Arweiniad atodol: plant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) mewn lleoliadau a reoleiddir, heblaw ysgolion, sy’n gymwys am gyllid ar gyfer addysg ran-amser - Medi 2022 - Estyn

Arweiniad atodol: plant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) mewn lleoliadau a reoleiddir, heblaw ysgolion, sy’n gymwys am gyllid ar gyfer addysg ran-amser – Medi 2022


Mae’r arweiniad hwn yn cynorthwyo arolygwyr i werthuso’r deilliannau a’r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae’n cynnwys gwybodaeth fuddiol i gynorthwyo ag arolygu deilliannau a darpariaeth ar gyfer dysgwyr ag ADY.

Dylai arolygwyr ddefnyddio’r arweiniad hwn ochr yn ochr â’r llawlyfr Arweiniad Arolygu ar y Cyd ar gyfer arolygu gofal ac addysg mewn lleoliadau a reoleiddir nad ydynt yn ysgolion sy’n gymwys i gael cyllid ar gyfer addysg ran-amser.

Hefyd, dylai arolygwyr ymgyfarwyddo â’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol, a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).

Mae’r Ddeddf, ynghyd â’r Cod hwn a rheoliadau a wnaed o dan y Ddeddf, yn darparu’r system statudol ar gyfer diwallu anghenion dysgu ychwanegol (ADY) plant a phobl ifanc. Mae’n gosod safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r plant wrth wraidd y broses i gynllunio’r cymorth sydd ei angen i’w galluogi i ddatblygu’n effeithiol a chyflawni eu llawn botensial.