Arolygu ysgolion â chymeriad crefyddol
Diben Estyn yw arolygu ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae Estyn yn gyfrifol am arolygu:
- ysgolion a lleoliadau meithrin a gynhelir gan, neu sy’n cael arian gan awdurdodau lleol
- ysgolion cynradd
- ysgolion uwchradd
- ysgolion pob oed
- ysgolion arbennig
- unedau cyfeirio disgyblion
- ysgolion annibynnol
- addysg bellach
- colegau arbenigol annibynnol
- dysgu oedolion yn y gymuned
- gwasanaethau addysg awdurdodau lleol ar gyfer plant a phobl ifanc
- addysg a hyfforddiant athrawon
- Cymraeg i oedolion
- dysgu yn y gwaith
- dysgu yn y sector cyfiawnder
Rydym hefyd:
- yn adrodd i Senedd Cymru ac yn rhoi cyngor ar ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru i Lywodraeth Cymru ac eraill
- yn cyhoeddi achosion o arfer dda yn seiliedig ar dystiolaeth arolygu.
Cymerwyd pob rhagofal posibl i sicrhau bod y wybodaeth yn y ddogfen hon yn gywir adeg ei chyhoeddi. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu sylwadau ynglŷn â’r ddogfen hon/cyhoeddiad hwn at:
Yr Adran Gyhoeddiadau
Estyn
Llys Angor
Heol Keen
Caerdydd
CF24 5JW neu drwy anfon e-bost at
Mae’r cyhoeddiad hwn a chyhoeddiadau eraill gan Estyn ar gael ar ein gwefan: www.estyn.llyw.cymru
Cyfieithwyd y ddogfen hon gan Trosol (Saesneg i Gymraeg).
Ynglŷn â’r arweiniad hwn
Trosolwg
Diben yr arweiniad atodol hwn yw:
- esbonio sut bydd ysgolion â chymeriad crefyddol yn cael eu harolygu o dan adran 50 ac adran 28, ac amlygu’r gwahaniaethau mewn cyfrifoldeb rhwng y ddau arolygiad
- rhoi gwybodaeth gefndir i arolygwyr am ysgolion sydd â chymeriad crefyddol
Beth yw ysgolion ffydd?
‘Ysgolion ffydd’ yw’r enw rydym yn ei roi ar ysgolion â chymeriad crefyddol neu rai sydd â chysylltiadau ffurfiol â sefydliad ffydd. Maent yn disgyn i ddau gategori, sef: ysgolion a gynhelir sydd â chymeriad crefyddol ac ysgolion annibynnol sydd â chymeriad crefyddol.
Mae ysgolion ffydd a gynhelir yn debyg i’r holl ysgolion a gynhelir eraill mewn sawl ffordd. Maent yn dilyn y Cwricwlwm Cenedlaethol ac yn cael eu harolygu gan Estyn. Yn yr un modd, mae’n ofynnol i bob ysgol a gynhelir, p’un a oes iddi gymeriad crefyddol ai peidio, gynnal gweithredoedd dyddiol o addoli ar y cyd ac addysgu addysg grefyddol fel rhan o’u cwricwlwm. Mae bod â chymeriad crefyddol yn rhoi hyblygrwydd penodol i ysgol a gynhelir o ran:
- penodi staff
- addysgu ac arolygu Addysg Grefyddol
- addoli ar y cyd
- polisi derbyniadau
- ethos yr ysgol
Ar hyn o bryd, mae ysgolion ffydd annibynnol yng Nghymru yn cynnwys y rhai sy’n dilyn traddodiad Cristnogol a’r rhai sy’n dilyn y ffydd Islamaidd. Cânt i gyd eu harolygu gan Estyn. Rhaid i ysgolion ffydd annibynnol gydymffurfio â Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003 yn yr un ffordd ag ysgolion annibynnol eraill.
Nodweddion ysgol ffydd a gynhelir
Ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir
Caiff ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir eu hariannu’n bennaf gan y wladwriaeth, gyda’r sefydliad yn gyfrifol am o leiaf 10% o waith cyfalaf, ond yn cael mwy o ddylanwad dros yr ysgol. Y corff llywodraethol sy’n rhedeg yr ysgol, yn cyflogi’r staff ac yn penderfynu ar drefniadau derbyn yr ysgol, yn amodol ar reolau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae disgyblion yn dilyn y cwricwlwm cenedlaethol. Yn yr ysgolion hyn, bydd addysg grefyddol yn cael ei phennu gan y llywodraethwyr, ac yn unol â darpariaethau’r weithred ymddiriedolaeth yn gysylltiedig â’r ysgol, neu ble nad oes unrhyw ddarpariaeth yn y weithred ymddiriedolaeth, gyda’r grefydd neu’r enwad a grybwyllir yn y gorchymyn sy’n dynodi bod gan yr ysgol gymeriad crefyddol.
