Arweiniad ar weithgarwch dilynol ar gyfer ysgolion ac arolygwyr (o Fedi 2017)
Mae’r ddogfen hon yn rhoi arweiniad ar weithgarwch dilynol ar gyfer pob arolygiad craidd a gynhelir o Fedi 2019.
Mae’r arweiniad yn nodi’r camau y bydd timau arolygu yn eu cymryd i’w helpu i nodi pa lefel gweithgarwch dilynol sy’n fwyaf priodol. Bydd yn ddefnyddiol i ysgolion ddeall y gweithdrefnau hyn a’r ffactorau fydd yn cael eu hystyried gan dimau arolygu wrth benderfynu ar y lefel gweithgarwch dilynol mwyaf priodol.
Fodd bynnag, mae’r arweiniad hwn yn hyblyg oherwydd mae angen iddo allu ymateb i’r amrywiaeth eang o sefyllfaoedd sy’n codi mewn ysgolion wrth iddynt wella yn dilyn arolygiadau craidd. Mae Estyn yn cadw’r hawl i addasu’r arweiniad i fodloni anghenion ysgolion penodol.