Beth rydym ni’n ei arolygu - Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) - Medi 2022 - Estyn

Beth rydym ni’n ei arolygu – Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) – Medi 2022


Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu’r hyn y mae angen i arolygwyr ei ystyried wrth werthuso’r pum maes mewn Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) o fis Medi 2022. Mae’n esbonio ‘beth rydym ni’n ei arolygu’.

Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a phob aelod arall o’r tîm arolygu, yn cynnwys yr enwebai. Hefyd, gallai fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr i gefnogi eu dealltwriaeth o’r fframwaith arolygu. Ceir llawlyfr ar wahân sy’n esbonio’r broses a’r fethodoleg arolygu, sef ‘sut rydym ni’n arolygu’.

Mae’r pum maes arolygu wedi eu hamlinellu isod.

Meysydd Arolygu
MA1 Dysgu

  • 1.1 Safonau a chynnydd yn gyffredinol

MA2 Lles ac agweddau at ddysgu

  • 2.1 Lles
  • 2.2 Agweddau at ddysgu

MA3 Addysgu a phrofiadau dysgu

  • 3.1 Ehangder, cydbwysedd a phriodoldeb y cwricwlwm
  • 3.2 Ansawdd addysgu a mentora

MA4 Gofal, cymorth ac arweiniad

  • 4.1 Datblygiad personol a phroffesiynol, a darparu cymorth dysgu
  • 4.2 Diogelu

MA5 Arweinyddiaeth a rheolaeth

  • 5.1 Ansawdd ac effeithiolrwydd arweinwyr a rheolwyr
  • 5.2 Prosesau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant
  • 5.3 Dysgu proffesiynol