Ymagwedd gwybodaeth gyfoethog at y Cwricwlwm i Gymru - Estyn

Ymagwedd gwybodaeth gyfoethog at y Cwricwlwm i Gymru

Arfer effeithiol

Monmouth Comprehensive School


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gyfun Mynwy (MCS) yn ysgol cyfrwng Saesneg 11-18 oed a gynhelir gan Awdurdod Lleol Sir Fynwy. Mae’n gwasanaethu tref Mynwy ac ardaloedd gwledig Cross Ash, Llandogo, Rhaglan, Trellech ac Wysg, gydag oddeutu 27% o’r myfyrwyr yn teithio o siroedd y ffin, sef Swydd Gaerloyw a Swydd Henffordd. Mae 1,693 o ddisgyblion ar y gofrestr, y mae 316 ohonynt yn y chweched dosbarth. Mae tua 15% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Saesneg yw iaith gyntaf bron bob un o’r disgyblion ac maent yn dod o gefndir gwyn, Prydeinig. Ychydig bach iawn o ddisgyblion sy’n rhugl yn y Gymraeg.

Mae canran y disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, y mae angen o leiaf addasiadau rhesymol arnynt, yn rhyw 19% o boblogaeth gyfan yr ysgol, gan gynnwys y ganolfan adnoddau arbenigol (y Ganolfan).

Cyfran y disgyblion sydd â chynllun anghenion dysgu ychwanegol statudol (Datganiad / EHCP / Cynllun Dysgu Unigol (CDU)) yw 3.9% (gan gynnwys y Ganolfan).

Mae’r uwch dîm arwain yn cynnwys y pennaeth, dirprwy bennaeth a 5 pennaeth cynorthwyol.

Caiff gweledigaeth yr ysgol ei chrynhoi yn yr arwyddair ‘Work Hard, Be Kind’, gyda’i gwerthoedd (llwyddiant, sicrwydd, parch, cyfrifoldeb ac annibyniaeth) a diwylliant ysgol yn seiliedig ar barch ymhlith pawb tuag at ei gilydd.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

O 2021 ymlaen, dwysaodd yr ysgol ei hymgysylltiad â fframwaith y Cwricwlwm i Gymru. Cafodd yr uwch dîm arwain ei ymestyn, trwy secondiad, i gynnwys rôl â chyfrifoldeb penodol am ddatblygu meddwl y cwricwlwm, gan weithio’n agos gyda’r pennaeth cynorthwyol sy’n gyfrifol am addysgeg.

Diffiniodd yr ysgol ymagwedd at y cwricwlwm ac athroniaeth sylfaenol trwy gyfuniad o: ymgysylltu â’r fframwaith, ymchwil i egwyddorion dylunio cwricwlwm, profiadau o ddatblygu cwricwlwm mewn ysgolion eraill a myfyrdodau ar addasiadau blaenorol i’r cwricwlwm ysgol gyfan. Seiliwyd datblygu’r cwricwlwm yn yr ysgol ar ymagwedd ‘gwybodaeth gyfoethog’, gan fanteisio ar gysyniad Michael Young o ‘wybodaeth nerthol’. Ategwyd hyn trwy ddatblygu ymagwedd addysgegol ysgol gyfan a allai gyflwyno’r egwyddorion wrth wraidd y math hwn o gwricwlwm disgyblaethol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

“Gwella addysg yw ein cenhadaeth genedlaethol. Does dim yn fwy hanfodol na bod pob plentyn a pherson ifanc yn caffael addysg ac yn cael mynediad cyflawn at y profiadau, yr wybodaeth a’r sgiliau y mae eu hangen arnyn nhw…” 

Cafodd yr agoriad hwn i fframwaith y Cwricwlwm i Gymru effaith arwyddocaol ar feddwl yr ysgol, gan gyd-fynd â’r cysyniad bod gwybodaeth nerthol yn llwybr at degwch. Hefyd, ystyriwyd mai caffael gwybodaeth ymrymusol oedd y llwybr at gyflawni’r Pedwar Diben.

Lluniwyd datganiad cenhadaeth y cwricwlwm, y mae rhan ohono fel a ganlyn, “Mae ein hymagwedd yn rhoi pwys ar gwricwlwm gwybodaeth gyfoethog, a gyflwynir gan staff addysgu arbenigol, gwybodus yn addysgegol. Nod hyn yn gyson yw darparu cyfleoedd dysgu effeithiol, diddorol trwy addysgu sy’n angerddol, yn fanwl gywir ac yn bwrpasol.”

