Arfer Effeithiol |

Rôl yr oedolyn sy’n galluogi i gefnogi amgylcheddau effeithiol a phrofiadau difyr

Share this page

Nifer y disgyblion
744
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad

Gwybodaeth am yr ysgol

Sefydlwyd Ysgol Gynradd Sant Andrew ym mis Ebrill 2014 ar ôl uno Ysgol Fabanod ac Ysgol Iau Sant Andrew. Mae 744 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd. Mae tua 35% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, a nodwyd bod gan 39% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol. Yn Ysgol Gynradd Sant Andrew, gwelir bod amrywiaeth yn gryfder, yn rhywbeth i’w barchu a’i ddathlu gan bawb sy’n dysgu ac addysgu yn yr ysgol ac yn ymweld â hi.   

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Nod arweinwyr, athrawon a chynorthwywyr addysgu yn Ysgol Gynradd Sant Andrew yw darparu profiadau dysgu dilys a phwrpasol ar gyfer pob un o’r disgyblion trwy’r tri galluogwr sy’n ategu’r cwricwlwm nas cynhelir. Mae staff wedi cael eu hysbrydoli gan ei ffocws ar bwysigrwydd chwarae, sgema ac egwyddorion Froebelaidd. Mae ymarferwyr yn nosbarthiadau blynyddoedd cynnar yr ysgol yn amlygu pwysigrwydd ymglymiad ar lefel ddofn a chwarae gweithredol di-dor ar gyfer disgyblion, sydd wedi’i wreiddio mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn a dilys.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae ymarferwyr yn mabwysiadu’r dull sylwi, dadansoddi ac ymateb i arsylwi ymgysylltiad disgyblion iau â phrofiadau dysgu dan do ac yn yr awyr agored. Mae dull “rhyddid gydag arweiniad” Froebel yn annog staff i hwyluso dysgu’r disgyblion, gan gynnig cyfrifoldeb penagored iddynt. Mae staff yn defnyddio dulliau arsylwi cynlluniedig a digymell. Yn ystod y cam ‘sylwi’, maent yn ceisio canfod beth sy’n gyrru diddordeb neu chwilfrydedd disgyblion, yn ogystal â sut mae disgyblion yn dewis adnoddau ac yn defnyddio’r gofod sydd ar gael iddynt. Yn ystod y cam ‘dadansoddi’, mae ymarferwyr yn dehongli datblygiad medrau a gwybodaeth disgyblion, yn asesu eu cynnydd ac yn dadansoddi sgema dewisol disgybl. Yn olaf, defnyddir arsylwadau yn sbardun ar gyfer cynllunio profiadau dysgu yn y dyfodol. Gallai hyn gynnwys staff yn gwneud addasiadau i’r amgylchedd, cynllunio cyfleoedd i ddisgyblion fireinio neu atgyfnerthu medr a chyfoethogi profiadau ymhellach.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r defnydd effeithiol o oedolion o fewn yr amgylchedd cynlluniedig wedi cynorthwyo’r ysgol i greu proses gynllunio fwy ymatebol a myfyriol. Mae staff yn deall cyfareddion disgyblion a beth sy’n eu cymell. Maent yn asesu lefelau ymgysylltu, ac yn ymateb yn briodol trwy gynllunio. Mae arsylwadau cynlluniedig a digymell yn galluogi ymarferwyr i ddadansoddi’r hyn y maent yn ei weld a’i glywed, i gefnogi arferion asesu’r ysgol ac ymateb mewn ffyrdd a fydd yn sicrhau dilyniant. Mae ymarferwyr yn nodi cyfleoedd i alluogi disgyblion i wneud cysylltiadau perthnasol yn eu dysgu, gan ddefnyddio gwybodaeth a phrofiadau blaenorol disgyblion. Mae staff yn gweithredu fel galluogwyr, gan fodelu ac ymestyn annibyniaeth a hyder disgyblion, a’u perchnogaeth o’u hamgylchedd dysgu. Mae’r ysgol yn sicrhau ei bod yn dathlu ei chymuned amrywiol trwy’r amgylchedd. Mae staff yn sicrhau bod adnoddau chwarae, delweddau a llyfrau yn cynrychioli pob un o’r disgyblion, eu teuluoedd a’u profiadau. Mae hyn yn rhoi ymdeimlad cryf o berthyn i ddisgyblion ac yn annog cysylltiadau pwrpasol rhwng cartrefi disgyblion a’r gymuned. At ei gilydd, mae effaith y dull ‘addysgeg araf’ hwn yn galluogi disgyblion i ailedrych ar eu syniadau ac yn cefnogi eu taith ddysgu unigol. Mae gwerthfawrogi chwilfrydedd plant fel “adegau addysgadwy” wedi arwain at lawer o brofiadau annisgwyl sy’n cynnig cyfle ar gyfer dysgu, a disgyblion yn gofyn cwestiynau i ddyfnhau eu dealltwriaeth ymhellach.

 

                                    

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Ar hyn o bryd, mae’r ysgol mewn partneriaeth â chonsortia rhanbarthol ar gyfer datblygiad proffesiynol yn y blynyddoedd cynnar. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys rhannu enghreifftiau o arfer effeithiol o addysgeg y blynyddoedd cynnar, cynnal digwyddiadau rhannu arferion, ymchwil i lywio’r cynnig dysgu proffesiynol a chyfrannu at gyfarfodydd rhwydwaith y blynyddoedd cynnar. Arweiniodd yr ysgol brosiect ymchwil clwstwr yn seiliedig ar sut mae dull Froebelaidd yn cefnogi dysgu pwrpasol yn y blynyddoedd cynnar.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol