Strategaeth yr ysgol yw ymgorffori amrywiaeth o brosesau i ddarparu adborth personoledig a diagnostig i ddisgyblion sy’n eu cynorthwyo i wneud cynnydd yn eu dysgu.
Mae’r ysgol wedi ymrwymo i asesu ffurfiannol i lywio’r camau nesaf ar gyfer dysgwyr ar eu continwwm, ac mae cynnydd pob disgybl wedi’i seilio ar gydweithio, gyda disgyblion yn cymryd rôl weithredol. Marcio byw yw’r broses pan fydd ymarferwyr yn cydweithio â disgyblion i nodi cynnydd a chamdybiaethau yn eu dysgu. Mae marcio byw yn cyfuno adborth llafar ac ysgrifenedig. Mae’n digwydd ar unwaith i bob dysgwr ac yn galluogi disgyblion i gymryd camau cadarnhaol yn eu dysgu. Mae marcio byw yn golygu bod angen i ddisgyblion weithredu ac ymateb i adborth, sy’n cynorthwyo dysgwyr i gyflawni eu camau nesaf.
Mae Ysgol Gynradd Parkland yn rhoi pwys uchel ar fetawybyddiaeth a’i rôl yn yr ystafell ddosbarth, gan fod ei heffaith ar gynnydd a pherfformiad dysgwyr wedi cael ei hymchwilio a’i dogfennu’n dda. Metawybyddiaeth yw’r gallu i feddwl am eich meddyliau’ch hun, a’u rheoli. Mae staff yn defnyddio ‘munudau meta’, sef cyfnodau myfyrio cydweithredol cynlluniedig a dynamig rhwng ymarferwyr a disgyblion. Ymgorfforir ‘munudau meta’ o oedran ifanc ac mae hyn yn galluogi disgyblion i ddod yn fwy hyfedr wrth ddisgrifio’u dysgu. Wrth i ddisgyblion wneud cynnydd, maent yn datblygu repertoire ehangach o fedrau metawybyddol ac iaith ac yn dod yn gymwys yn asesu eu dysgu eu hunain a dysgu disgyblion eraill.
Mae’r holl staff addysgu a staff cymorth yn Ysgol Gynradd Parkland yn defnyddio cyfnodolion gwerthuso fel offeryn ar gyfer asesu ac olrhain cynnydd disgyblion bob dydd. Defnyddir y cyfnodolion hyn gan staff i fyfyrio ar gynnydd disgyblion a nodi heriau a/neu gamsyniadau, sy’n eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus a chynllunio dysgu yn y dyfodol yn unol â hynny. Mae’r arfer hon yn sicrhau ymagwedd ymatebol a thargedig at gynllunio, meithrin twf parhaus ac ymestyn y profiad dysgu cyffredinol ar gyfer pob disgybl.
Yn ystod y daith i weithredu’r Cwricwlwm i Gymru a datblygu ymagwedd gyfannol at asesu cynnydd disgyblion, un o’r newidiadau allweddol ar gyfer Parkland oedd cyflwyno cyfarfodydd cynnydd staff a disgyblion, sy’n cofnodi cynnydd grwpiau a disgyblion unigol. Mae gweithdrefn y cyfarfodydd cynnydd yn cynnwys ymarferwyr a disgyblion yn cymryd rhan mewn deialog i amlygu cynnydd pob disgybl a’i gamau nesaf mewn dysgu. Cynhelir cyfarfodydd cynnydd bob tymor ac mae’r holl randdeiliaid yn cydweithio i gefnogi disgyblion ar eu taith. Mae ymarferwyr yn cydweithio trwy ddeialog broffesiynol a gweithdrefnau monitro trylwyr i arsylwi’r cynnydd sy’n cael ei wneud.