  • Mae cwricwlwm gwybodaeth gyfoethog wedi cael sylw sylweddol mewn systemau addysg ledled y byd. Mae’r elfennau allweddol a ddefnyddiwyd yn yr ysgol wrth lunio’i chwricwlwm yn cynnwys: 
  • Safle sylfaenol gwybodaeth a’i gallu i ymestyn dysgu pellach. 
  • Gwybodaeth mewn ffurfiau gwahanol: datgeiniol, gweithdrefnol, trwy brofiad, disgyblaethol. 
  • Mae pynciau unigol yn bwysig. Maent yn dod â chorff sefydledig o wybodaeth, medrau a thraddodiad unigryw. Mae pynciau’n darparu trefn barod, gan gynnig cydlyniant fertigol cryf.
  • Caiff y wybodaeth i’w dysgu ei phennu’n fanwl. 
  • Mae amser y cwricwlwm yn gyfyngedig; rhaid dewis gwybodaeth yn ofalus. Mae’r wybodaeth hon yn bwysig a chaiff ei haddysgu i’w chofio, sy’n gofyn am gymhwyso ymchwil seiliedig ar dystiolaeth.
  • Caiff gwybodaeth ei dilyniannu’n fwriadol ac yn drefnus i saernïo sgema cadarn cymaint â phosibl (rhwydweithiau dysgu niwral).

Ymagwedd cwricwlwm disgyblaethol ydyw, gyda myfyrwyr yn dilyn ystod eang a chytbwys o bynciau. Arweinwyr canol, yn gysylltiedig â mwy o annibyniaeth, sydd â chyfrifoldeb sylweddol am ddylunio’r cwricwlwm. Mae’r annibyniaeth hon (e.e. o ran polisïau adborth, penderfyniadau cwricwlaidd, llunio asesiadau, cynllunio gweithredu) wedi’i meithrin ochr yn ochr â datblygu diwylliant sicrhau ansawdd cadarn.

Mae dysgu proffesiynol wedi’i dargedu i ymestyn y meddwl ynghylch dilyniant ac asesu, gyda phwyslais ar Egwyddorion Dilyniant a Diben Asesu. Mae hyn yn cofleidio’r cwricwlwm fel model dilyniant: dilyniant sydd wedi’i gynllunio yn y cwricwlwm, nid ar wahân iddo. Mae dysgwr sy’n llwyddo yn y cwricwlwm yn gwneud cynnydd da.

Ystyrir y berthynas rhwng y cwricwlwm ac addysgeg yng ngoleuni crynodebau seiliedig ar dystiolaeth o addysgu effeithiol (e.e. ‘What Makes Great Teaching?’ gan Ymddiriedolaeth Sutton). Yr hyn sy’n allweddol yw datblygiad ymarferwyr arbenigol, gwybodus yn addysgegol – arbenigwyr yn eu meysydd pwnc ac yn eu gallu i gymhwyso addysgeg effeithiol. 

Mae darparu strategaethau addysgu ysgol gyfan a datblygu’r athro sy’n arbenigwr pwnc yn digwydd trwy ddwy elfen o ddysgu proffesiynol:

  • Technegau a ddewiswyd yn ofalus sy’n canolbwyntio ar arferion talu sylw a naws yr ystafell ddosbarth: ‘arferion nerthol’ yr ysgol. Mae arferion o’r fath yn symleiddio’r profiad dysgu – lleihau’r baich gwybyddol, yn hoelio sylw dysgwyr yn gyflym ac yn sicrhau bod pawb yn cymryd rhan. Mae amser HMS sylweddol a rolau newydd yr ‘anogwyr addysgu’ yn ategu’r fenter ysgol gyfan hon. 
  • Mae’r holl athrawon yn cael arsylwadau anogaeth hyfforddiadol gan arweinwyr pwnc. Yr athro sy’n penderfynu ar y prif ffocws, sy’n elfen benodol o ymarfer, wedi’i osod o fewn cyd-destun eu disgyblaeth. Mae’r model anogaeth yn cynnwys trafodaeth cyn ac ar ôl arsylwi. Mae’r dull manwl gywir hwn mewn meysydd disgyblaeth yn helpu i ddatblygu athrawon sy’n arbenigwyr pwnc. 