Ysgolion gwirfoddol a reolir
Caiff holl gostau ysgolion gwirfoddol a reolir eu talu gan y wladwriaeth, a chânt eu rheoli gan yr awdurdod lleol. Caiff y tir a’r adeiladau eu perchnogi yn nodweddiadol gan sefydliad elusennol, sydd hefyd yn penodi tua chwarter o lywodraethwyr yr ysgol. Fodd bynnag, yr awdurdod lleol sy’n cyflogi staff yr ysgol, ac mae ganddo’r prif gyfrifoldeb am drefniadau derbyn yr ysgol. Mae disgyblion yn dilyn y cwricwlwm cenedlaethol. Bydd darpariaeth Addysg Grefyddol mewn ysgolion gwirfoddol a reolir â chymeriad crefyddol yn cael ei chynnig yn unol â’r maes llafur y cytunwyd arno yn lleol. Fodd bynnag, pan fydd rhiant unrhyw ddisgybl yn yr ysgol yn gofyn am i Addysg Grefyddol gael ei darparu yn unol â darpariaethau’r weithred ymddiriedolaeth yn gysylltiedig â’r ysgol (neu, ble nad oes yna unrhyw ddarpariaeth yn y weithred ymddiriedolaeth, yn unol â’r grefydd neu’r enwad a grybwyllir yn y gorchymyn sy’n dynodi bod gan yr ysgol gymeriad crefyddol), rhaid i’r llywodraethwyr wneud trefniadau ar gyfer sicrhau bod Addysg Grefyddol yn cael ei darparu i’r disgybl yn unol â’r grefydd berthnasol am hyd at ddwy wers yr wythnos, oni bai eu bod yn fodlon fod yna amgylchiadau arbennig a fyddai’n golygu ei bod yn afresymol gwneud hynny.
Arolygiad ysgol a gynhelir: arolygiadau adran 28 ac adran 50
Mae Adran 28 Deddf Addysg 2005 yn amlinellu dyletswyddau arolygu Estyn o ran ysgolion a gynhelir.
Os oes cymeriad crefyddol gan ysgol a gynhelir, fel y dynodwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, caiff addysg grefyddol enwadol a chynnwys addoli ar y cyd eu harolygu o dan Adran 50 Deddf Addysg 2005. Caiff yr arolygwyr sy’n cynnal arolygiadau Adran 50 eu penodi gan gorff llywodraethol yr ysgol trwy ymgynghori â’r awdurdod crefyddol priodol, ac maen nhw fel arfer yn dod o arolygiaeth Adran 50 y grŵp ffydd perthnasol (er enghraifft, y Gwasanaeth Addysg Gatholig yn achos ysgolion Catholig Rhufeinig). Pan fydd yn ofynnol darparu addysg grefyddol gan ddefnyddio’r maes llafur y cytunwyd arno yn lleol sy’n berthnasol i’r ysgol, fel yn achos ysgolion gwirfoddol a reolir, er enghraifft, byddai addysg grefyddol yn cael ei harolygu o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005.
Er bod arolygwyr Adran 50 yn arolygu gweithredoedd o addoli ar y cyd, gwersi Addysg Grefyddol (yn achos ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir) a / neu’r gwersi hynny y dynodwyd eu bod yn darparu Addysg Grefyddol enwadol (yn achos ysgolion gwirfoddol a reolir), gallai arolygwyr Estyn ac arolygwyr Adran 50 fynychu gweithredoedd o addoli ar y cyd a gallent arsylwi gwersi y darperir Addysg Grefyddol ynddynt. Mewn achosion o’r fath, ni fydd arolygydd Estyn yn arolygu nac yn adrodd ar faterion y mae’r arolygydd Adran 50 yn gyfrifol amdanynt – yn gyffredinol, y cynnwys enwadol a gaiff ei ddarparu. Caiff y berthynas rhwng arolygiadau Adran 28 ac Adran 50 ei llywodraethu gan brotocol rhwng Estyn ac arolygiaethau grwpiau ffydd.
Wrth arolygu gwersi Addysg Grefyddol neu weithredoedd o addoli ar y cyd, gall arolygwyr Estyn roi sylwadau ar y canlynol:
- cynnydd mewn dysgu
- datblygiad medrau, h.y. llythrennedd neu rifedd
- agweddau at ddysgu
- cyfraniad gwasanaethau / gwersi Addysg Grefyddol at ddatblygiad personol ac addysg ysbrydol, foesol, gymdeithasol a diwylliannol disgyblion
- ansawdd yr addysgu
Dylai arolygwyr Estyn osgoi rhoi sylwadau ar y canlynol:
- cynnwys enwadol gwasanaethau neu wersi Addysg Grefyddol, yn benodol
- natur neu ansawdd enwadol penodol ethos yr ysgol. Dylid osgoi ymadroddion fel: ‘Mae’r ysgol yn llwyddiannus iawn o ran hyrwyddo ethos Cristnogol cryf’
Nodweddion ysgolion ffydd annibynnol
Mae’r arweiniad hwn yn ceisio rhoi ychydig o wybodaeth gefndir i chi am bob math o ysgol ffydd annibynnol a’r moesau a ddisgwylir. Hyd yn oed mewn ysgolion ffydd sy’n dilyn yr un grefydd, gallai fod yna ychydig o wahaniaethau mewn moesau.
Ysgolion o fewn y traddodiad Cristnogol
Ysgolion OneSchool Global (annibynnol)
Cefndir
Caiff ysgolion OneSchool Global eu cynnal gan gymunedau lleol Exclusive Christian Brethren. Mae’r ysgolion hyn yn darparu ar gyfer disgyblion oedran uwchradd yn bennaf. Cefnogir yr ysgolion hyn gan y cymunedau ffydd lleol. Yn gyffredinol, nid yw athrawon a phenaethiaid yn aelodau o gymuned Exclusive Brethren.
Mae datblygiadau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) wedi ysgogi newid sylweddol diweddar i’r cwricwlwm. Mae ysgolion wedi eu cysylltu â rhwydwaith a gynhelir gan y Focus Learning Trust a gallant ddefnyddio meddalwedd sydd wedi’i thrwyddedu gan yr Ymddiriedolaeth. Hefyd, gallent ddefnyddio fideo gynadledda ag ysgolion eraill OneSchool Global i ymestyn cyfleoedd o fewn y cwricwlwm. Efallai na fydd gan ddisgyblion fynediad at deledu, radio neu gyfryngau electronig gartref.
Cwricwlwm
Er bod disgyblion yn aml yn cael eu haddysgu gyda’i gilydd, mewn gwersi fel addysg gorfforol, gemau, dawns neu nofio, mae disgyblion yn tueddu i gael eu haddysgu mewn grwpiau rhywiau ar wahân. Hefyd, ceir ymagwedd fwy traddodiadol at dechnoleg, gan roi’r pwyslais ar bynciau ymarferol, fel coginio, gwaith gwnïo a gwaith coed.
Roedd y gymuned yn osgoi technoleg gwybodaeth a chyfathrebu yn draddodiadol, ond caiff ei defnyddio’n ehangach ar gyfer pynciau fel astudiaethau busnes erbyn hyn. Gan fod Exclusive Brethren yn ystyried y cyfryngau yn niweidiol ar y cyfan, caiff mynediad at y rhyngrwyd ei reoli’n llym.
Yn aml, mae ysgolion Brethren yn dechrau’n gynnar ac yn gorffen yn gynharach na’r hyn sy’n arferol mewn ysgolion eraill. Er bod rhai ysgolion yn darparu clybiau amser cinio, nid oes unrhyw glybiau ar ôl yr ysgol oherwydd y gred fod angen i blant dreulio cymaint o amser ag y bo modd gyda’r teulu. Mae’r rhan fwyaf o deuluoedd Brethren yn mynychu cyfarfod gyda’r nos bob dydd, ac mae plant yn teithio pellterau sylweddol i fynd i’r ysgol hefyd.
Wrth siarad â’r plant, dylid osgoi cyfeirio at bynciau sy’n gysylltiedig â’r teledu neu ddiwylliant poblogaidd, y rhyngrwyd neu’r cyfryngau yn gyffredinol. Efallai na fydd gan blant fynediad at deledu, radio neu’r rhyngrwyd gartref.
