Arfer Effeithiol |

Ysgol ofalgar

Share this page

Nifer y disgyblion
444
Ystod oedran
3-11

Gwybodaeth am yr ysgol

Agorwyd Ysgol Cybi yn Medi 2017 yn dilyn cau tair o ysgolion, fel Ysgol Eglwys yng Nghymru dan Reolaeth Wirfoddol. Mae’r ysgol wedi ei threfnu yn ddau o ddosbarthiadau ar gyfer pob blwyddyn ysgol ar wahân i flynyddoedd 2 a 6 sydd wedi’i trefnu yn dri dosbarth. Sefydlwyd dosbarthiadau anogaeth ar gyfer disgyblion 3–7 oed ac 7-11 oed yn ffocysu’n benodol ar ddatblygiad sgiliau rhyngbersonol, emosiynol ac ymddygiadol, yn ogystal â dosbarth ôl-gynnydd yn targedu sgiliau sylfaenol disgyblion cyfnod allweddol dau. Mae’r ganran o ddisgyblion sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim (27.5%) a’r ganran sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (35%) yn sylweddol uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol. Ychydig iawn o ddisgyblion sydd o gefndir ystyrir yn lleiafrif ethnig ac ychydig iawn hefyd sydd yn dod o aelwyd ble siaradir y Gymraeg.  

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae adnabyddiaeth drylwyr a chydnabyddiaeth o’r heriau sydd yn atal ac/neu yn amharu ar gynnydd addysgol disgyblion yr ysgol. Yn  benodol –  

  • Presenoldeb ac/neu brydlondeb isel. Mesuryddion difreintedd sylweddol uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol.
  • Nifer arwyddocaol o ddisgyblion mewn gofal.
  • Nifer arwyddocaol o ofalwyr ifanc. 
  • Nifer arwyddocaol o deuluoedd yr ysgol ar agor i wasanaethau cymdeithasol ac/neu yn derbyn cymorth asiantaethau lles allanol.
  • Canran uchel o ddisgyblion ar y gofrestr anghenion dysgu ychwanegol a charfan sylweddol â chanddyn nhw anghenion ystyrir yn ddwys.  

Mae cydnabyddiaeth hefyd o bwysigrwydd gwarchod, cynnal a blaenoriaethu lles pob disgybl yn cynnwys sicrhau datblygiad eu sgiliau personol, cymdeithasol ac emosiynol fel bod pob un yn barod i wneud cynnydd cadarn yn eu dysgu.  

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae cydweithio gofalus gyda rhanddeiliaid allweddol yr ysgol er mwyn (i) datblygu a chyflwyno gweledigaeth sydd yn blaenoriaethu lles yn effeithiol (ii) sefydlu isadeiledd cadarn, dibynadwy sy’n cefnogi lles pob disgybl (iii) annog a chefnogi’r dyhead i ddatblygu a gwella yn barhaus. 

(i) Gweledigaeth ysgol yn blaenoriaethu lles 

Darperir cyfleoedd blynyddol i ymgynghori gyda phlant, staff, rhieni a llywodraethwyr ar gynnwys gweledigaeth yr ysgol a’r camau ymarferol angenrheidiol er mwyn ei gwireddu. 

Ysgol Cybi

Ysgol Cybi fel ..... 

Ysgol Ofalgar sy’n blaenoriaethu iechyd, lles a diogelwch. 

  • Isadeiledd a trefniadau ysgol sy’n blaenoriaethu iechyd, lles a diogelwch disgyblion yn llwyddiannus ac yn sicrhau eu bod yn barod i ddysgu.
  • Cwricwlwm ysgol sy’n plethu llais y disgyblion yn effeithiol gyda disgwyliadau a gofynion statudol (e.e.’Iechyd a Lles’, ‘Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb’,)  
  • Darpariaeth ysgol gyfoethog sy’n manteisio’n llwyddiannus ar gyfleoedd awyr agored, adnoddau ac arbenigedd lleol a cyfleoedd tu hwnt i’r amserlen ysgol traddodiadol.  
  • Isadeiledd a trefniadau ysgol sy’n cefnogi a cynnal lles staff ysgol yn llwyddiannus.  
  • Diwylliant o ymchwilio ac ymholi yn esgor ar welliannau parhaus i ddarpariaeth ar gyfer disgyblion a staff.  

