Arweiniad atodol ar arolygu presenoldeb - Estyn

Arweiniad atodol ar arolygu presenoldeb


O dan y fframwaith arolygu ar gyfer Medi 2024, o dan faes arolygu 2, dylai arolygwyr adrodd ar bresenoldeb pob un o’r disgyblion, gan gynnwys y rhai
sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Dylai arolygwyr gyfeirio at ‘Perthyn, ymgysylltu a chyfranogi: Canllawiau ar wella lefelau ymgysylltu a phresenoldeb dysgwyr’, Canllaw rhif 293/2023 Llywodraeth Cymru

O fis Medi 2024, dylai arolygwyr adrodd ar bresenoldeb ym mhob adroddiad arolygu.

Yn eu tystiolaeth ategol, dylai arolygwyr bob amser ystyried:

  • Pa mor dda y mae arweinwyr yn gwerthuso ac yn cynllunio ar gyfer gwella presenoldeb disgyblion
  • Effaith gwaith yr ysgol i wella presenoldeb
  • Pa mor dda y mae’r ysgol yn gweithio gyda’r gymuned i wella presenoldeb
  • Pa mor dda y mae’r ysgol yn cofnodi, yn dadansoddi ac yn ymateb i gyfraddau presenoldeb disgyblion
  • Pa mor dda mae arweinwyr yn targedu ac yn defnyddio adnoddau i wella presenoldeb
  • Pa mor dda mae’r ysgol yn cynorthwyo disgyblion i ailintegreiddio i’r ysgol yn dilyn cyfnodau o absenoldeb, gan gynnwys gwaharddiadau cyfnod penodol
  • Pa mor dda mae’r ysgol yn cynorthwyo disgyblion sy’n osgoi’r ysgol am resymau emosiynol ac yn ymgysylltu â phob grŵp o ddisgyblion i wella’u presenoldeb o’u mannau cychwyn

a sut mae hyn yn effeithio ar:

nifer y disgyblion sydd â chyfraddau presenoldeb ymhell islaw rhai eraill yn yr
ysgol, yn enwedig y rhai â chyfraddau presenoldeb islaw 80% a’r rhai â
chyfraddau presenoldeb islaw 90%

  • nifer y disgyblion sydd â chyfraddau presenoldeb ymhell islaw rhai eraill yn yr ysgol, yn enwedig y rhai â chyfraddau presenoldeb islaw 80% a’r rhai â chyfraddau presenoldeb islaw 90%
  • well ymgysylltiad, cyfranogiad a chyfraddau presenoldeb grwpiau penodol o ddisgyblion o gymharu â gweddill yr ysgol, fel disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim neu ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol
  • gyfraddau presenoldeb cymharol ar gyfer grwpiau blwyddyn ar draws yr ysgol
  • p’un a yw disgyblion yn cyrraedd yr ysgol a gwersi yn brydlon
  • p’un a yw unrhyw ddiffyg mewn presenoldeb yn effeithio ar safonau disgyblion neu grwpiau o ddisgyblion, gan ofalu i beidio â dim ond awgrymu achos yn sgil cydberthyniad

Dylai arolygwyr bob amser ystyried cyd-destun unigol yr ysgol, ac effaith COVID-19 ar gymuned yr ysgol a’r effaith ddilynol ar bresenoldeb.

Hefyd, dylai arolygwyr ystyried unrhyw wybodaeth ychwanegol a ddarperir gan yr ysgol, gan gynnwys eu data diweddaraf ar bresenoldeb. Dylent ystyried unrhyw ddadansoddiad a wnaed gan ysgolion i nodi ffactorau lliniarol a allai effeithio ar gyfraddau presenoldeb cyffredinol, er enghraifft, cyfran uchel o ddisgyblion ag anghenion meddygol difrifol y mae angen iddynt fynychu apwyntiadau ysbyty rheolaidd neu gael amser gartref. Dylai arolygwyr ddefnyddio cyfarfodydd â disgyblion i fynd ar drywydd unrhyw gwestiynau sy’n dod i’r amlwg yn gysylltiedig â
phresenoldeb, fel cael argraff os yw disgyblion yn deall canlyniadau presenoldeb gwael.

Er bod data cenedlaethol yn darparu cyd-destun i ystyried cyfraddau presenoldeb ysgol, ni ddylai arolygwyr gael eu dylanwadu’n ormodol gan gymariaethau â chyfraddau presenoldeb cenedlaethol gan fod y cyfraddau hyn yn llawer is na lefelau cyn y pandemig.

Ym MA3, mae’n bwysig bod arolygwyr yn canolbwyntio ar effaith arweinyddiaeth ar wella cyfraddau presenoldeb.