Beth rydym yn arolygu – trefniadau trochi yn y Gymraeg mewn awdurdodau lleol
Mae’r llawlyfr hwn yn nodi’r hyn y mae angen i arolygwyr ei ystyried wrth werthuso’r tri maes arolygu ar gyfer trefniadau trochi yn y Gymraeg mewn awdurdodau lleol. Mae’n esbonio ‘Beth rydym yn ei arolygu’. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a holl aelodau eraill y tîm arolygu, gan gynnwys yr enwebai. Gallai hefyd fod yn ddefnyddiol ar gyfer darparwyr i gefnogi eu dealltwriaeth o’r arweiniad arolygu. Mae llawlyfr ar wahân sy’n esbonio’r broses a’r fethodoleg arolygu, sef ‘Sut rydym yn arolygu’.
Mae’r tri maes arolygu wedi’u nodi isod:
MA1: Addysgu a dysgu
MA2: Lles, gofal, cymorth ac arweiniad
MA3: Arwain a gwella