(ii) Isadeiledd cadarn, dibynadwy yn cefnogi lles pob disgybl 

Swydd ddisgrifiadau manwl gyda chyfrifoldebau pendant wedi’i neilltuo, yn cynnwys –  

  • Dirprwy Bennaeth yn gyfrifol am agweddau lles e.e. disgyblion, staff, teuluoedd 
  • Athrawes Grwpiau Anogaeth yn bennaf gyfrifol am ddau ddosbarth anogaeth ac ethos anogaeth ysgol gyfan.  
  • Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Dilyniant a chysondeb effeithiol ym mhrofiad pob disgybl wth iddynt gyrraedd yr ysgol yn sicrhau gafael dda gan staff dysgu ar les unigolion a chyfleodd priodol i ymateb i unrhyw bryderon. Yn benodol –  

  • Croesawu disgyblion yn ddyddiol, wrth iddynt droedio ar dir yr ysgol.  
  • Cyfleoedd da i rannu teimladau ar gychwyn a diwedd diwrnod ysgol.  
  • Defnydd effeithiol o ardaloedd tawel ym mhob dosbarth er mwyn hyrwyddo hunan reoleiddio, adfyfyrio, rhannu teimladau neu gynnal ymyraethau penodol. 
  • Nodweddion anogaeth effeithiol yn bresennol ym mhob dosbarth yn cyfrannu’n llwyddiannus at ethos ysgol gyfan e.e. defnydd amserlen weledol, strategaethau hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol, defnydd llwyddiannus o gorneli ac adnoddau pwyllo.

Dosbarthiadau anogaeth disgyblion 3-7oed (Y Nyth) a disgyblion 7-11 oed (Yr Hafan) yn darparu cymorth arbenigol a phenodol i anghenion unigolion a grwpiau. Mae strwythur y ddarpariaeth yn sicrhau cyfleoedd da i ddisgyblion ddatblygu sgiliau mewn grŵp llai am hyd at hanner diwrnod â chyfleoedd pellach i ddisgyblion gymhwyso ac atgyfnerthu yn ôl yn eu dosbarthiadau prif lif.  

Pob aelod o staff wedi’i hyfforddi’n effeithiol i ddefnyddio arddull bwyllog, addfwyn a chynhaliol wrth ymdrin â phob disgybl. Mae strwythur staffio’r ysgol yn sicrhau bod pob un yn ymwybodol at bwy ddylid troi am gefnogaeth pe cyfyd yr angen. Mae aelodau o staff penodol wedi’i uwchsgilio er mwyn ymateb yn effeithiol i anghenion penodol unigolion a/neu grwpiau o ddisgyblion. 

Darperir cyfleoedd da iawn i ddisgyblion gyfrannu tuag at gyfeiriad eu dysgu drwy gefnogi a hyrwyddo eu llais yng nghynllun thematig dosbarthiadau a chyfleoedd aml i adfyfyrio, adolygu a mireinio. Manteisir ar bob cyfle rhesymol i hyrwyddo perchnogaeth plant o’i profiadau yn yr ysgol ac i bwysleisio gwerth mwynhad, wrth i blant ymgymryd â’i dysgu.  

Mae grŵp lles staff dysgu’r ysgol yn ddatblygiad diweddar pwysig sydd yn cyfrannu’n llwyddiannus at ymledu’r ethos gofalgar a’r pwyslais ar les ar draws yr ysgol. Mae’r grŵp yn cynnwys cynrychiolaeth o wahanol swyddogaethau strwythur staffio’r ysgol ac yn ymgynghori’n effeithiol gyda’r uwch dim rheoli ar faterion lles staff. 

(iii) Dyhead i ddatblygu a gwella yn barhaus 

Mae’r uwch dim rheoli yn gwneud defnydd effeithiol o’r wybodaeth sydd ar gael ac â systemau effeithiol mewn lle i gyrchu gwybodaeth bellach. Defnyddir unrhyw wybodaeth a dealltwriaeth newydd arwyddocaol i yrru datblygiadau yn natur ac ansawdd y ddarpariaeth gan sicrhau o hyd ei fod yn gweddu i gyd-destun ac anghenion yr ysgol. Yn gryno -  

Cam 1: Hunan arfarnu ac adfyfyrio – yn cynnwys ar unrhyw feysydd datblygol newydd.   

Cam 2: Hyfforddiant ac ymchwil  

Cam 3: Darparu a monitro - gyda’r pwyslais ar gyd-destun ac anghenion yr ysgol.  

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae holiaduron disgyblion a thrafodaethau gyda grwpiau disgyblion yn cefnogi’r farn fod… 

  • rhan fwyaf yn hapus ac mewn lle da i wneud cynnydd cadarn yn eu dysgu. 
  • rhan fwyaf yn teimlo bod staff dysgu yn gwrando arnyn nhw a bod llais cryf ganddynt yn gyrru cyfeiriad eu dysgu.  

Mae rhan fwyaf o ddisgyblion sy’n mynychu grwpiau anogaeth yn gwneud cynnydd cadarn yn erbyn llinyn mesur priodol asesiadau Boxall, ac mae llawer yn medru cymhwyso’r sgiliau maent wedi’i datblygu yn dda yn cyd-destun dosbarthiadau prif lif.   

Mae’r gweithdrefnau sydd mewn lle er mwyn cefnogi presenoldeb a phrydlondeb disgyblion yn gynhwysol a chefnogol. Defnyddir y gweithdrefnau er mwyn targedu cymorth i deuluoedd ochr yn ochr ag asiantaethau allanol ac mae hyn wedi meithrin perthynas agos a chynhyrchiol rhwng yr ysgol â theuluoedd sydd angen cymorth. 

Mae bron pob staff dysgu wedi ei hyfforddi i lefel briodol ac yn ymgymryd â’i dyletswyddau yn llwyddiannus. Mae cydbwysedd rhesymol yn arddull rhan fwyaf o staff dysgu rhwng cynnal synnwyr o ddilyniant a chysondeb ar un llaw a’r angen i ymateb i anghenion penodol disgyblion a grwpiau ar y llaw arall.  

Mae strwythur staffio’r ysgol a’r fforymau a ddarperir i staff dysgu gyfranogi tuag at drafodaethau am ddarpariaeth lles disgyblion a’u hunain, yn effeithiol. Mae datblygiad diweddar y grŵp lles staff dysgu wedi tyfu i fod yn gorff ymgynghori llwyddiannus, yn cynnig sicrwydd bod llais pob un yn derbyn sylw da ac wedi arwain at newidiadau pwysig.  

Mae ethos anogaeth, ofalgar gryf drwy’r ysgol sydd yn cyfrannu’n llwyddiannus iawn at barodrwydd bron pob disgybl i ymgymryd â’i dysgu ac i wneud cynnydd da yn unol â’i potensial.  

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

  • Croesawyd ysgolion eraill y Sir i ymweld â’r ysgol.  
  • Cydweithio agos dalgylch yn cynnwys aelodau o’r Cydbwyllgor Anghenion Dysgu Ychwanegol Sirol.  
  • Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol wedi cyflwyno sesiynau hyfforddiant penodol yn cynnwys amrywiaeth o ymyraethau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol o fewn y Sir ac yn All-Sirol.  

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol