector cyfiawnder (carchardai oedolion)
Mae’r arweiniad hwn yn amlinellu’r ffordd y bydd yr arolygiaeth yn cynnal arolygiadau dysgu yn y sector cyfiawnder (carchardai oedolion) o Orffennaf 2017 ymlaen. Mae’n amlinellu’r trefniadau arolygu ar gyfer dysgu yn y sector cyfiawnder (carchardai oedolion) ac yn cynnig arweiniad i arolygwyr ar lunio barnau arolygu.
Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig mewn perthynas â safonau, ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant neu arweinyddiaeth a rheolaeth, bydd yr arolygiaeth yn trefnu cynnal gweithgarwch dilynol yn y carchar i gefnogi gwelliant. Mae arweiniad ar y gwahanol fathau o weithgarwch dilynol ar gael ar wefan Estyn.
Gall carchardai ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau yn gweithio a’u helpu i gyflawni eu hunanarfarniad eu hunain.