Nod y cwricwlwm a roddwyd ar waith yw sicrhau bod staff yn gallu bod: yn angerddol am yr hyn y maen nhw’n ei addysgu trwy berchnogaeth ar gynnwys eu disgyblaeth; yn fanwl gywir yn eu hymarfer gyda datblygiad proffesiynol parhaus yn ategu hynny; yn bwrpasol wrth benderfynu ar gynnwys ac addysgeg er mwyn sicrhau cynnydd cadarn gan fyfyrwyr.

Wrth ei gyflwyno, cydnabuwyd y byddai dyluniad y cwricwlwm, datblygiad addysgegol a gwaith ar asesu dilys yn gyfamserol. Nid cyfaddawd yw hyn; mae’n broses barhaus o ailadrodd a gwella: nid yw’n ddigwyddiad ‘unwaith ac am byth’ (Y Daith i 2022). Camau nesaf yr ysgol yw: datblygu ei waith ar drefn lorweddol trwy gysylltiadau trawsgwricwlaidd; datblygu sylfaen gadarn o ddysgu proffesiynol wrth ddylunio a defnyddio asesiadau crynodol; parhau â’i gwaith yn cefnogi’r addysgeg orau.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Darpariaeth: mae timau pwnc wedi treialu amrywiaeth o ddulliau. Er enghraifft, yn y tîm Saesneg, mae dull ‘pecyn’ ar gyfer adnoddau wedi’i ddatblygu ar y cyd, gyda phob gwers â’i phecyn ei hun. Mae athrawon yn defnyddio’r adnodd hwn i gynllunio sut maent yn gwirio dealltwriaeth yng nghyd-destun anghenion eu dosbarth ac i gywiro camsyniadau. 

Mewn mathemateg, mae dull llyfryn pwnc wedi’i ddatblygu ochr yn ochr â defnyddio delweddwyr yn fynych wrth ddesg sefyll, fel y gall athrawon weithio ar fodelu byw mewn partneriaeth â’r disgyblion.

Mae’r datblygiad addysgegol yn yr ysgol dros y blynyddoedd diwethaf wedi llywio dilyniannu a chynllunio’r cwricwlwm. Mae ymarfer adalw fel gweithred fwriadol yn hytrach na sgil-effaith tasgau eraill yn dechrau gwreiddio yn narpariaeth y cwricwlwm. 

Mae meysydd pwnc eraill yn defnyddio gwahanol fodelau cyflwyno a dulliau o gofnodi gwaith disgyblion megis yn ddigidol, mewn llyfrau gwaith neu hybrid o’r rhain; mae gan arweinwyr pwnc annibyniaeth ac atebolrwydd am y dull a ddilynir. Mae cyfleoedd rheolaidd i gydweithwyr rannu arfer dda.

Safonau Dysgwyr: mae cyflwyno ‘arferion nerthol’ wedi cael effaith sylweddol ar gynnydd myfyrwyr, er enghraifft trwy sicrhau bod eu sylw wedi’i hoelio ar ddysgu yn syth ar ddechrau’r wers. Mae technegau addysgegol i wella’r gymhareb gyfranogi ac i wirio dealltwriaeth wedi cyflymu cynnydd myfyrwyr. Mae datblygiad geirfa wedi bod yn nodedig, gyda disgyblion yn deall iaith gymhleth penodol i bwnc ac yn ei defnyddio’n rheolaidd. Mae gwybodaeth pwnc yn dechrau gwreiddio ac mae disgyblion yn gallu llunio cysylltiadau yn well rhwng gwahanol rannau o sgema pwnc oherwydd bod pynciau wedi’u dilyniannu’n ofalus.
 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Megis dechrau gweithredu’r cwricwlwm y mae’r ysgol: mae ailadrodd parhaus a mireinio’r meddwl yn mynd rhagddo’n gyflym. Mae wedi rhannu ei dull trwy drafodaeth ag ysgolion cynradd partner, o fewn Grŵp Dylunio’r Cwricwlwm y consortiwm rhanbarthol, a thrwy Sgyrsiau Rhwydwaith Cenedlaethol.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn