Llawlyfr arweiniad ar gyfer arolygu colegau annibynnol arbenigol - Estyn

Llawlyfr arweiniad ar gyfer arolygu colegau annibynnol arbenigol


Mae’r arweiniad hwn yn amlinellu’r ffordd y bydd yr arolygiaeth yn cynnal arolygiadau o golegau annibynnol arbenigol o Fedi 2017 ymlaen. Mae’n amlinellu’r trefniadau arolygu ar gyfer colegau annibynnol arbenigol ac yn cynnig arweiniad i arolygwyr ar lunio barnau arolygu.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig mewn perthynas â safonau, ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant neu arweinyddiaeth a rheolaeth, gallai’r arolygiaeth drefnu cynnal ymweliad monitro cynnar i gefnogi gwelliant.

Gall colegau annibynnol arbenigol ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau yn gweithio a’u helpu i gyflawni eu hunanasesiad a’u prosesau gwella eu hunain.