Arfer Effeithiol |

Sut mae Ysgol Pont y Gof, mewn ymateb i ddyheadau’r gymuned, yn cynllunio profiadau dysgu i adlewyrchu natur, cyd-destun ac economi’r ardal leol er mwyn hybu disgyblion i ddod yn aelodau llawn o’u cymuned ac i lwyddo’n lleol.

Share this page

Nifer y disgyblion
97
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad

Gwybodaeth am yr Ysgol

Mae Ysgol Pont y Gof wedi’i lleoli ym Mhenrhyn Llŷn o dan awdurdod lleol Gwynedd. Mae hi’n ardal wledig lle mae cymuned cefn gwlad yn bwysig i holl randdeiliaid yr ysgol. 

Mae 83 o ddisgyblion ar y gofrestr gyda 12 o blant meithrin. Mae 77.5 % o ddisgyblion yr ysgol yn siarad Cymraeg gartref, 1.5% yn siarad Cymraeg a Saesneg a 21% yn siarad Saesneg ar yr aelwyd.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Cychwynnodd y gwaith wrth ymateb i’r her o greu, cyflwyno a dylunio ein cwricwlwm newydd ar gyfer yr ysgol, sy’n ymateb i egwyddorion a gofynion Cwricwlwm i Gymru. Wrth greu gweledigaeth yr ysgol rhoddwyd cyfle i holl randdeiliaid yr ysgol fod yn rhan ohoni. 

Drwy gyflawni yn Ysgol Pont y Gof, daeth i’r amlwg bod darparu ystod gyfoethog o brofiadau sydd wedi seilio ar nodweddion yr ardal leol yn hynod o bwysig er mwyn datblygu pob plentyn yn gyflawn, a rhoi'r medrau iddynt i fod yn rhan werthfawr o’u cymuned ac i lwyddo’n lleol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Casglu Barn y rhanddeiliaid 

Er mwyn dylunio ein cwricwlwm a llunio ein hegwyddorion, roedd angen mewnbwn a barn yr holl rhandaliad sy’n adnabod yr ysgol, y gymuned a’r ardal yn dda, e.e.rhieni, disgyblion, llywodraethwyr, cyn-lywodraethwyr, staff ac aelodau o’r gymuned. Gofynwyd iddynt: 

Beth maent yn gredu sy’n bwysig i blant Ysgol Pont y Gof fod yn gwybod, ei ddysgu a chael profiad ohono? ’ 

Dadansoddi a defnyddio barn y rhanddeiliaidi bwrpas 

Ffurfwyd grŵp bychan o lywodraethwyr i ddadansoddi’r holiaduron a chrynhoi’r ymatebion oedd yn cael ei nodi’n bwysig i ni fel ysgol. 

  • Bod yr ysgol yn rhan o’r gymuned a'u bod yn cael eu dysgu i werthfawrogi eu milltir sgwâr
  • Bod y disgybloin yn cael eu dysgu i fod yn aelodau gwerthfawr o’u cymunedau lle bynnag maent yn byw. 
  • Bod y disgyblion yn dangos balchder tuag at yr ardal leol
  • Codi ymwybyddiaeth o ffermio a byd amaeth ymysg y disgyblion a bod yn rhan o gymuned cefn gwlad a pharhau i gadw hen draddodiadau cefn gwlad i fynd, e.e. ffermwyr ifanc a bod y disygblion yn ymwneud a hanesion lleol. 
  • Bod y disgyblion yn rhan annatod o’r gymuned Gymreig a dangos balchder tuag ar yr iaith a diwylliant Cymreig.
  • Mentergarwch a rhoi profiadau i’r disgyblion gyd-weithio gyda busnesau lleol a dangos llwybr iddynt yn ifanc ar sut i lwyddo’n lleol

Cynllunio ein Cwricwlwm 

Mae plethu'r egwyddorion a’r agweddau pwysig a godwyd gan y rhanddeiliaid sy’n rhan annatod o gwricwlwm yr ysgol yn hanfodol. Er mwyn llwyddo i gyflawni hyn yn llwyddiannus, gofynnwyd i’r staff gyd-weithio’n agos i gynllunio gweithgareddau gan ddefnyddio’r egwyddorion sy’n bwysig i’r ysgol. Yn ogystal, roedd plethu hyn i ateb gofynion y pedwar diben a’r chwe maes dysgu a phrofiad yn bwysig, a hynny mewn modd diddorol a chyfoes er mwyn datblygu plentyn cyflawn.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Gan fod y gwaith hwn wedi gwreiddio yn llwyddiannus o fewn yr ysgol, mae’r cwricwlwm yr ysgol yn sicrhau bod… 

  • Profiadau dwfn o'r ansawdd uchel yn cael eu cyflwyno, sydd am arwain y disgyblion i dorri eu cwys eu hunain yn y dyfodol a rhoi cyfle iddynt lwyddo’n lleol. 
  • Y disgyblion yn datblygu'r wybodaeth a'r medrau y bydd eu hangen arnynt i symud drwy fywyd, ac i lwyddo i fod yn unigolion hapus, balch, hyderus ac annibynnol beth bynnag fydd eu llwybr mewn bywyd a hynny’n lleol. 
  • Bod yr athrawon yn angerddol dros annog y disgyblion i fod yn rhan o’r gymuned ac i ddysgu am economi’r gymuned wledig er mwyn datblygu medrau sydd angen i lwyddo’n lleol. 
  • Bod y disgyblion yn caffael medrau cadarn i fod yn greadigol ac yn barod i fentro, adnabod cyfleoedd i lwyddo yn lleol drwy'r gweithgareddau mentergarwch a’r prosiectau creadigol. Mae’r disgyblion yn cael cyfleoedd yn y ‘Cwt Seiri’r Gof’ i ddatblygu’r medrau gwaith pren sydd angen arnynt i ddefnyddio crefft er mwyn llwyddo’n lleol. 
  • Drwy’r prosiect ‘Gorau Glas’ sy’n dysgu medrau hanfodol er mwyn llwyddo a gwella, e.e. cyd-weithio, rhoi cynnig ar bethau newydd, dyfalbarhau, canolbwyntio, bod yn chwilfrydig, gwella eu gwaith, mwynhau dysgu, bod yn greadigol, ac ati. Mae’r disgyblion yn cael cyfle i gyfarfod pobl y gymuned sydd wedi llwyddo er mwyn codi ymwybyddiaeth y disgyblion o’r medrau sydd eu hangen arnynt i lwyddo’n lleol. 

Mae’r cyfleoedd gwerthfawr mae’r disgyblion yn ei gael i gyd-weithio’n agos gydag aelodau o fewn y gymuned er mwyn codi ymwybyddiaeth y disgyblion o’r gallu a’r cyfleoedd sydd ar gael yn lleol yn bwysig iawn. Gobeithio bydd hyn yn gwreiddio ynddynt ac yn eu dennu i fod eisiau aros yn lleol o fewn ein cymuned a gwneud hynny’n llwyddiannus. Trwy hyn gallwn sicrhau dyfodol ein cymuned a’r iaith Gymraeg.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

  • Rhannwyd yr arfer gyda’r corff llywodraethol trwy gyflwyniadau. 
  • Mae’r ysgol wedi rhannu’r model a’r strategaeth gyda’r consortia rhanbarthol. 
  • Rhannu’r gwaith mae’r digyblion wedi bod yn ei gyflawni gyda’r gymuned ac ar wefannau cymdeithasol. 
  • Rhannu’r arfer gyda ysgolion sy’n ymweld a’r ysgol.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol