Arweiniad atodol: Arsylwadau o wersi a theithiau dysgu - Medi 2021 - Estyn

Arweiniad atodol: Arsylwadau o wersi a theithiau dysgu – Medi 2021


Diben Estyn yw arolygu ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae Estyn yn gyfrifol am arolygu:

  • ysgolion a safleoedd meithrin a gynhelir gan, neu sy’n cael arian gan awdurdodau lleol
  • ysgolion cynradd
  • ysgolion uwchradd
  • ysgolion pob oed
  • ysgolion arbennig
  • unedau cyfeirio disgyblion
  • ysgolion annibynnol
  • addysg bellach
  • dysgu oedolion yn y gymuned
  • hyfforddiant gwaith ieuenctid a chymunedol
  • gwasanaethau addysg awdurdodau lleol ar gyfer plant a phobl ifanc
  • addysg a hyfforddiant athrawon
  • dysgu yn y gwaith
  • dysgu yn y sector cyfiawnder


Mae Estyn hefyd:

  • yn rhoi cyngor ar ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac eraill
  • yn cyhoeddi achosion o arfer dda yn seiliedig ar dystiolaeth arolygu


Cymerwyd pob rhagofal posibl i sicrhau bod y wybodaeth yn y ddogfen hon yn gywir adeg ei chyhoeddi. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu sylwadau ynglŷn â’r ddogfen hon/cyhoeddiad hwn at:

Yr Adran Gyhoeddiadau
Estyn
Llys Angor
Heol Keen 
Caerdydd
CF24 5JW neu drwy anfon e-bost at 

Mae’r cyhoeddiad hwn a chyhoeddiadau eraill gan Estyn ar gael ar ein gwefan: www.estyn.llyw.cymru

Cyfieithwyd y ddogfen hon gan Trosol (Saesneg i Gymraeg).

Hawlfraint y Goron 2021: 
Gellir ailddefnyddio’r adroddiad hwn yn ddi-dâl mewn unrhyw fformat neu gyfrwng ar yr amod y caiff ei ailddefnyddio’n gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Rhaid cydnabod y deunydd fel hawlfraint y Goron a rhaid nodi teitl yr adroddiad penodol.

Ynglŷn â’r arweiniad hwn

Overview

Mae ein harweiniad arolygu yn esbonio Beth rydym ni’n ei arolygu a Sut rydym ni’n arolygu. Fodd bynnag, rydym yn llunio arweiniad atodol hefyd i helpu arolygwyr i ystyried agweddau penodol ar addysg a hyfforddiant ymhellach. 

Mae’r dogfennau arweiniad atodol yn amlinellu rhai egwyddorion, ystyriaethau ac adnoddau allweddol ar gyfer arolygwyr. Maent yn ymwneud â phob sector y mae Estyn yn ei arolygu, oni bai bod y dogfennau’n datgan eu bod ar gyfer sector neu sectorau penodol. Maent yn ymhelaethu ar agweddau penodol ar addysg/hyfforddiant (er enghraifft arolygu llythrennedd) neu ffyrdd o gynnal arolygiadau (er enghraifft defnyddio teithiau dysgu) neu drefniadau arolygu penodol (er enghraifft arweiniad ar arolygu ysgolion eglwysig).

Nid nod y dogfennau arweiniad atodol yw bod yn gynhwysfawr. Nid yw’n ofynnol i arolygwyr weithio trwyddynt yn drwyadl wrth ymdrin ag unrhyw agwedd benodol ar arolygiad. Fodd bynnag, gallent fod yn ddefnyddiol i arolygwyr wrth iddynt ymateb i gwestiynau penodol sy’n dod i’r amlwg yn ystod arolygiadau neu pan fyddant yn dymuno myfyrio neu ymchwilio ymhellach.

Gallai’r dogfennau arweiniad atodol helpu darparwyr i gael dealltwriaeth o drefniadau arolygu Estyn. Gallent fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr hefyd o ran gwerthuso agweddau penodol ar eu darpariaeth eu hunain.

Mae timau arolygu yn gweithio yn unol â saith egwyddor allweddol. Mae’r rhain yn cynnwys bod timau arolygu:

  • yn arolygu ar sail dull sy’n canolbwyntio ar y dysgwr
  • bob amser yn canolbwyntio’n gryf ar ansawdd ac effeithiolrwydd yr addysgu a’r dysgu
  • yn sicrhau bod arolygu yn ymateb i anghenion yr holl ddysgwyr 
  • yn canolbwyntio ar y darparwr penodol ym mhob arolygiad ac yn addasu eu dulliau yn unol â hynny
  • yn mabwysiadu dull adeiladol sy’n gwneud y rhyngweithio gyda’r darparwr yn brofiad dysgu proffesiynol ar gyfer eu staff a’r tîm arolygu cyfan
  • yn ystyried popeth yn y fframwaith arolygu, ond byddant yn adrodd ar y cryfderau a’r gwendidau allweddol yn unig 
  • yn chwilio am arfer arloesol dra ystyriol 
  • yn sicrhau bod gwerthusiadau yn gadarn, yn ddibynadwy, yn ddilys ac yn seiliedig ar dystiolaeth uniongyrchol
  • yn sicrhau cyn lleied â phosibl o ofynion ar gyfer dogfennau a pharatoi gan y darparwr
  • yn cael safbwynt dysgwyr a rhanddeiliaid eraill.

Arsylwadau o wersi: Egwyddorion cyffredinol

Nod pob gweithgarwch arolygu yw i’r tîm gasglu digon o dystiolaeth o arsylwadau o wersi, teithiau dysgu a gweithgareddau eraill i asesu dilysrwydd a chywirdeb yr arfarniad y darparwr ei hun o’i gryfderau a’i wendidau mewn perthynas â deilliannau, ac ansawdd ei ddarpariaeth a’i arweinyddiaeth.

Yn ystod arolygiadau, bydd yr arolygydd cofnodol (ACof) yn trefnu nifer o arsylwadau o wersi a theithiau dysgu. Ni ddylai aelodau’r tîm arolygu gynnal arsylwadau o wersi neu deithiau dysgu ar eu liwt eu hunain, ond yn hytrach dylent bob amser gyfeirio’n ôl at yr ACof i drafod a sicrhau ei gytundeb/chytundeb.

Mae teithiau dysgu yn rhoi cyfle i dimau arolygu weld nifer fwy o ddysgwyr, dosbarthiadau, gweithgareddau ac athrawon. Nid oes gofyniad i’r tîm arolygu arsylwi pob athro neu bob pwnc neu faes dysgu. Ni ddylai’r ACof a’r tîm arolygu rannu’r amserlen o arsylwadau o wersi neu deithiau dysgu gyda’r enwebai fel arfer oni bai bod rheswm penodol, darbwyllol i wneud hynny, er enghraifft er mwyn hwyluso mynediad i ardal ddynodedig o’r safle neu i sicrhau iechyd a diogelwch arolygwyr.

Nid oes templed penodedig gan Estyn ar gyfer strwythur gwersi, na’r dulliau addysgu sy’n ofynnol. Dylai athrawon gynllunio profiadau dysgu yr ystyriant yw’r mwyaf priodol i’r dysgwyr yn y dosbarth a’r amcanion dysgu y dymunant iddynt eu cyflawni. Dylai arolygwyr ond gwerthuso addysgu mewn perthynas â pha mor effeithiol y mae’n helpu disgyblion i sicrhau dysgu a gwneud cynnydd dros gyfnod.

Bydd arolygwyr yn ystyried unrhyw gynlluniau y gallai athrawon eu defnyddio ar gyfer y wers a arsylwyd, ond nid ydynt yn mynnu bod athrawon yn gwneud unrhyw waith cynllunio gwersi pwrpasol yn benodol ar gyfer yr arolygiad. Mae arolygwyr am weld y cynlluniau y mae athrawon yn eu defnyddio fel arfer i arwain yr addysgu a’r dysgu. Nid ydynt eisiau cynyddu’r baich biwrocrataidd ar athrawon neu staff cymorth oherwydd gweithgarwch arolygu.

Mae’r tîm arolygu yn casglu ystod eang o dystiolaeth ar ansawdd yr addysgu a’r cynnydd a wna dysgwyr, er enghraifft trwy graffu ar gynllunio athrawon a siarad â dysgwyr am eu gwaith. Mae arsylwi gwersi a theithiau dysgu yn ffurfio un rhan yn unig o’r dystiolaeth honno. Bydd y tîm arolygu yn canolbwyntio ar sefydlu mynychter ac arwyddocâd cryfderau a gwendidau amrywiol yng nghynnydd a chyflawniad dysgwyr, ansawdd eu profiadau dysgu ac ansawdd yr addysgu ar draws y darparwr i’w trafod mewn cyfarfodydd tîm. 

Os nad yw arolygwyr yn gallu casglu digon o dystiolaeth yn ystod arsylwadau o wersi neu drwy deithiau dysgu am safonau dysgwyr, y cynnydd a wnânt, eu profiadau dysgu ac ansawdd yr addysgu, dylai arolygwyr siarad â’r enwebai a gofyn am sampl ychwanegol o waith dysgwyr, trafodaeth bellach gyda dysgwyr a chynlluniau athrawon i graffu arnynt ymhellach.


Arsylwadau o wersi

Mae arsylwadau o wersi yn canolbwyntio’n bennaf ar waith un dosbarth, sesiwn neu wers. Yn nodweddiadol, byddant yn golygu bod arolygydd yn arsylwi dysgwyr mewn lleoliad ystafell ddosbarth, labordy neu weithdy. Ar adegau, gall yr arsylwad o wers gynnwys arsylwi dysgwyr y tu allan i’r ystafell ddosbarth, er enghraifft mewn ardaloedd awyr agored, mewn neuadd chwaraeon neu fan perfformio neu yn y coridorau.

Mae arolygwyr yn arsylwi gwersi am o leiaf 30 munud. Yn y rhan fwyaf o achosion, byddant yn arsylwi dysgu am gyfnod hwy na hyn. Yr amser arferol ar gyfer arsylwi gwers yw rhwng 45-60 munud, ond gallai fod yn fwy gan ddibynnu ar natur y wers a’r dystiolaeth a fynnir gan yr arolygydd. Ar adegau, gall arolygwyr dreulio 30 munud gyda dosbarth ar ddechrau sesiwn neu fynd yn ôl nes ymlaen i weld rhannau eraill o’r wers.

Ar ddiwedd pob arsylwad o wers, bydd yr arolygydd yn cynnig y cyfle i’r athro gael deialog broffesiynol fer ar y wers/gweithgaredd a arsylwyd. Pan na fydd hyn yn bosibl, dylai’r arolygydd a’r athro gytuno ar amser a lleoliad sy’n gyfleus i’r ddau i gynnal y ddeialog broffesiynol. Dylai’r arolygydd gynnig cyfle ar gyfer deialog broffesiynol bob amser, ond yr athro dan sylw sydd i ddewis p’un a yw’n dymuno derbyn y gwahoddiad neu beidio.

Dylai deialog broffesiynol gydag athrawon ganolbwyntio’n bennaf ar waith y dysgwyr. Dylai sylwadau ar ansawdd yr addysgu ymwneud â’r cryfderau a’r gwendidau yn y dysgu a welwyd a chyfraniad yr addysgu at hynny. 


Teithiau dysgu

Bydd arolygwyr yn cynnal teithiau dysgu yn ystod arolygiadau. Mae teithiau dysgu yn canolbwyntio ar agwedd benodol ar waith dysgwyr ar draws nifer o ddosbarthiadau, er enghraifft safonau mewn llythrennedd neu TGCh, neu ansawdd y cymorth i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Efallai y bydd un arolygydd yn ymgymryd â thaith ddysgu ar draws ystod o wersi neu efallai y bydd nifer o arolygwyr yn ymweld â dosbarthiadau, gweithdai neu ardaloedd darparwr yn unigol am gyfnod byr, gyda ffocws neu thema gyffredin dan sylw. 

