Llawlyfr arweiniad ar gyfer arolygiadau colegau addysg bellach 2019 - Estyn

Llawlyfr arweiniad ar gyfer arolygiadau colegau addysg bellach 2019


Mae’r arweiniad hwn yn amlinellu’r ffordd y bydd yr arolygiaeth yn cynnal arolygiadau o golegau addysg bellach o Fedi 2019 ymlaen. Mae’n amlinellu’r trefniadau arolygu ar gyfer colegau ac yn cynnig arweiniad i arolygwyr ar lunio barnau arolygu.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig mewn perthynas â safonau, ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant neu arweinyddiaeth a rheolaeth, yna bydd yr arolygiaeth yn cynnal gweithgarwch dilynol yn y coleg i gefnogi gwelliant. Mae arweiniad ar y gwahanol fathau o weithgarwch dilynol ar gael ar wefan Estyn.

Gall colegau addysg bellach ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau yn gweithio a’u helpu i gryfhau eu prosesau hunanasesu a gwella eu hunain.