Llawlyfr arweiniad ar gyfer arolygu addysg a gofal mewn lleoliadau a reoleiddir, heblaw ysgolion, sy’n gymwys am gyllid ar gyfer addysg ran-amser
Mae’r arweiniad hwn yn amlinellu’r ffordd y bydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Estyn yn arolygu gofal ac addysg mewn lleoliadau a reoleiddir, heblaw ysgolion, sy’n gymwys am gyllid ar gyfer addysg ran-amser. Bydd yr arolygiadau hyn ar y cyd yn gwerthuso’r gofal a ddarperir ar gyfer pob plentyn hyd at 12 oed ac addysg plant tair a phedair oed nad ydynt yn derbyn addysg mewn lleoliad a gynhelir.
Diben arolygu ar y cyd yw:
- cynnig arfarniad ansawdd i ddefnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid eraill
trwy adroddiadau cyhoeddus - hybu gwelliant mewn gofal ac addysg
- llywio datblygiad polisi cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru
- profi p’un a yw’r gwasanaeth yn addas i’w gofrestru o hyd
- rhoi sicrwydd digonol bod y gwasanaeth yn ddiogel ac yn cydymffurfio