Arweiniad atodol: Cymraeg
Nod yr arweiniad atodol hwn yw cefnogi arolygwyr i:
- werthuso i ba raddau y mae arweinwyr a rheolwyr yn cynllunio cyfleoedd pwrpasol yn strategol i ddisgyblion ddatblygu eu medrau Cymraeg mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol, a rhoi’r cynlluniau hyn ar waith yn effeithiol
- gwerthuso graddau ac ansawdd darpariaeth yr ysgol ar gyfer datblygu medrau cyfathrebu yn Gymraeg mewn gweithgareddau addysgu ffurfiol ac mewn sefyllfaoedd anffurfiol
- gwerthuso pa mor dda y mae’r ysgol yn addysgu disgyblion am fanteision dysgu Cymraeg a bod yn ddwyieithog
- lle y bo’n briodol, dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae cyfran yr addysgu yn Gymraeg yn cyd-fynd â chategori iaith swyddogol yr ysgol
- gwerthuso gallu disgyblion i siarad Cymraeg ac ymateb i Gymraeg llafar o gymharu â disgyblion mewn ysgolion mewn cyd-destunau tebyg a’u mannau cychwyn
- gwerthuso’r cynnydd a wna disgyblion o ran datblygu eu medrau cyfathrebu yn Gymraeg ar gyfer eu dysgu ar draws y cwricwlwm, ac mewn cyd-destunau mwy anffurfiol.
Wrth arolygu medrau llythrennedd (Cymraeg) mewn ysgolion ac UCDau cyfrwng Cymraeg, dwyieithog a chyfrwng Saesneg, dylech chi hefyd gyfeirio at yr arweiniad atodol: Arweiniad atodol ar gyfer arolygu llythrennedd Cymraeg a Saesneg mewn ysgolion ac UCDau sydd i’w weld ar wefan Estyn hefyd.
Mae’r Fframwaith Arolygu diwygiedig (Medi 2021) yn gosod gofyniad i arolygwyr werthuso a rhoi sylwadau ar y Gymraeg yn y canlynol:
5.1 (Ansawdd ac effeithiolrwydd arweinwyr a rheolwyr, yn cynnwys y corff llywodraethol),
3.1 (Ehangder, cydbwysedd a phriodoldeb y cwricwlwm), ac mewn
1.1 (Safonau a chynnydd mewn dysgu a medrau [gwrando a darllen, siarad ac ysgrifennu]).
Cyflwynwyd yr adroddiad fel hyn am fod 5.1 yn ymgorffori gweledigaeth strategol arweinwyr ar gyfer y Gymraeg yn eu lleoliadau yn ogystal â phrosesau hunanwerthuso, blaenoriaethau a dysgu proffesiynol er mwyn cefnogi’r addysgu (3.1) a’r dysgu (1.1). Yn ychwanegol, mae arolygwyr yn rhydd i adrodd ar agweddau yn gysylltiedig â’r Gymraeg mewn perthynas â maes arolygu 2 (Lles ac agweddau at ddysgu) a maes arolygu 4 (Gofal, cymorth ac arweiniad).