Arweiniad dilynol ar gyfer lleoliadau heblaw ysgolion sy’n darparu gofal ac yn gymwys am gyllid ar gyfer addysg ran-amser, ac ar gyfer arolygwyr - Estyn

Arweiniad dilynol ar gyfer lleoliadau heblaw ysgolion sy’n darparu gofal ac yn gymwys am gyllid ar gyfer addysg ran-amser, ac ar gyfer arolygwyr


Mae’r ddogfen hon yn rhoi arweiniad ar weithgarwch dilynol ar gyfer pob arolygiad ar y cyd gydag Estyn ac AGC a gynhelir o Ionawr 2019.

Mae’r arweiniad yn nodi’r camau y bydd timau arolygu yn eu cymryd i’w helpu i nodi pa lefel gweithgarwch dilynol sy’n fwyaf priodol.

Fodd bynnag, mae’r arweiniad hwn yn hyblyg gan fod angen iddo fod yn ymatebol i’r amrywiaeth eang o sefyllfaoedd sy’n digwydd mewn lleoliadau wrth iddynt wella yn dilyn arolygiadau craidd. Mae Estyn ac AGC yn cadw’r hawl i addasu’r arweiniad i fodloni anghenion lleoliadau penodol.