O ganlyniad i natur ffocysedig y gweithgaredd taith ddysgu, a lledaenu gweithgarwch ar draws nifer o wersi / dosbarthiadau o fewn cyfnod cymharol fyr, ni fydd arolygwyr mewn sefyllfa i gynnig deialog broffesiynol i athrawon unigol ar ôl teithiau dysgu. Hefyd, yn ystod teithiau dysgu, efallai na fydd arolygwyr yn gweld llawer iawn o addysgu dosbarth cyfan o gwbl. Gallai arolygwyr ar deithiau dysgu ganolbwyntio ar y gwaith y mae dysgwyr yn ymgymryd ag ef yn hytrach nag ansawdd yr addysgu. 

Yn ystod y rhan fwyaf o arolygiadau, bydd gweithgareddau teithiau dysgu yn digwydd rhwng dechrau a chanol y cyfnod y mae’r tîm arolygu gyda’r darparwr, er y gallant ddigwydd ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod arolygu. Gallai deilliannau teithiau dysgu a gweithgareddau arolygu eraill lywio ffocws y gweithgarwch arolygu ar unrhyw ddiwrnod(au) canlynol. Bydd angen i arolygwyr cofnodol fod yn hyblyg o ran amserlennu arsylwadau pellach a gweithgareddau eraill er mwyn ymateb yn briodol i’r canfyddiadau sy’n dod i’r amlwg o’r dystiolaeth a gafwyd o deithiau dysgu. 

Nid oes dyraniad amser dynodedig ar gyfer arsylwi taith ddysgu gan y gall ffocws yr arolygiad amrywio o daith ddysgu i daith ddysgu ac o ddarparwr i ddarparwr. Dylai’r ACof drafod nodweddion ymarferol gweithgarwch teithiau dysgu gyda’r tîm arolygu a darparu arweiniad addas ar ddechrau’r arolygiad.

Ar ddechrau arolygiadau, bydd yr ACof yn trefnu i aelodau’r tîm arolygu gynnal teithiau dysgu ar adegau penodol, a bydd yr ACof yn nodi’r ffocws penodol ar gyfer y teithiau dysgu. Fel arfer, bydd yr ACof yn sicrhau nad oes unrhyw orgyffwrdd yng ngwaith arolygwyr, er enghraifft dau arolygydd yn arsylwi’r un gweithgaredd yn yr un dosbarth. Fodd bynnag, mewn amgylcheddau dysgu cynllun agored, gall fod achlysuron pan fydd arolygwyr yn cynnal arsylwadau a theithiau dysgu mewn ardaloedd tebyg, er enghraifft mewn ardal fawr, cynllun agored y cyfnod sylfaen mewn ysgol, ar draws gweithdy mawr neu fan perfformio, neu mewn ardal awyr agored, fel iard chwarae neu gae chwarae.


Cofnodi canfyddiadau o arsylwadau o wersi a theithiau dysgu

Dylai arolygwyr nodi canfyddiadau sy’n dod i’r amlwg yn electronig yn yr ardal berthnasol o’u ffurflenni barnau (FfBau) electronig wrth iddynt ymgymryd â gweithgarwch arolygu. 

Yn y rhan fwyaf o achosion, dylai arolygwyr nodi eu canfyddiadau yn yr adran ‘Nodiadau arsylwi’ o’u FfBau, sy’n canolbwyntio ar safonau ac addysgu. Gall y rhain wedyn ffurfio’r sail ar gyfer trafodaeth tîm ar y cryfderau a’r gwendidau cyffredinol mewn dysgu, cynnydd, cyflawniad ac addysgu yn y darparwr. Dylai arolygwyr gofnodi eu canfyddiadau ar unrhyw agweddau eraill ar y ddarpariaeth, er enghraifft ehangder, cydbwysedd a phriodoldeb y cwricwlwm, yn adran berthnasol eu FfF.