Arolygydd Lleyg


Sut brofiad yw bod yn Arolygydd Lleyg?

Gall bod yn Arolygydd Lleyg fod yn brofiad da i lawer.

Beth yw Arolygydd Lleyg?

Mae Arolygwyr Lleyg yn aelodau o’r cyhoedd sydd heb gefndir ym myd addysg. Rydym yn hyfforddi’r unigolion hyn i ymuno â’n harolygiadau o ysgolion.

Mae’r Arolygydd Lleyg yn canolbwyntio ar y profiad ysgol i ddisgyblion a chyfraniad eu perthnasoedd a’r amgylchedd at eu diogelwch, eu hagweddau at ddysgu a’u lles. Nid ydynt yn arolygu ansawdd yr addysg yn uniongyrchol.

Pa brofiad sydd ei angen i fod yn Arolygydd Lleyg?

  • Ni allwch fod wedi cael eich cyflogi mewn ysgol neu mewn adran addysg awdurdod lleol.   
  • Gallech fod wedi bod yn wirfoddolwr neu’n llywodraethwr mewn ysgol.  

Sut mae gwneud cais i ddod yn Arolygydd Lleyg?

Mae ein holl rolau yn cael eu hysbysebu ar ein gwefan. Cymerwch olwg ar ein swyddi gwag presennol a chofrestrwch ar gyfer hysbysiadau yn y dyfodol.