Moesau
Dylai arolygwyr benywaidd ystyried gwisgo sgertiau yn hytrach na throwsusau, a gwisgo yn unol â’r hyn y byddai’r ysgolion yn ei ystyried yn weddus.
Gallai’r ysgolion hyn gynnig lletygarwch a lluniaeth, ond yn gyffredinol, maent yn disgwyl i arolygwyr fwyta neu yfed y lluniaeth i ffwrdd oddi wrth aelodau’r gymuned, gan nad yw Exclusive Brethren yn bwyta nac yn yfed gyda’r rhai y tu allan i’w cymdeithas eu hunain. Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn fach, ac yn aml, nid ydynt yn gweini bwyd ar y safle: efallai nad yw’n briodol tarfu ar blant sy’n dod â phecynnau cinio o gartref yn ystod amseroedd prydau bwyd, a chael trafodaethau â’r plant. Dylai arolygwyr ddod â’u cinio eu hunain. Ychydig iawn o staff sy’n aelodau o gymuned Exclusive Brethren, felly gallai fod yn bosibl siarad â’r pennaeth neu aelodau staff eraill yn ystod amser coffi neu amser cinio.
Nid yw llawer o ferched yng nghymuned Exclusive Brethren yn torri eu gwallt ac maent fel arfer yn gwisgo sgarff pen neu ruban yn y gwallt. Nid yw bechgyn yn gwisgo teis.
Ysgolion Mwslimaidd (annibynnol)
Cefndir
Mae’r ysgolion hyn yn ceisio hyrwyddo ethos Islamaidd ar draws y cwricwlwm. Yn gyffredinol, cânt eu cefnogi gan gymunedau lleol, ac felly, maent wedi eu lleoli gan amlaf mewn ardaloedd sydd â phoblogaethau sylweddol o Fwslimiaid.
Yn aml, bydd gweddïau dyddiol (Salat) bum gwaith y dydd yn pennu ffurf y diwrnod ysgol, felly caiff amserlenni eu haddasu yn ystod tymhorau’r hydref a’r gwanwyn fel arfer, er mwyn cynnal y gweddïau ganol dydd ac yn ystod y prynhawn.
Yn ystod Ramadan, gellir cyfyngu gweithgareddau fel addysg gorfforol gan y bydd llawer o ddisgyblion yn ymprydio. Yn ystod Eid a Muharram, bydd llawer o ysgolion yn cynnal dathliadau i nodi pwysigrwydd y digwyddiadau hyn.
Gallai bechgyn a merched gael eu haddysgu neu’u rhoi i eistedd ar wahân yn unol â’r cyd-destun penodol, yn enwedig yn ystod gweithredoedd o addoli ar y cyd. Ni ddylid ystyried hyn fel arwydd o anghydraddoldeb rhwng gwahanol rywiau.
Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion wisg ar gyfer bechgyn a merched. Gan amlaf, dillad arddull Asiaidd draddodiadol yw’r wisg, sy’n cynrychioli egwyddor Islamaidd gwedduster. Bydd merched yn gorchuddio eu pen â’r ‘hijab’ neu sgarff. Gall bechgyn wisgo cap bach.
Yn aml, mae staff benywaidd yn gorchuddio eu pennau; mae rhai ohonynt yn gwisgo’r gorchudd wyneb llawn (niqaab).
Bydd y llety’n cynnwys cyfleusterau ar gyfer ‘wudu’, sef y ddefod ymolchi ofynnol cyn gweddïo a phrydau bwyd. Gwneir hyn trwy eistedd ar stôl sownd ger tap, fel y gellir golchi’r traed, y dwylo a rhannau o’r pen o dan ddŵr rhedegog. Gallai’r ardaloedd ymolchi hyn fod ar wahân i doiledau, a allai fod mewn arddull ‘orllewinol’ neu ‘ddwyreiniol’. Weithiau, darperir cafnau â sawl tap yn fasnau ymolchi.
Cwricwlwm
Mae’r cwricwlwm yn amrywio yn ôl barn yr Ymddiriedolwyr a’r traddodiad Islamaidd a ddilynir. Yn unol â’r safonau ysgolion annibynnol, dylai arolygwyr werthuso ehangder a chydbwysedd y cwricwlwm, yn cynnwys medrau a addysgir yn y gwahanol bynciau, ac ar draws grwpiau oedran.
