Beth rydym yn ei arolygu gwaith ieuenctid
Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu beth mae angen i arolygwyr ei ystyried wrth werthuso’r pum maes arolygu mewn gwasanaethau gwaith ieuenctid. Mae’n esbonio ‘Beth rydym yn ei arolygu’. Dylid ei ddarllen ar y cyd â’r ddogfen ‘Sut rydym yn arolygu’.
Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a holl aelodau eraill y tîm arolygu, gan gynnwys yr enwebai. Gallai fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr gefnogi eu dealltwriaeth o’r arweiniad arolygu, hefyd. Mae llawlyfr ar wahân sy’n esbonio’r broses a’r fethodoleg arolygu, sef ‘Sut rydym yn arolygu’.
Mae’r tri maes arolygu wedi’u hamlinellu isod.
Meysydd arolygu
1 – Sut mae gwaith ieuenctid yn helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial?
1.1 Addysgiadol
1.2 Mynegiannol
1.3 Cyfranogol
1.4 Cynhwysol
1.5 Grymusol
2 – Beth gall pobl ifanc ei ddisgwyl gan ddarpariaeth gwaith ieuenctid
2.1 Ansawdd gwaith ieuenctid
2.2 Y Cynnig Cyffredinol (darpariaeth gwaith ieuenctid ar gyfer yr holl bobl ifanc)
2.3 Cymorth ar gyfer pobl ifanc fregus
3 – Arwain a gwella
5.1 Ansawdd ac effeithiolrwydd arweinwyr a rheolwyr
5.2 Prosesau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant
5.3 Dysgu proffesiynol
5.4 Diogelu