Beth rydym yn ei arolygu – addysg bellach
Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu beth mae angen i arolygwyr ei ystyried wrth werthuso’r tri maes arolygu mewn Addysg Bellach (AB). Mae’n esbonio ‘Beth rydym yn ei arolygu’. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a holl aelodau eraill y tîm arolygu, gan gynnwys yr enwebai. Gallai fod yn ddefnyddiol hefyd ar gyfer unrhyw un sydd eisiau deall ein hymagwedd at arolygu yn well. Mae llawlyfr ar wahân o’r enw ‘ Sut rydym yn arolygu’ sy’n esbonio’r broses a’r fethodoleg arolygu.
Mae’r tri maes arolygu wedi’u hamlinellu isod:
MA1 – Addysgu a dysgu
MA2 – Lles, gofal, cymorth ac arweiniad
MA3 – Arwain a gwella