Fel arfer, caiff darpariaeth ieithoedd tramor modern ei haddysgu trwy Arabeg, ac ieithoedd Ewropeaidd eraill o bryd i’w gilydd.
Gellir cyfyngu celf a cherddoriaeth. Gallai arolygwyr ddarganfod tystiolaeth o gerddoriaeth yn cael ei haddysgu trwy sesiynau addoli crefyddol: y tajweed (adrodd y Qur’an), canu caneuon Arabeg (nasheed), chwarae’r ‘Duff’ (drymiau) a’r alwad i weddïo (adhaan). Addysgir y rhain i ddisgyblion o oedran cynnar. Ni fydd ysgolion Mwslimaidd yn addysgu unrhyw fath o gelf sy’n portreadu’r ffurf ddynol neu greaduriaid byw. Fodd bynnag, nid oes cyfyngiad ar addysgu arddulliau celfyddyd haniaethol, geometrig neu arabésg.
Ar gyfer addysg gorfforol, bydd merched hŷn yn tueddu i wisgo tracsiwtiau ac yn gorchuddio eu pennau. Bydd addysg gorfforol yn cael ei haddysgu i ddisgyblion ysgol gynradd gyda’i gilydd ac ar wahân wedi iddynt gyrraedd yr ysgol uwchradd.
Bydd addysg iechyd a rhyw yn cael ei haddysgu o fewn astudiaethau Islamaidd, ac yn aml o dan ymbarél addysg bersonol, gymdeithasol ac iechyd, oni bai ei bod yn ofynnol gan faes llafur arholiadau, fel gwyddoniaeth TGAU. Mae rhai ysgolion yn gofyn iddi gael ei haddysgu gan athrawon Mwslimaidd o’r un rhyw â’r disgyblion yn unig.
Moesau
Bydd gan ysgolion ystafell weddïo, a rhaid tynnu esgidiau bob amser cyn mynd i mewn i’r ystafell hon. Mae rhai staff ysgol yn newid i sliperi. Dylai arolygwyr ddod â sliperi neu wisgo sanau. Bydd gan rai ysgolion fosg wedi’i adeiladu’n bwrpasol ar y safle. Hefyd, gallai rhai ysgolion ofyn i arolygwyr dynnu eu hesgidiau cyn mynd i mewn i’r brif ysgol.
Mae’n bwysig i arolygwyr fod yn ymwybodol o ystyriaethau crefyddol, a’u parchu. Mae Mwslimiaid yn cyfarch ei gilydd, trwy ddweud ‘as-salamu alaykum’ – ‘tangnefedd i chi’. Yr ateb yw ‘wa’ alaykum as-salam’ – ‘tangnefedd i chi hefyd’. Os caiff ei ddefnyddio’n barchus wrth fynd i mewn i ddosbarth, bydd y plant yn ateb.
Hefyd, dylai arolygwyr benywaidd wisgo siwt trowsus neu sgert hirach a siaced i orchuddio eu breichiau. Hefyd, argymhellir y dylai arolygwyr benywaidd gario sgarff rhag ofn byddan nhw’n mynd i mewn i ystafell weddïo neu fosg, pan fydd angen iddynt orchuddio eu pen.
Fel arfer, nid oes unrhyw gyswllt corfforol rhwng gwrywod a benywod nad ydynt yn rhan o’r un teulu. Nid yw dynion Mwslimaidd fel arfer yn ysgwyd llaw â menywod, ac nid yw menywod Mwslimaidd fel arfer yn ysgwyd llaw â dynion, felly mae’n well peidio â chynnig ysgwyd llaw, oni bai fod rhywun yn cynnig ysgwyd llaw â chi.
Mae’n bwysig gwirio gyda’r ysgol beth yw’r moesau o ran arolygwyr gwrywaidd yn mynd i mewn i ystafell ddosbarth athrawon benywaidd. Mewn rhai ysgolion, bydd angen rhoi amser i’r athrawes orchuddio’i phen a/neu ei hwyneb rhag yr arolygydd gwrywaidd. Hefyd, mae angen i arolygwyr fod yn ymwybodol y gallent roi adborth o wers i athrawes a allai fod yn gwisgo ‘niqaab’ llawn (gorchudd wyneb a phen). Mewn rhai ysgolion, bydd angen i fenyw arall fod yn bresennol gydag arolygwyr gwrywaidd er mwyn rhoi adborth i athrawes.